CymraegEnglish
Gofalwyr ifanc yw plant a phobl ifanc sy'n gofalu am, neu'n helpu i ofalu am, aelod o'r teulu neu ffrind sydd â salwch, anabledd, neu sy'n cael ei effeithio gan gyflwr iechyd meddwl neu gaethiwed.
Bydd ystod a chyfrifoldebau pob gofalwr ifanc yn wahanol ond bydd rhai gofalwyr ifanc yn ymgymryd â thasgau gofalu fel:
Gallwch fod yn ofalwr ifanc ar unrhyw oedran; bydd rhai plant yn darparu gofal mor ifanc â 5 oed. Rydym yn aml yn siarad am ‘oedolion ifanc sy’n ofalwyr’ pan fydd rhywun rhwng 18 a 25 oed ac yn darparu gofal di-dâl.
Gwn fod tua 22,250 o bobl ifanc o dan 25 oed yn ofalwyr ifanc neu'n oedolion ifanc sy’n ofalwyr. O'r rhain, mae tua 8,250 o dan 18 oed.
Fydd llawer o bobl ifanc ddim yn cydnabod eu bod yn ofalwyr ifanc felly mae'n bosibl bod hyd yn oed mwy o ofalwyr ifanc yng Nghymru nag yr ydym yn gwybod amdanynt.
Mae gwasanaeth cymorth i ofalwyr ifanc ym mhob ardal o Gymru. Os ydych chi'n ofalwr ifanc, mae gen ti’r hawl i ofyn am gymorth i gydbwyso dy ofalu a'r pethau sy'n bwysig i ti, fel treulio amser gyda dy ffrindiau, cymryd seibiant a chydbwyso dy fywyd ysgol a chartref.
Gall gwasanaeth gofalwyr ifanc lleol dy helpu i gael y cymorth sydd ei angen arnot.
Mae’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr yn gweithio gydag amrywiaeth o sefydliadau gofalwyr lleol ledled Cymru sy'n darparu cymorth i ofalwyr ifanc. Gallai'r rhain gynnwys grwpiau cymdeithasol, gweithgareddau, dy gefnogi i gael mynediad at y cymorth sydd ei angen arnot gartref, neu gymorth i ti yn yr ysgol.
Gallet ddod o hyd i dy wasanaeth Ymddiriedolaeth Gofalwyr lleol yma
Efallai y bydd y Cynllun Seibiannau Byr a’r Gronfa Cymorth Gofalwyr yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr hefyd yn gallu dy helpu fel gofalwr ifanc.
Mewn rhai ardaloedd, efallai y bydd dy wasanaeth gofalwyr ifanc yn cael ei redeg gan dy awdurdod lleol neu sefydliad gwahanol. Bydd dy awdurdod lleol yn gallu dy gyfeirio at y gwasanaeth hwnnw. Cysyllta ag Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru os oes angen cefnogaeth arnot i ddod o hyd i'r gwasanaeth cywir yn dy ardal: wales@carers.org.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth a chymorth i ofalwyr ifanc yma
Mae'r YCID, neu gerdyn Adnabod Gofalwyr Ifanc, yn gerdyn syml sydd ar gael ledled Cymru i helpu gweithwyr proffesiynol gan gynnwys meddygon, athrawon a fferyllwyr i adnabod a chefnogi gofalwyr ifanc.
Bydd yr YCID yn edrych yn wahanol mewn gwahanol ardaloedd ledled Cymru ond bydd pob cerdyn yn cynnwys logo YCID.
Gelli ddod o hyd i YCID o dy awdurdod lleol neu o dy wasanaeth gofalwyr ifanc lleol.
Fel gofalwr ifanc, efallai y bydd angen cymorth ychwanegol arnat yn yr ysgol neu'r coleg i gydbwyso dy rol ofalu ac addysg. Cysyllta ag athro dibynadwy neu Arweinydd Gofalwyr Ifanc dy ysgol neu goleg, a all hefyd fod yn rhan o'r Tîm Llesiant. Dylent dy gefnogi yn yr ysgol a'th rhoi mewn cysylltiad ag unrhyw wasanaethau a allai dy helpu yn dy gymuned.
Diolch i Gyngor Ieuenctid Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru am ddatblygu’r cynnwys hwn