Ysbrydoli gofalwyr ifanc mewn ysgolion: gwaith Helen Jones yn nhîm Gofalwyr Bwrdeistref Caerffili
CymraegEnglish
Lluniau Helen Jones ar yr ochr bellaf dde
Mae Helen Jones yn Weithwraig Cefnogi Gofalwyr yn Nhîm Gofalwyr Bwrdeistref Caerffili, ac fel rhan o’i gwaith mae’n mynd i mewn i ysgolion i gefnogi gofalwyr ifanc.
Gweithio gyda gofalwyr ifanc ac ysgolion
Gellir cyfeirio gofalwyr ifanc mewn ysgolion at ein gwasanaeth trwy atgyfeiriad JAFF (Cyd Asesiad Fframwaith Teuluoedd) sy’n adnabod anghenion y teuluoedd neu’r unigolion ac sy’n gallu eu cyfeirio at y gwasanaeth neu brosiect cywir.
Unwaith y cafodd gofalydd eu cyfeirio at ein gwasanaeth, fe gawn sgwrs “beth sy’n bwysig” i benderfynu am bwy maen nhw’n gofalu, eu rôl ofalu a sut allwn ni eu cefnogi.
Unwaith y cafodd gofalydd ifanc eu hadnabod, efallai y cânt gyfle i ymuno â grŵp gofalwyr ifanc yn eu hysgol. Mae grwpiau cyd-gefnogi gofalwyr ifanc a chyd-gefnogi yn gallu bod mor werthfawr.
Mae hyn yn dangos fod yna bobl ifanc eraill mewn sefyllfaoedd tebyg ac nad ydynt ar eu pen eu hunain. Pan maen nhw mewn grwpiau, mae pawb yn cael cyfle i drafod problemau, gofidiau neu bryderon, a gall wneud gwahaniaeth i wybod fod cefnogaeth ar gael gan eraill sy’n delio â sefyllfaoedd tebyg.
Maen nhw’n cael y cyfle hefyd i ddarganfod beth sydd wedi gweithio i eraill, all ehangu eu gorwelion, a rhoi rhywbeth newydd i roi cynnig arno.
Cysylltu gydag ysgolion
Mae gen i berthynas dda iawn gyda fy ysgolion, sy’n sicrhau ein bod yn gweithio gyda’n gilydd i gynnig cymaint o gefnogaeth â phosib i’n gofalwyr ifanc.
Yn gyffredinol, rwyf yn cysylltu ag ysgolion trwy dimau Llesiant neu’r CADY, pan rydym yn trafod a chefnogi gofalwyr ifanc. Pan gynhelir cyfarfodydd Panel Amlasiantaethol mewn ysgolion, rydyn ni’n cael gwahoddiad i fod yn bresennol os oes gofalwyr ifanc yn cael eu trafod.
Rydyn ni’n hyrwyddo’r cerdyn drwy ein gwasanaeth, wrth inni gysylltu â gofalwyr ifanc ac ysgolion yn ein digwyddiadau.
Y Cerdyn Adnabod Gofalwyr Ifanc mewn ysgolion
Oherwydd eu rôl ofalu, gall rhai pobl ifanc gyrraedd yr ysgol neu goleg yn hwyr a gallant deimlo’n annifyr am orfod dweud pan maen nhw’n hwyr. Felly, mae’r cerdyn yn ffordd gynnil o ddangos pam maen nhw’n hwyr, heb orfod esbonio eu hamgylchiadau i ystafell llawn cyfoedion.
Ar ôl y wers, gall yr aelod staff fynd â nhw i’r naill ochr a gwneud yn siŵr fod popeth yn iawn a holi a oes angen unrhyw gefnogaeth.
Rwy’n gwybod am un gofalydd ifanc sy’n defnyddio’r Cerdyn Adnabod Gofalwyr Ifanc i gasglu ei frodyr a chwiorydd o’r ysgol, gan fod mam yn gallu bod yn dost/sâl ac yn methu eu casglu ei hunan.
Rydyn ni’n hyrwyddo’r cerdyn drwy ein gwasanaeth, wrth inni gysylltu â gofalwyr ifanc ac ysgolion yn ein digwyddiadau. Rydym hefyd yn cynnig gwasanaethau mewn ysgolion, lle y caiff y wybodaeth hon ei rhannu, ynghyd â ffurflenni cais ar gyfer y cerdyn.