Trwsio Cefnogaeth i Ofalwyr Ifanc: Ymagwedd Chloe Powell yn Ysgol Gyfun Radyr
CymraegEnglish
Chloe Powell yw’r Arweinydd Gweithredol ar gyfer Gofalwyr Ifanc yn Ysgol Gyfun Radur yng Nghaerdydd
Cofnodi gofalwyr ifanc
Mae cofnodi statws gofalydd ifanc ein dysgwyr yn rhan bwysig o ddilyn eu cynnydd ac o ofalu eu bod yn cael y gefnogaeth maen nhw ei hangen.
Rwyf yn cofnodi pob gofalydd ifanc trwy gronfa ddata fyw sy’n tracio a ydynt yn Gymwys am Brydau Ysgol Am Ddim (EFMA) neu os oes ganddynt Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn ogystal â chofnodi a gawsant asesiad gofalydd.
Mae’r data hwn yn cael ei rannu gyda’r holl staff addysgu fel eu bod yn gwybod am yr unigolion.
I’n helpu i adnabod gofalwyr ifanc cyn gynted ag y bo modd, mae ein ffurflen dderbyn yn cynnwys adran i’w llenwi gan rieni os yw eu plentyn yn ofalydd ifanc ac, yn ystod cyfnod pontio blwyddyn 6, bydd y tîm bugeiliol yn cysylltu â phob ysgol gynradd fwydo i holi a oes ganddynt unrhyw ofalwyr ifanc a rhoi darpariaeth ar waith ar gyfer mis Medi.
Codi ymwybyddiaeth o ofalwyr ifanc yn ein hysgol
Rwyf yn cynnal gwasanaethau a gweithgareddau rheolaidd yn ystod amser dosbarth i godi ymwybyddiaeth o ofalwyr ifanc, yn ogystal ag ysgrifennu am ofalwyr ifanc trwy ebyst i rieni ac ar wefan yr ysgol.
Mae gennym bosteri gwybodaeth yn holl brif rannau’r ysgol, ac maent hefyd yn holl ardaloedd cymunedol y staff a swyddfeydd staff. Bob blwyddyn, rydym yn cymryd rhan yn Wythnos Gofalwyr ym mis Mehefin ac yn ei hyrwyddo o gwmpas yr ysgol.
Hyfforddiant rheolaidd er mwyn diweddaru staff
Cefnogi gofalwyr ifanc yn ein hysgol
Pan ddeuwn i wybod am ofalydd ifanc am y tro cyntaf, bydd un o’r gofalwyr ifanc eraill yn siarad â nhw i sefydlu cwlwm a’u helpu i deimlo’n fwy cyfforddus yn dod i’n sesiynau grŵp rheolaidd.
Rydym yn cynnig sesiynau galw-heibio rheolaidd pan mae eu hangen; mae rhai gofalwyr ifanc eisiau rhai bob wythnos ac mae’n well gan eraill gael cefnogaeth unigol.
Bob tymor rydym yn cynnal prosiect gwahanol gyda’r grŵp gofalwyr, gan edrych ar y pynciau penodol maen nhw eisiau eu harchwilio. Y tymor hwn, roedd yn brosiect coginio a llesiant.
Cafodd yr holl staff hyfforddiant yn barod ac rydym yn trefnu hyfforddiant rheolaidd er mwyn diweddaru staff.
Cysylltiadau rhwng ein hysgol ac asiantaethau allanol i gefnogi gofalwyr ifanc
Mae gennym berthynas dda gyda’r gweithiwr cymdeithasol ar gyfer gofalwyr ifanc o’n hawdurdod lleol.
Yn y gorffennol, cawsom sesiynau galw-heibio bob pythefnos oedd yn cael eu trefnu gan weithwyr cymorth yn yr ysgol, ond oherwydd cyfyngiadau ariannol, ni fu hynny’n bosib yn ddiweddar. Roeddent yn sesiynau cadarnhaol iawn ac roedd gofalwyr ifanc yn dod yn rheolaidd.
Mae’r holl staff bugeiliol yn yr ysgol yn gwybod sut i gyfeirio pobl at y ‘Porth Teuluoedd’ er mwyn cael cefnogaeth i ofalwyr ifanc y tu allan i’r ysgol, ond maen nhw’n rhoi gwybod imi, fel yr Arweinydd Gweithredol ar gyfer Gofalwyr Ifanc, yn gyntaf.
Y Cerdyn Adnabod Gofalwyr Ifanc
Mae’r gofalwyr ifanc yn hoffi’r Cardiau Adnabod gan eu bod yn rhoi lefel o ddiogelwch iddynt a thystiolaeth fod ganddynt rôl ofalu. Gellir ei ddefnyddio yn yr ysgol pan mae angen i’r gofalydd ifanc gofrestru’n hwyr neu adael yn gynnar.
Mae gofalwyr ifanc yn ein hysgol sydd wedi cael cynnig y Cerdyn Adnabod Gofalwyr Ifanc yn dweud eu bod yn rhoi sicrwydd ychwanegol iddynt pan maen nhw’n gorfod casglu meddyginiaeth i’w rhieni.
Nid oes gan rai o’n gofalwyr ifanc ieuengaf y Cerdyn Adnabod eto. Pan fydd y cyfle hwn ar gael iddyn nhw, fe fydden ni’n sicr yn rhoi gwybod i ofalwyr ifanc am hynny.