CymraegEnglish
Mae gofalwyr ifanc yn blant a phobl ifanc sy’n gofalu am neu’n helpu gofalu am aelod o’r teulu neu gyfaill a chanddynt salwch, anabledd neu sy’n cael eu heffeithio gan gyflwr iechyd meddwl neu gaethineb.
Mae gofalu’n effeithio ar brofiad gofalwyr ifanc mewn ysgolion a cholegau, gan gynnwys eu llesiant, prydlondeb, presenoldeb a chyrhaeddiad.
Gall ysgolion a cholegau chwarae rhan allweddol yn cyfeirio pobl ifanc at gefnogaeth, yn ogystal â chymryd camau i gefnogi eu dysgu. Amlygwyd rhai arferion effeithiol yn adolygiad thematig Estyn o ofalwyr ifanc (2019).
Ariannwyd Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu astudiaethau achos yn amlygu sut all gofalwyr ifanc gael eu cefnogi mewn ysgolion a cholegau, ac adnoddau i gefnogi’r gwaith o adnabod dysgwyr a chanddynt gyfrifoldebau gofalu a’u cynorthwyo gyda’u cyrhaeddiad a’u llesiant.
Mae’r casgliad o adnoddau diddorol a hygyrch ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd yn cynnwys cynlluniau gwersi a thaflenni gwaith a ffeithlenni i’w hargraffu. Cawsant eu datblygu i fod yn gydnaws â’r Cwricwlwm i Gymru (Llywodraeth Cymru, 2020).
Darllennwch ein hastudiaethau achos isod
Lawr lwythwch y casgliad o adnoddau rhad ac am ddim ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd yma
Darganfyddwch sut mae Helen Jones yn cefnogi gofalwyr ifanc mewn ysgolion, gan eu grymuso gyda grwpiau cyfoedion, cardiau adnabod, ac adnoddau hanfodol ar gyfer eu lles.
Gweler sut mae Carers Trust Crossroads Gorllewin Cymru yn grymuso gofalwyr ifanc mewn ysgolion drwy gefnogaeth cyfoedion, mannau diogel, a thimau cyrraedd pwrpasol.
Darganfyddwch sut mae Erica Stevens yng Nghanolfan Gofalwyr Pen-y-bont yn grymuso gofalwyr ifanc gyda chefnogaeth un-i-un, sesiynau grŵp, a’r Cerdyn Adnabod Gofalwyr Ifanc.
Archwiliwch sut mae Ysgol Gyfun Dŵr y Felin, dan arweiniad Sarah Powell, yn eiriol dros ofalwyr ifanc gyda chefnogaeth neilltuol, ymwybyddiaeth, a phartneriaethau allanol.
Darganfyddwch sut mae Chloe Powell yn Ysgol Gyfun Radyr yn grymuso gofalwyr ifanc gyda chefnogaeth arloesol, mentrau ymwybyddiaeth, a’r adnoddau hanfodol.
Gweler sut mae Ffion Wynne Edwards yn grymuso gofalwyr ifanc Gwynedd gyda chefnogaeth neilltuol, rhaglenni ysgol, a adnoddau unigryw fel y cerdyn YCID a'r ap.