Eirioli dros Ofalwyr Ifanc yn Ysgol Gyfun Dŵr y Felin: Model o Gefnogaeth ac Ymwybyddiaeth

CymraegEnglish

Mae Dŵr y Felin yn ysgol gyfun yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Arweinyddiaeth

Mae gennym aelod pwrpasol o staff ar gyfer gofalwyr ifanc, Sarah Powell. Hi yw’r pwynt cyswllt ar gyfer staff, disgyblion a’r gwasanaeth ieuenctid ar faterion gofalwyr ifanc.

Mae hi’n codi ymwybyddiaeth ac yn adnabod gofalwyr ifanc, gan gynnwys hysbysfwrdd yn cynnwys yr holl fanylion perthnasol am bwy i gysylltu â nhw ac unrhyw wasanaethau allanol eraill sydd ar gael.

Cefnogi staff

Mae pob aelod o staff yn gwybod at bwy y dylent gyfeirio gofalydd ifanc posib. Un o’r ffyrdd yr ydym yn codi ymwybyddiaeth staff yw trwy roi gwybodaeth am ofalwyr ifanc ar fwletinau staff. Mae cyswllt agos hefyd rhwng Sarah Powell a Swyddogion Ymgysylltu Bugeiliol.

Y gefnogaeth a gynigir i ofalwyr ifanc

Rydym yn cynnal cyfarfodydd wythnosol rheolaidd ar gyfer gofalwyr ifanc yn ein hysgol, ac mae aelodau staff hefyd yn caniatáu sesiynau galw-heibio yn ystod yr awr ginio ac adeg egwylion. Mae Sarah Powell yn danfon rhestr at staff penodol sy’n dysgu gofalwyr ifanc i sicrhau eu bod yn gwybod pwy ydynt.

Mae’r cardiau adnabod gan y gofalwyr ifanc, ac maen nhw’n cael eu hadnabod yn yr ysgol, ond mae llawer yn teimlo nad ydynt eu hangen yn yr ysgol gan bod staff yn gwybod amdanynt ac yn eu cefnogi’n barod.

pwynt cyswllt ar gyfer staff, disgyblion a’r gwasanaeth ieuenctid ar faterion gofalwyr ifanc

Gweithio gydag asiantaethau allanol

Rydym yn cysylltu’n agos â’r Gweithiwr Ieuenctid Gofalwyr Ifanc sy’n gefnogol iawn i’r gofalwyr ifanc. Maen nhw’n mynd i gyfarfodydd o leiaf unwaith y tymor ac yn cadw cysylltiad rheolaidd â disgyblion yn y clwb ieuenctid.

Mae gan y gweithiwr ieuenctid berthynas dda gyda Sarah Powell, ac maen nhw’n rhannu unrhyw bryderon sydd ganddynt, ac yn gofalu fod yr ysgol yn gwybod am unrhyw newidiadau fyddai’n effeithio gofalwyr ifanc.

Mae cefnogaeth allanol i ofalwyr ifanc trwy’r gweithiwr ieuenctid, sy’n cynnwys pecynnau llesiant, ac maen nhw’n mynd y filltir ychwanegol i sicrhau bod llesiant pob gofalydd ifanc yn yr ysgol yn cael ei ddiogelu.