Creu Cyfeillgarwch a Gwydnwch: Ymagwedd Erica Stevens at Gefnogaeth i Ofalwyr Ifanc ym Mhen-y-bont ar Ogwr
CymraegEnglish
Mae Erica Stevens yn Weithwraig Cefnogi Gofalwyr Ifanc yng Nghanolfan Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr.
Ein cynnig i gefnogi gofalwyr ifanc
Mae’r Tîm Gofalwyr Ifanc yng Nghanolfan Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr yn gweithio’n agos gyda’r ysgolion a’r colegau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i sicrhau bod gofalwyr ifanc yn cael y gefnogaeth maen nhw ei hangen.
Rydyn ni’n cynnig cefnogaeth un ac un iddynt mewn ysgolion, teithiau a gweithgareddau yn ystod gwyliau hanner tymor a haf. Mae gennym bedwar grŵp gwahanol ar gyfer oedrannau gwahanol: 5-9 oed, 10-12 oed, 13-17 oed ac 16 – 25 oed.
Mae gennym hefyd grŵp mentora cyd-ofalwyr, sy’n grŵp llai o tua 10 gofalydd ifanc. Mae’r grŵp hwn ar gyfer pobl sy’n teimlo’n ansicr am fynd i grwpiau mwy neu os nad ydynt ond newydd gael eu cyfeirio atom a ddim yn adnabod neb.
Mae’r grwpiau hyn yn gyfle iddyn nhw wneud ffrindiau ac adeiladu eu hyder, gan obeithio y byddant yn gwneud ffrindiau yn y grŵp bach hwn ac yn teimlo’n fwy cyfforddus am fynd i grwpiau mwy yn y dyfodol. Mae’r grŵp mentora cyd-ofalwyr sydd gennym wedi bod yn llwyddiannus gyda’n gofalwyr ifanc.
Pan gaiff rhywun eu cyfeirio atom drwy’r Llywodraeth Leol, ysgol, neu’r unigolyn ei hun, rydym yn mynd drwy’r holl bethau rydyn ni’n eu cynnig, gan gynnwys y gefnogaeth un ac un, gweithgareddau a theithiau adeg hanner tymor.
Rydyn ni’n gofalu fod pobl yn deall sut mae hyn yn gweithio, gan gynnwys sut i archebu lleoedd ar deithiau.
Yn ystod y broses hon rydyn ni’n gofyn i warcheidwaid y gofalwyr ifanc os hoffent gofrestru â ni er mwyn inni gysylltu â nhw am y teithiau a’r gweithgareddau ac a hoffent gael eu hychwanegu at restr ar gyfer cael cefnogaeth un ac un yn yr ysgol.
Mae rhestr aros fer ar gyfer y gefnogaeth hon ac rydyn ni’n gofalu eu bod yn gwybod am hynny. Rydym wedyn yn trefnu hyn yn uniongyrchol gyda’r Eiriolwyr Gofalwyr Ifanc yn eu hysgolion.
Rydym hefyd yn rhoi gwybod i ofalwyr ifanc am y Cerdyn Adnabod Gofalwyr Ifanc wedi iddynt gael eu cyfeirio atom. Rydyn ni’n rhoi gwybod iddynt am fanteision cael un a sut i gael un.
Mae’r grwpiau wedi creu ffrindiau agos ac wedi rhoi cyfle i’r gofalwyr ifanc sylweddoli nad ydynt ar eu pen eu hunain
Cefnogaeth yn yr ysgol
Fel tîm, rydyn ni’n cynnig sesiynau un ac un mewn ysgolion i ofalwyr ifanc i roi cyfle iddyn nhw siarad â rhywun am eu pryderon, gan na fyddent eisiau siarad amdanynt gydag aelod o’r teulu efallai.
Rydyn ni’n gwneud gweithgareddau yn ystod y sesiynau hyn, i’w cael i siarad yn fwy agored am eu teimladau a’u trafod.
Rydyn ni’n eu harwain trwy dechnegau meddylgarwch a ffyrdd o ymdopi â’u teimladau, gan ein bod yn deall y pryderon allai fod ganddynt am y ceraint maen nhw’n gofalu amdanynt.
Mae gan yr ysgolion uwchradd ym Mhen-y-bont Eiriolydd Gofalwyr Ifanc, sef aelod o staff y gall gofalwyr ifanc fynd atynt i gael cefnogaeth.
Mae’r rhan fwyaf o ysgolion hefyd yn cynnig Grwpiau Gofalwyr Ifanc o fewn oriau ysgol. Fe sylweddolom, o adborth gan ein gofalwyr ifanc yng Nghanolfan Gofalwyr Penybont ar Ogwr, fod ysgolion yn ei chael yn anodd cynnig grwpiau mewn ysgolion, gan fod y staff yn brysur gyda dyletswyddau eraill.
Felly, fe wnaethon ni gynnig eu trefnu a’u gwneud ein hunain, heb unrhyw bwysau ar y staff i’w trefnu na dod iddynt. Roedd hynny’n golygu fod y gofalwyr ifanc yn sicr o gael grŵp unwaith y mis.
Mae’r gofalwyr ifanc wedi dweud y buont yn ddefnyddiol, gan y gallant weld cymaint o ofalwyr ifanc sydd yn eu hysgol. Maen nhw hefyd yn gallu adnabod gofalwyr ifanc nad oeddent erioed wedi sylweddoli eu bod yn ofalwyr ifanc.
Mae’r grwpiau hyn wedi creu ffrindiau agos ac wedi rhoi cyfle i’r gofalwyr ifanc sylweddoli nad ydynt ar eu pen eu hunain. Yn y sesiynau hyn, rydyn ni’n trefnu gweithgareddau crefft, yn chwarae gemau bwrdd, ac yn darparu tamaid i’w fwyta,
Cerdyn Adnabod Gofalwyr Ifanc
Rydym yn hyrwyddo’r Cerdyn Adnabod Gofalwyr Ifanc trwy annog ein hatgyfeirwyr newydd i wneud cais am un gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Rydym hefyd yn gwneud gwasanaethau mewn ysgolion cyfun yn y fwrdeistref ac yn sôn bob tro am gael gafael ar Gerdyn Adnabod Gofalwyr Ifanc. Gallwn helpu’r teuluoedd i lenwi’r ffurflen a’i danfon.
Cawsom adborth gwych ganddyn nhw, gan eu bod yn cynnig aelodaeth blwyddyn i’r teulu cyfan gyda Halo (campfa leol, pwll nofio ac ati). Mae hefyd yn helpu gofalwyr ifanc i gasglu rhagnodiadau ar gyfer y bobl maen nhw’n gofalu amdanynt, sy’n wych.