Cryfhau Cefnogaeth Ysgolion i Ofalwyr Ifanc: Ymagwedd Carers Trust Crossroads Gorllewin Cymru
CymraegEnglish
Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Croesffyrdd Gorllewin Cymru yn fudiad gwirfoddol arbenigol sy’n rhoi cefnogaeth i ofalwyr di-dâl, ac mae ganddynt swyddfeydd yn Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion. Mae ganddynt dîm cryf yn cefnogi gofalwyr ifanc.
Cymorth wedi’i dargedu mewn ysgolion
Mae gennym dîm o Weithwyr Prosiect Ymgysylltu Addysgol pwrpasol sy’n gyfrifol am ein gwaith maes trwy gynnal perthnasoedd sefydledig gydag Arweinydd Gofalwyr, Tîm Llesiant, ac Uwch Dimau Rheoli pob ysgol.
Mae’r cysylltiadau hyn mewn ysgolion yn gefnogol iawn o’r gwaith a wnawn yn eu sefydliadau, sy’n golygu ei bod yn rhwyddach inni allu cynnig cefnogaeth i ofalwyr ifanc i’r dyfodol.
Mae’r tîm yn cefnogi gofalwyr ifanc mewn ysgolion trwy sesiynau unigol, arweiniad, a chydweithio gyda staff. Mae’r tîm yn:
- Meithrin amgylchedd ysgol cefnogol lle y mae gofalwyr ifanc yn teimlo’n gyfforddus yn datgelu eu rolau gofalu
- Sefydlu system ar gyfer rhoi gwybod am bryderon a mynd i’r afael â nhw, gan sicrhau preifatrwydd ac urddas y gofalwyr ifanc dan sylw
- Rhoi offerynnau i staff i’w galluogi i adnabod arwyddion y gallai myfyriwr fod yn ofalydd ifanc
- Cynnig arweiniad ar sut i gysylltu â gofalwyr ifanc a’u cefnogi, gan sicrhau cyfrinachedd a sensitifrwydd
- Annog datblygu rhwydweithiau cyd-gefnogi ymhlith myfyrwyr
- Hwyluso trafodaethau lle y gall myfyrwyr rannu eu profiadau a’u meddyliau, gan feithrin ymdeimlad o ddealltwriaeth a chymuned
- Cynnal sesiynau codi ymwybyddiaeth gofalwyr ifanc yn unol â chwricwlwm yr ysgol a disgwyliadau Estyn
- Ymgorffori materion perthnasol mewn pynciau fel addysg iechyd neu ddatblygiad personol.
gofod diogel mewn ysgolion i ofalwyr ifanc a myfyrwyr eraill allai fod eisiau cyflwyno eu hunain
Trwy gynnal presenoldeb cryf a mynd ati o ddifrif i gefnogi gofalwyr ifanc yn y sefydliadau hyn mae ein tîm o Weithwyr Prosiect Ymgysylltu Addysgol wedi cefnogi ysgolion i ddynodi fod 10% o'r rhai sy'n mynychu'r sesiynau ymwybyddiaeth yn ofalwr ifanc.
Gwerth grŵp cyd-gefnogi gofalwyr ifanc mewn ysgolion
Yn aml iawn mae gofalwyr ifanc yn cael teimladau o unigrwydd ac unigedd. Trwy grwpiau cyd-gefnogi a rhwydweithiau cefnogi, gallant gysylltu gydag eraill yr un oed â nhw sy’n rhannu profiadau a heriau tebyg, gan eu helpu i wneud ffrindiau a theimlo’n llai unig.
Yn ogystal â’n grwpiau cyd-gefnogi rydym wedi sefydlu clybiau cinio gofalwyr ifanc mewn 5 o’r 12 ysgol uwchradd ar draws y sir lle rydym yn partneru gyda thîm yr awdurdod lleol i greu gofod diogel mewn ysgolion i ofalwyr ifanc a myfyrwyr eraill allai fod eisiau cyflwyno eu hunain.
Cerdyn Adnabod Gofalwyr Ifanc
Yn ystod ein sesiynau ymwybyddiaeth rydym yn hyrwyddo’r defnydd o gardiau adnabod, sydd fel arfer yn cael eu darparu gan arweinydd gofalwyr yr ysgol neu’n cael eu llenwi gan y gofalwyr ifanc eu hunain.
Rydym yn cynorthwyo’r ysgolion i ddeall, pan gyflwynir y cerdyn gofalwyr ifanc yn yr ysgol, y dylid defnyddio “agwedd peidio gofyn cwestiynau” o flaen myfyrwyr eraill a’u bod yn cael lle i leisio eu pryderon/gofidiau.
Mae nifer fawr o ofalwyr ifanc o bob rhan o’r sir wedi gwneud cais am y cerdyn adnabod gofalwyr ifanc oddi wrth ein gwasanaeth a thîm yr awdurdod lleol. Mae angen yn awr i ofalwyr ifanc weld o ddifrif y buddion y gall y cerdyn eu cynnig iddynt er mwyn iddo gael yr effaith a fwriadwyd iddo yn y gymuned.