Adnoddau Arloesol i Ofalwyr Ifanc: Ymagwedd Ffion Wynne Edwards yn Cyngor Gwynedd

CymraegEnglish

Ffion Wynne Edwards yw’r Swyddog Gofalwyr Ifanc yng Nghyngor Gwynedd.

Cefnogaeth i ofalwyr ifanc

Gall gofalwyr ifanc yng Ngwynedd gael gafael ar gefnogaeth un ac un trwy ein mudiad trydydd parti, Gweithredu dros Blant. Gellir ei drefnu trwy ffurflen atgyfeirio syml gan weithiwr proffesiynol, neu gan y gofalydd ifanc eu hunain trwy ein gwefan (www.aidi.cymru).

Mae unrhyw berson sy’n gofyn am gefnogaeth fel gofalydd ifanc yn cael cynnig Asesiad Anghenion Gofalwyr Ifanc, sy’n ein galluogi ni i ddeall pa gefnogaeth allai fod ei hangen ar y gofalydd ifanc hwnnw neu honno.

Cefnogaeth i ofalwyr ifanc mewn ysgolion

Mae ein gofalwyr ifanc yn haeddu dim llai nac ysgol garedig a chydymdeimladol, a gyda’n cymorth ni mae ysgolion wedi dod yn fwy gwybodus am fywydau ein gofalwyr ifanc.

Rydyn ni’n cefnogi ysgolion trwy gynnal gwasanaethau ymhob ysgol yng Ngwynedd, yn esbonio’n fanwl sut all gofalwyr ifanc ddod o hyd i help a gwybodaeth, gan gynnwys cael gafael ar y Cerdyn Adnabod Gofalwyr Ifanc a’r ap.

Rydyn ni’n dangos ffilm i ysgolion cynradd ac yn gadael llyfryn gwybodaeth y gallent fynd ag ef adref, sydd hefyd yn llyfr lliwio.

Ar gyfer ysgolion uwchradd, rydyn ni’n dangos ffilm ddogfen fer ar y Cerdyn Adnabod Gofalwyr Ifanc, ap Aidi a sut allant helpu bywydau ein gofalwyr ifanc. Rydyn ni’n cymryd gwybodaeth ac yn ei rhoi yn nwylo pawb allai fod ei hangen.

Rydym wedi gweithio’n agos gyda’n hysgolion i ofalu fod gan bawb gyswllt penodedig ar gyfer gofalwyr ifanc yn yr ysgol, a nhw yw’r pwynt cyswllt wrth ddefnyddio’r ap.

Rydyn ni hefyd yn cynnig rhaglen hyfforddi athrawon er mwyn rhoi gwybod i athrawon sut i gefnogi gofalwyr ifanc.

Rydyn ni’n cymryd gwybodaeth ac yn ei rhoi yn nwylo pawb allai fod ei hangen

Cerdyn Adnabod Gofalwyr Ifanc

Mae’r cerdyn yn cael ei adnabod mewn ysgolion oherwydd yr ymdrechion a wnawn i godi ymwybyddiaeth.

Mae gan y cerdyn AP yng Ngwynedd a Môn, ac mae hwn yn adnodd gwych er mwyn i ddisgyblion gadw cysylltiad â’u hathrawon a rhwydweithiau cefnogi mewn ysgolion. Edrychwch ar ein gwefan i gael gwybod mwy am yr ap (www.aidi.cymru).

Mae gennym gynllun cynigion gyda’n cerdyn ac un o’r buddion mawr sydd gennym yw’r nofio am ddim ar gyfer gofalydd ifanc a ffrind. Mae hyn yn eu galluogi i gael seibiannau mawr eu hangen a chael hwyl.

Rydym wedi creu fideo yn gofyn i ofalwyr ifanc rannu eu profiadau o’r Cerdyn Adnabod Gofalwyr Ifanc, a rhoddodd hynny adborth cadarnhaol iawn inni.