Adnoddau Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc 2022

CymraegEnglish

Gweithredu ar Unigedd

Cynhelir Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc 2022 ar 16 Mawrth 2022. Mae gennym lawer o adnoddau rhad ac am ddim i’ch helpu i gymryd rhan.

Maent ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg a gellir eu defnyddio ar draws gwledydd Prydain. Gallwch ddefnyddio’r adnoddau fel y maent neu ychwanegu eich logo eich hun atynt.

Pump person ifanc gyda marc cwestiwn uwchben y person yn y canol

Adnoddau ar gyfer gofalwyr ifanc ac oedolion ifanc sy’n ofalwyr

Pecyn Ymgyrchu Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc

Defnyddiwch y pecyn hwn i ymgyrchu a chodi ymwybyddiaeth am ofalwyr ifanc ac oedolion ifanc sy’n ofalwyr a’r materion sy’n bwysig ichi. Mae llwyth o awgrymiadau ar sut allwch gynllunio a gweithredu i gefnogi nodau #YoungCarersActionDay.

Poster Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc, Pwy Sydd Ar Goll?

Gellir rhoi’r poster A4 hwn ar hysbysfyrddau i annog eraill i gymryd rhan yn Niwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc.

Poster Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc, Pwy Sydd Ar Goll? Chi Efallai?

Piniwch y poster A4 hwn ar hysbysfwrdd i annog gofalwyr ifanc ac oedolion ifanc sy’n ofalwyr i gael cefnogaeth. Mae hefyd yn dweud wrth bawb sut allant gymryd rhan yn Niwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc.

Adnoddau ar gyfer y gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda gofalwyr ifanc ac oedolion ifanc sy’n ofalwyr

Poster Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc, Gweithredu ar Unigedd

Argraffwch y poster A4 hwn a’i arddangos mewn lleoedd fel ysgolion, colegau, clybiau ieuenctid a meddygfeydd.

Mwy am Ddiwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc 2022

Dysgwch fwy am Ddiwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc 2022.