Pecyn Ymgyrchu Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc 2023
CymraegEnglish
Helpwch ni i alw ar wneuthurwyr penderfyniadau i gefnogi gofalwyr ifanc ac oedolion ifanc sy’n ofalwyr ar gyfer Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc!
Bwriad Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc yw codi ymwybyddiaeth gyhoeddus am ofalwyr ifanc ac oedolion ifanc sy’n ofalwyr a cheisio creu newid iddyn nhw a’u teuluoedd.
I helpu gwneud hynny, rydym wedi paratoi pecyn ymgyrchu fydd yn helpu’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr a Phartneriaid Rhwydwaith a gofalwyr ifanc/oedolion ifanc sy’n ofalwyr i ymgysylltu â gwneuthurwyr penderfyniadau lleol a galw arnynt i ddangos cefnogaeth i ofalwyr ifanc ac oedolion ifanc sy’n ofalwyr.
Yn ein pecyn ymgyrchu:
Rhagor o wybodaeth am e-ymgyrchu digidol neu ymgysylltu a’ch cyfryngau lleol
Cynnig drafft ar gyfer cynghorau
Bydd y llythyron templed yn eich helpu i roi cychwyn arni, ond i gael yr ymateb gorau cofiwch eu personoleiddio ac ychwanegu eich profiadau a’ch storïau eich hun.
Beth rydym yn ceisio’i gyflawni eleni
Mae gofalwyr ifanc ac oedolion ifanc sy’n ofalwyr yn dweud wrthym dro ar ôl tro fod iechyd a llesiant yn wirioneddol bwysig iddynt, ond yn rhy aml mae eu rôl ofalu yn golygu eu bod wedi blino’n lân. Mae hynny’n arbennig o wir pan maent yn cydbwyso eu rôl ofalu gyda gwaith ysgol.
Mae gofalwyr ifanc ac oedolion ifanc sy’n ofalwyr yn dweud wrthym mai’r hyn maen nhw wir ei angen yw:
- gwell cefnogaeth gydag addysg ac mewn gweithleoedd.
- mwy o gyfleoedd i gael seibiannau.
- gwell cefnogaeth iechyd meddwl, megis cynghori neu therapi.
- mwy o gefnogaeth ariannol.
Helpwch ofalwyr ifanc ac oedolion ifanc sy’n ofalwyr i ymgyrchu am y gefnogaeth maen nhw ei hangen!
Un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o godi ymwybyddiaeth am ofalwyr ifanc ac oedolion ifanc sy’n ofalwyr yw siarad gyda’ch cynrychiolwyr etholedig. Gan ddibynnu ar ble rydych yn byw yng ngwledydd Prydain, mae ystod eang o bobl allai eich cynrychioli.
Gall y rhain gynnwys y canlynol:
Aelodau Seneddol – ASau (Senedd y DG)
Aelodau Senedd Yr Alban - ASAau (Senedd Yr Alban)
Aelodau’r Senedd – AoSau (Senedd Cymru)
Aelodau’r Cynulliad Deddfwriaethol – ACDau (Cynulliad Gogledd Iwerddon)
Meiri a Chynghorwyr Etholedig (Llywodraeth Leol)
DARGANFYDDWCH PWY SY’N EICH CYNRYCHIOLI CHI
Cysylltwch â nhw i ofyn am gyfarfod neu i ofyn iddynt gymryd cam penodol i gefnogi #YoungCarersActionDay.
Os hoffech unrhyw gyngor a chefnogaeth ar gyfer cyfarfod â’ch aelodau etholedig lleol, cofiwch gysylltu â policy@carers.org ac fe wnawn ein gorau i helpu.