Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc 2023

CymraegEnglish

Felly, pryd mae Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc y flwyddyn nesaf?

15 Mawrth 2023 – cadwch y diwrnod yn glir!

Gwych! A beth yw thema Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc y flwyddyn nesaf?

Y thema ar gyfer 2023 yw Gwnewch Amser i Ofalwyr Ifanc

Pam wnaethon ni ddewis y thema hon?

Dros yr ychydig fisoedd rydym wedi siarad â channoedd o ofalwyr ifanc mewn gwyliau yn Swydd Hampshire, Cymru a’r Alban. Yr un mater a gododd dro ar ôl tro oedd pa mor bwysig oedd eu hiechyd a llesiant iddynt.

Rydym yn gwybod ei bod yn hawdd i ofalwyr ifanc gael eu llethu oherwydd yr holl bethau mae’n rhaid iddynt eu gwneud ar gyfer eu rôl ofalu ar ben eu holl waith ysgol ac adolygu ar gyfer arholiadau. Beth ddywedodd gofalwyr ifanc wrthym oedd nad oes rhaid i bethau fod fel hyn. Maen nhw’n meddwl mai’r pethau fyddai’n lleddfu’r pwysau arnynt a’u gwneud yn hapusach ac iachach yw :

  • gwell cymorth mewn ysgolion
  • gallu manteisio ar fwy o seibiannau
  • gallu derbyn mwy o gefnogaeth cynghori
  • a mwy o gymorth ariannol.
 

Buom hefyd yn siarad â’r intern oedolion ifanc oedd yn gweithio yn yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr  dros yr haf, a chanolfannau gofalwyr lleol sy’n rhan o Rwydwaith yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr. Roedd y trafodaethau hyn yn cefnogi’r hyn a glywsom mewn mannau eraill: mae gofalwyr ifanc angen i oedolion wneud mwy o amser ar eu cyfer fel y gallant gael y gefnogaeth maen nhw ei hangen i gydbwyso eu rôl ofalu gyda’u haddysg a hyfforddiant.

Ond beth mae ‘Gwnewch Amser i Ofalwyr Ifanc’ yn ei olygu mewn gwirionedd?

Mae ‘Gwnewch Amser i Ofalwyr Ifanc’ yn amlygu dau beth sydd mor bwysig i ofalwyr ifanc:

  • yr angen i weithwyr proffesiynol ac oedolion cyfrifol wneud mwy o amser i wrando ar ofalwyr ifanc yn esbonio’r heriau maen nhw’n eu hwynebu fel gofalwyr ifanc, fel y gallant gael gwell dealltwriaeth o’r gefnogaeth mae gofalwyr ifanc ei hangen mewn gwirionedd.
  • Unwaith maen nhw’n deall y math o gefnogaeth sydd ei hangen, mae angen i oedolion cyfrifol wneud yr amser i roi’r gefnogaeth honno ar waith.

Weithiau dim ond deng munud sydd ei angen i newid bywyd gofalydd ifanc

Buom yn siarad â gofalydd ifanc o’r enw Mariam am sut roedd yn teimlo wedi’i llethu yn yr ysgol gan fod rhaid iddi dreulio cymaint o amser ar ôl mynd adref yn gofalu am ei mam oedd yn methu symud heb deimlo poen difrifol. Oherwydd gofynion cyson ei rôl ofalu, roedd yn wirioneddol anodd i Mariam wneud ei gwaith cartref. O’r herwydd, roedd wastad yn teimlo nad oedd wedi paratoi, dan straen ac ar ei hôl hi gyda’i gwaith ysgol.

Newidiodd hynny i gyd pan ddaeth athrawes i siarad â hi. Gofynnodd yr athrawes y cwestiwn cywir: nid pam nad oedd Mariam wedi cyflwyno ei gwaith cartref, ond yn hytrach a oedd unrhyw beth yn ei gwneud yn anodd i Mariam wneud ei gwaith. Yr un cwestiwn syml yna, a pharodrwydd yr athrawes i wneud amser i wrando, oedd yr hyn roedd Mariam ei angen. Roedd yn gallu esbonio pam roedd yn cael trafferth i wneud ei gwaith cartref; ac roedd yr athrawes, oedd erbyn hyn yn deall yr heriau roedd Mariam yn eu hwynebu, yn gallu helpu Mariam i wneud cynllun ar gyfer blaenoriaethu beth roedd angen ei wneud, fel nad oedd yn teimlo dan gymaint o bwysau.

Fel y dywed Mariam,

“newidiodd y sgwrs ddeng munud yna fy mywyd gan ei bod wedi fy helpu i ddeall pa mor bwysig yw cael cymorth, a sut all tamaid bach o gymorth fod yn gymaint o help imi fel gofalydd ifanc i reoli popeth mae angen imi ei wneud.”

Pryd fydd adnoddau Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc ar gael i’w lawr lwytho?

ddydd Gwener 16eg Rhagfyr. Ond cadwch olwg hefyd ar yr hafan hon, gan mai dyma lle fyddwn yn rhannu’r holl gynnwys anhygoel a grëwyd gan ofalwyr ifanc ac oedolion ifanc sy’n ofalwyr wrth baratoi ar gyfer y diwrnod!

Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os hoffech gael mwy o wybodaeth am Ddiwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc, danfonwch e-bost at youngcarers@carers.org

Cofiwch gael gwybod am yr holl newyddion ac ymgyrchoedd diweddaraf!

Our cookies

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website.
You can allow or reject non essential cookies or manage them individually.

Reject allAllow all

More options  •  Cookie policy

Our cookies

Allow all

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website. You can allow all or manage them individually.

You can find out more on our cookie page at any time.

EssentialThese cookies are needed for essential functions such as logging in and making payments. Standard cookies can't be switched off and they don't store any of your information.
AnalyticsThese cookies help us collect information such as how many people are using our site or which pages are popular to help us improve customer experience. Switching off these cookies will reduce our ability to gather information to improve the experience.
FunctionalThese cookies are related to features that make your experience better. They enable basic functions such as social media sharing. Switching off these cookies will mean that areas of our website can't work properly.
AdvertisingThese cookies help us to learn what you're interested in so we can show you relevant adverts on other websites and track the effectiveness of our advertising.

Save preferences