Adnoddau Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc 2023

CymraegEnglish

Mae ein hadnoddau Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc (YCAD) 2023 ar gael i’w lawr lwytho yn awr! 

EWCH DRWY EIN PECYN YMGYRCHU NEWYDD

Cynhyrchwyd y rhain i helpu gofalwyr ifanc ac oedolion ifanc sy’n ofalwyr, eu ffrindiau, a gweithwyr proffesiynol allai ddod i gysylltiad â gofalwyr ifanc i gymryd rhan yn YCAD eleni.

Mae’r pecyn gweithgareddau yn cynnwys llwyth o syniadau da ar gyfer gweithgareddau a gweithredoedd y gall gofalwyr ifanc ac oedolion ifanc sy’n ofalwyr eu cymryd. A bydd y posteri yn helpu codi ymwybyddiaeth o’r diwrnod mawr, a dangos i bobl lle y gallant gael mwy o wybodaeth.  

Felly lawr lwythwch a rhannwch yr adnoddau hyn gyda’ch ffrindiau, teulu a chydweithwyr fel y gallwn ledu’r gair am Ddiwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc 2023!