CymraegEnglish
Dyma lle gallwch ddod o hyd i’r wybodaeth sydd angen arnoch am Ddiwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc (YCAD) 2021, a ddigwyddodd ar Mawrth 16 2021.
Edrychwch ar ein gwefan a #YoungCarersActionDay ar y cyfryngau cymdeithasol am fanylion am YCAD 2022.
Mae Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc yn ddigwyddiad blynyddol, a drefnir gan yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr.
Fe’i cynhaliwyd dros y chwe blynedd diwethaf i godi ymwybyddiaeth o ofalwyr ifanc a’r cyfraniad rhyfeddol a wnânt i’w teuluoedd ac i gymunedau lleol.
Hyd at hyn, roedd YCAD yn golygu Diwrnod Ymwybyddiaeth Gofalwyr Ifanc. Ond yn dilyn adborth gan ofalwyr ifanc, gwnaethom rai newidiadau, gan gynnwys yr enw!
Gallwch weld isod am rai o’r newidiadau a wnaethom i YCAD.
Diolch i adborth pwysig iawn gan ofalwyr ifanc, gwnaethom rai newidiadau pwysig iawn:
Cawsom nifer o sgyrsiau gwych gyda gofalwyr ifanc/oedolion ifanc sy’n ofalwyr. Roeddent yn dweud wrthym eu bod am i’r diwrnod edrych ar eu dyfodol, gan amlygu’r sgiliau anhygoel maen nhw wedi’u datblygu trwy fod yn ofalydd – fel cydnerthedd, rheoli amser ac empathi.
Mae’r rhain oll yn sgiliau pwysig, nid yn unig i bobl ifanc sy’n mynd i mewn i addysg uwch - ond hefyd i’r sawl sy’n bwriadu mynd i’r gweithle, Maent hefyd yn sgiliau y mae cyflogwyr yn rhoi pwys mawr arnynt.
Felly bydd YCAD 2021 yn canolbwyntio ar ddyfodol gofalwyr ifanc. Y thema yw: Diogelu Dyfodol Gofalwyr Ifanc.
Pan fuon ni’n siarad â gofalwyr ifanc/oedolion ifanc sy’n ofalwyr roeddent yn bendant iawn fod rhaid i YCAD 2021 roi sylw i weithredu a sicrhau newid i ofalwyr ifanc/oedolion ifanc sy’n ofalwyr.
Dyna pam rydym yn siarad â gofalwyr ifanc/oedolion ifanc sy’n ofalwyr ar hyn o bryd, fel y gallant ein helpu i ddatblygu camau y gall grwpiau gofalwyr ifanc/oedolion ifanc sy’n ofalwyr eu cymryd i ymgysylltu â chyflogwyr, a galw arnynt i gydnabod eu sgiliau fel bod cyflogwyr yn llawer mwy tebygol o recriwtio gofalwyr ifanc/oedolion ifanc sy’n ofalwyr.
A bydd gweithwyr yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr yn datblygu esboniadau polisi yn galw ar wneuthurwyr penderfyniadau ymhob un o genhedloedd y DU i ddatblygu Cynlluniau Gweithredu cenedlaethol newydd ar gyfer plant a phobl ifanc a chanddynt gyfrifoldebau gofal - sy’n gorfod rhoi sylw i addysg, cyflogadwyedd ac iechyd a llesiant.
Byddwn hefyd yn gwneud hon yn neges allweddol ar gyfer cyfweliadau ar y cyfryngau. Byddwn yn dweud fod gan ofalwyr ifanc/oedolion ifanc sy’n ofalwyr sgiliau rhyfeddol, ond bod angen i lywodraethau wneud mwy i wneud i sgiliau gofalwyr ifanc gyfrif – a dyna pam mae angen Cynlluniau Gweithredu arnom ar gyfer gofalwyr ifanc/oedolion ifanc sy’n ofalwyr.