Cyflogwyr: Sut allwch chi gefnogi gofalwyr ifanc

CymraegEnglish

Helpu gofalwyr ifanc i ryddhau eu potensial

Pwy sy’n ofalwyr ifanc?

Mae yna dros filiwn o bobl ifanc yn y DU sy’n ymdopi â phwysau bob dydd oherwydd eu bod yn gofalu am aelod o’r teulu sy’n methu â gofalu am ei hun.

Efallai eu bod nhw’n gwneud yn siŵr bod rhiant sydd â salwch tymor hir yn cael y feddyginiaeth iawn ac yn trefnu ymweliadau rheolaidd â’r ysbyty. Neu efallai eu bod nhw’n helpu rhiant i ofalu am frawd neu chwaer iau sydd ag iechyd meddwl gwael neu broblemau ymddygiadol.

Sut mae gofalwyr ifanc yn gallu cyfrannu yn y gweithle?

Mae bod yn ofalwr ifanc yn gallu, yn aml, helpu pobl ifanc i ddatblygu sgiliau gwerthfawr a fydd yn eu cefnogi gydol eu bywyd gweithio. Yn aml iawn, dydy’r sgiliau hyn ddim yn rhai y gellir eu dysgu trwy fynd i’r ysgol neu i goleg hyfforddi.

Cyfrifoldebau oedolyn ar ysgwyddau ifanc

Oherwydd bod yn rhaid iddyn nhw bob amser feddwl am y person y maen nhw’n gofalu amdano, mae gan lawer o ofalwyr ifanc synnwyr cryf o gyfrifoldeb. Maen nhw hefyd yn gallu dygymod yn dda, yn meddu ar sgiliau rheoli amser rhagorol ac yn gwybod sut i jyglo pethau i gyflawni’r dasg.  Ac oherwydd bod angen iddyn nhw fod mewn cytgord llwyr â’r person y maen nhw’n gofalu amdano, maen nhw’n hynod empathig. Mae’r rhain i gyd yn briodweddau trosglwyddadwy iawn y mae llawer o gyflogwyr yn edrych amdanyn nhw.

Ond dydyn nhw ddim bob amser yn sgiliau sy’n cael eu cydnabod gymaint ag y dylen nhw. Mae hynny oherwydd nad ydyn nhw’n cael eu dysgu trwy addysg neu brofiad gwaith. 

Sut y gall cyflogwyr helpu i ddiogelu dyfodol gofalwyr ifanc

Mae’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr eisiau cydweithio â chyflogwyr i greu dyfodol mwy disglair i ofalwyr ifanc. Rydym eisiau edrych ar sut, gyda’n gilydd, y gallwn chwalu rhwystrau sy’n sefyll yn llwybr gofalwyr ifanc i waith. Ac rydym eisiau meddwl am sut y gallwn fanteisio ar hyblygrwydd cynyddol yn y gweithle a fydd yn helpu gofalwyr ifanc i ffitio gwaith o amgylch eu cyfrifoldebau gofalu.

Rydym wedi datblygu tri cham allweddol y gall cyflogwyr eu cymryd i wneud eu gweithleoedd yn addas i ofalwyr ifanc wrth iddyn nhw symud i’r byd gweithio.

Mae cymryd y camau hyn yn ein helpu i greu dyfodol mwy disglair i bobl ifanc sydd â chyfrifoldebau gofalu. Bydd hefyd yn ehangu’ch cronfa o ddoniau, sy’n golygu y bydd pobl ifanc ar gael sy’n barod i ddatblygu’r sgiliau y maen nhw eisoes wedi’u dysgu fel gofalwyr ifanc a’u rhoi ar waith yn eich busnes neu’ch sefydliad.

  1. Gwelededd: Rydym yn galw ar gyflogwyr i sicrhau bod sgyrsiau ynglŷn â gofalu yn rhywbeth normal, ac ar gyflogeion i rannu eu siwrnai ofalu eu hunain. Mae modelau rôl mewn diwydiannau’n gallu ysbrydoli gofalwyr ifanc a dangos y gwahanol lwybrau a’u harweiniodd i’w gyrfa.
  2. Cydnabyddiaeth: Rydym yn galw ar gyflogwyr i gydnabod y sgiliau y mae gofalwyr ifanc a gofalwyr sy’n oedolion ifanc yn gallu dod â nhw i’r gweithle.
  3. Cyfleoedd: Rydym yn galw ar gyflogwyr i gynnig cyfleoedd i helpu gofalwyr ifanc i ddechrau siwrnai eu gyrfa, gan feithrin dyheadau a sgiliau a gwella llwybrau i gyflogaeth. Gallai hyn fod trwy ddiweddaru rhaglenni sydd eisoes yn bodoli i ddod yn fwy cynhwysol ar gyfer gofalwyr, neu drwy weithgareddau a rhaglenni wedi’u teilwra ar gyfer gofalwyr ifanc (e.e. diwrnodau cipolwg ar yrfaoedd, gweithdai sgiliau).

Rydym eisiau clywed oddi wrth gyflogwyr sy’n barod i gymryd camau sylweddol i gefnogi gofalwyr ifanc ledled y DU.

Gwrando ar rai cyflogwyr blaenllaw sydd eisoes yn cefnogi ein hymgyrch

Quilter: Supporting young carers to achieve their aspirations (English only)

Bloom and Wild (English only)

Mae gan bobl ifanc yr egni, y sgiliau a’r profiad i ddod yn arweinwyr yfory.

Ymrwymo i addewid cyflogwyr Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc

Cysylltwch â corporate@carers.org i drafod opsiynau ac i gofrestru. Lle bo’n bosibl, efallai y byddwn yn gallu’ch cefnogi â’r camau y byddwch yn eu cymryd.