Adnoddau Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc 2021
CymraegEnglish
Cynhelir Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc (YCAD) 2021 ar 16 Mawrth 2021. Mae gennym lwyth o adnoddau rhad ac am ddim i’ch helpu i gymryd rhan.
Maent ar gael yn Gymraeg a Saesneg a gellir eu defnyddio yn Lloegr, Cymru a’r Alban.
Gallwch ddefnyddio’r adnoddau fel y maent neu lawr lwytho fersiwn y gallwch ychwanegu eich logo eich hun ati.
Adnoddau ar gyfer gofalwyr ifanc
Cerdyn Sgiliau Gofalwyr Ifanc
Llanwch y cerdyn hwn a’i ddefnyddio ar gyfryngau cymdeithasol i roi gwybod i bobl am y sgiliau rydych wedi’u datblygu yn ofalydd ifanc.
Cerdyn Sgiliau ychwanegwch eich logo eich hun 1
Cerdyn Sgiliau ychwanegwch eich logo eich hun 2
Dyddlyfr Sgiliau Gofalwyr Ifanc
Defnyddiwch y dyddlyfr hwn i ysgrifennu i lawr yr holl sgiliau sydd gennych yn barod ac i gofnodi’r holl waith gwych rydych yn ei wneud yn cydbwyso gofalu ar ben popeth arall, gan gynnwys eich addysg. Mae hwn yn offeryn y gallwch ei ddefnyddio i helpu yn y dyfodol, er enghraifft pan rydych yn cynnig am gyrsiau, gwirfoddoli neu swyddi.
Dyddlyfr Sgiliau ychwanegwch eich logo eich hun 1
Dyddlyfr Sgiliau ychwanegwch eich logo eich hun 2
Pecyn Ymgyrchu
Defnyddiwch y pecyn hwn i godi ymwybyddiaeth o ofalwyr ifanc ac oedolion ifanc sy’n ofalwyr a’r materion sy’n bwysig ichi. Mae llwyth o awgrymiadau ar sut allwch gynllunio a gweithredu i gefnogi nodau #YoungCarersActionDay.
Adnoddau ar gyfer gofalwyr a’r gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda nhw
Poster Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc
Gellir argraffu’r poster A4 hwn a’i roi mewn lleoedd fel ysgolion, clybiau ieuenctid a meddygfeydd. Os yw hynny’n anodd oherwydd cyfyngiadau Coronafeirws, rhowch ef yn eich ffenestr.