CymraegEnglish
Croeso i'r gynhadledd undydd hon i ddathlu'r Cynllun Seibiannau Byr.
Dydd Iau 3ydd Hydref am 10:00AM ar Faes Criced eiconig Gerddi Sophia Caerdydd.
Bydd cynhadledd Trawsnewid bywydau: Cynllun Seibiannau Byr yn dathlu gwaith y prosiect a ariennir gan Lywodraeth Cymru i alluogi gofalwyr i gael seibiant haeddiannol.
Mae’n bleser gennym gyhoeddi y bydd Llywydd yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr, Ei Huchelder y Dywysoges Frenhinol, yn y gynhadledd. I ddangos pa mor bwysig yw hi i ofalwyr gael seibiant, bydd Ei Huchelder Brenhinol yn cwrdd â gofalwyr di-dâl, yn ogystal â’r partneriaid cyflenwi sydd wedi cymryd rhan yn y Cynllun Seibiannau Byr hyd yn hyn.
Bydd y gynhadledd undydd ysbrydoledig hon yn dod â gofalwyr a phartneriaid cyflawni ynghyd ag arbenigwyr o bob rhan o’r sector iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Mae mynychu yn golygu y byddwch yn gallu cysylltu ag unigolion o'r un anian a chael mewnwelediad hanfodol i sut y gallwn barhau i gydweithio i drawsnewid bywydau gofalwyr.
Cofrestru o 09:15 Gan gynnwys lluniaeth a chyfle i grwydro ein gofod arddangos. |
|
10:00 |
Croeso: esbonio’r cefndir
|
10:15 |
Sesiwn prif siaradwyr – Gwneud hawliau yn realiti: Cyflawni ar gyfer gofalwyr mewn partneriaeth
Cadeirir gan yr Athro Mark Llewellyn, Cyfarwyddwr ac Athro Polisi Iechyd a Gofal, Prifysgol De Cymru a Chadeirydd, Bwrdd Ymgynghorol Cymru yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr |
10:45 |
Sesiwn banel – Ymestyn yn bellach: seibiannau byr ar gyfer cymunedau nad ydym yn darparu’n ddigonol ynddynt
Cadeirir gan Dr Catrin Edwards, Pennaeth Materion Allanol - Cymru, Ymddiriedolaeth Gofalwyr |
11:30 | Egwyl luniaeth |
12:00 |
Sesiwn banel – Mae seibiant yn gwneud cymaint o wahaniaeth: sgwrs gyda gofalwyr
Cadeirir gan Ollie Mallin, Oedolyn Ifanc sy’n Ofalydd ac Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru 2018-2023 |
12:25 |
Sesiwn banel - Mae seibiant yn gwneud cymaint o wahaniaeth: effaith a gwerthuso
Cadeirir gan Rohati Chapman, Cyfarwyddydd Gweithredol ar gyfer Rhaglenni, Polisi & Effaith, Ymddiriedolaeth Gofalwyr |
13:00 |
Cinio a rhwydweithio |
14:00 |
Croeso’n ôl
|
14:10 |
Gwneud pethau’n wahanol: rhoi sylw i ofalwyr pobl â dementia
|
14:20 | Ychydig eiriau gan Dawn Bowden AoS, Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru |
14:25 |
Ychydig eiriau gan ein Llywydd, EHB Y Dywysoges Frenhinol |
14:35 |
Sesiwn banel - Gwneud pethau’n wahanol: arloesi wrth ddarparu seibiannau byr
Cadeirir gan Dr Catrin Edwards, Pennaeth Materion Allanol - Cymru, Ymddiriedolaeth Gofalwyr |
14:55 |
Sylwadau clo
|
Daw’r gynhadledd i ben am 15:00 Mae croeso i gynadleddwyr aros, crwydro ein gofod arddangos a rhwydweithio |
Bywgraffiadau Siaradwyr a Phanelwyr
Mae gofalwyr yn rhannu eu meddyliau a lluniau o'u hoe byr a beth mae'n ei olygu iddyn nhw. Mae eu geiriau'n tynnu sylw at bŵer a phositifrwydd cymryd saib o'u rôl gofalu.
Roedden ni wedi blino’n lân, yn llawn pryderon, a doedd gennym ddim amser ar gyfer unrhyw beth na neb, hyd yn oed ein gilydd. Roedden ni’n edrych ymlaen yn arw at gael seibiant, fel disgwyl eich hoff bwdin ar ôl bwyta llond plât o sbrowts meddal.
Dechreuais ofalu am fy nhad pan oeddwn tua 5 neu 6 oed. Dydw i ddim fel arfer yn mynd allan gymaint â phlant eraill. Gall fod yn eithaf anodd. Rwy’n hoffi cael seibiant o realiti weithiau.
rhagor o wybodaeth: Seibiannau Byr Cymru
Gobeithiwn y byddwch yn mwynhau'r diwrnod!