Profiadau gofalwyr di-dâl yn gofalu am rywun â dementia
CymraegEnglish
Mae adroddiad Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, ‘Profiadau gofalwyr di-dâl yn gofalu am rywun â dementia’, yn tynnu ar naratifau cyd-destunol gyfoethog gofalwyr pobl sy’n byw gyda dementia. Cynhaliwyd y cyfweliadau yn ystod y pandemig.
Wrth ymateb i’r themâu allweddol sy’n dod i’r amlwg, sef cydnabod gofalwyr a’r newid yn y berthynas ofalu, mae’r adroddiad yn argymell cymorth hyblyg, ystwyth a gwell dull partneriaeth rhwng gofalwyr a gwasanaethau statudol.
Bydd y canfyddiadau'n cyfrannu at ddatblygu adnoddau i godi ymwybyddiaeth ymhlith y rhai sy'n llunio polisïau a phenderfyniadau ynghylch angen heb ei ddiwallu am gymorth i bobl sy'n gofalu am rywun sy'n byw gyda dementia a chyflyrau iechyd hirdymor eraill.