Adroddiad: Gofalu Am Rywun Sy'n Byw  Dementia
CymraegEnglish
Mae’n bleser gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru lansio’r adroddiad newydd “Adroddiad: Gofalu Am Rywun Sy'n Byw  Dementia”. Mae’r adroddiad hwn wedi’i ddatblygu fel rhan o’n prosiect i sicrhau bod mwy o ofalwyr hŷn yn cael eu nodi a’u cefnogi, mewn partneriaeth ag Age Cymru ac wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru.
Daw’r adroddiad hwn yn sgil cyfres o sesiynau bord gron, wedi’u gwesteio ar lefel genedlaethol a rhanbarthol yng Nghymru, ac a fynychwyd gan amrywiaeth eang o arbenigwyr a gweithwyr proffesiynol yn maes dementia a gofal dementia. Ymhlith y sefydliadau a gynrychiolwyd oedd GIG Cymru, Sefydliad Shaw, Prifysgol Abertawe, Prifysgol Bangor, Shared Lives Plus, Gofal Cymdeithasol Cymru a Chymdeithas Alzheimer Cymru.
Mae’r adroddiad yn dwyn sylw at nifer o lwybrau i wella’r gefnogaeth i ofalwyr hŷn, a’n bwriad yw eu datblygu ar draws oes y prosiect, gan gynnwys:
- Sefydlu sesiynau dysgu ar gyfer y rheini sy’n gweithio ym maes dementia a gofal dementia, fel y bydd modd rhannu technegau ac offerynnau newydd a’u mabwysiadu’n eang
- Creu templed ‘proffil gofalwr’ ar gyfer gofalwyr, i’w rannu â sefydliadau. Bydd hyn yn sicrhau bod y gweithwyr proffesiynol y mae gofalwyr yn gweithio â nhw’n gwybod am eu sefyllfa bersonol, ac yn sicrhau na fydd yn rhaid iddyn nhw esbonio’u hamgylchiadau drosodd a thro i unigolion newydd
- Creu adnodd ‘sgyrsiau positif’ ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, lledaenu gwybodaeth am sut i gael sgyrsiau positif â gofalwyr, gan gynnwys geirfa o dermau meddygol sy’n gysylltiedig â dementia y gallai llawer o ofalwyr ei chael hi’n anodd eu deall.
Rydyn ni’n gobeithio y bydd yr adroddiad hwn yn offeryn defnyddiol i ateb yr heriau sy’n wynebu gofalwyr pobl sy’n byw â dementia ac i gyflwyno llwybrau newydd i gefnogaeth.