Adnoddau ar gyfer Gweithwyr Addysg Proffesiynol i Gefnogi Gofalwyr Ifanc mewn Ysgolion a Cholegau
Downloads
- Gofalwyr ifanc - Adnodd ar gyfer ysgolion cynradd
- Gofalwyr ifanc - Adnodd ar gyfer ysgolion uwchradd
- Adnoddau gwersi ar gyfer ysgolion cynradd
- Adnoddau gwersi ar gyfer ysgolion uwchradd
- Cefnogi gofalwyr ifanc
- Cysylltu a sefydliadau sy'n cefnogi gofalwyr ifanc
- Hawliau gofalwyr ifanc
- Llesiant emosiynol gofalwyr ifanc
Ariannwyd Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu adnoddau i gefnogi adnabod, cyrhaeddiad a llesiant disgyblion a chanddynt gyfrifoldebau gofalu.
Mae’r casgliad o adnoddau difyr a hygyrch ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd yn cynnwys cynlluniau gwersi a gweithlenni a ffeithlenni y gellir eu hargraffu. Fe’u datblygwyd yn unol â gofynion y Cwricwlwm i Gymru (Llywodraeth Cymru, 2020).
Mwy am yr adnodd
Datblygwyd yr adnoddau yn rhan o beilot hynod lwyddiannus o raglen ‘hyfforddi’r hyfforddydd’ ar gyfer eiriolwyr gofalwyr mewn ysgolion a ddarparodd hyfforddiant ac adnoddau i bobl a gymerodd ran.
Datblygwyd ein hadnoddau dwyieithog mewn partneriaeth â chonsortia addysg Cymru (ERW, EAS, GwE a CSC) a thrwy gydweithio â gwasanaethau gofalwyr, gweithwyr addysg proffesiynol ac AEM Estyn.
Mae’r adnoddau yn cysylltu gyda rhifedd, llythrennedd a dysgu digidol. Byddant hefyd yn helpu cefnogi cysylltiadau rhwng y cartref a’r ysgol a dysgu awyr agored. Fe’u cynlluniwyd i fod yn hyblyg fel y gall athrawon addasu cyfarwyddiadau yn seiliedig ar allu pob dysgwr, ond fe’u cynlluniwyd ar gyfer dysgwyr ym Mlwyddyn 3 a Blwyddyn 9.
Mae’r casgliad o adnoddau yn cynnwys:
Adnoddau gwersi ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd
Mae’r cyflwyniadau PowerPoint cynhwysfawr yn cynnwys awgrym o sgript ar gyfer staff a gweithgareddau, fideos ac astudiaethau enghreifftiol i’w defnyddio yn y dosbarth.
- Gofalwyr ifanc: Adnodd ar gyfer ysgolion cynradd.
- Gofalwyr ifanc: Adnodd ar gyfer ysgolion uwchradd.
Cynlluniwyd gweithlenni y gellir eu hargraffu, adnoddau gwersi, gweithgareddau a gemau er mwyn cyflawni deilliannau dysgu yn llinyn ‘Iechyd a Llesiant’ Cwricwlwm i Gymru (Llywodraeth Cymru, 2020).
- Adnoddau gwersi ar gyfer ysgolion cynradd.
- Adnoddau gwersi ar gyfer ysgolion uwchradd.
Ffeithlenni ar gyfer athrawon a staff ysgolion/colegau
- Llesiant emosiynol gofalwyr ifanc: Ffeithlen ar gyfer athrawon a staff ysgolion/colegau yng Nghymru
- Hawliau gofalwyr ifanc: Ffeithlen ar gyfer athrawon a staff ysgolion/colegau yng Nghymru.
- Cysylltu â sefydliadau sy’n cefnogi gofalwyr ifanc: Ffeithlen ar gyfer athrawon a staff ysgolion/colegau yng Nghymru.
Ffeithlen ar gyfer cyrff llywodraethol ysgolion a cholegau
Papur arweiniol ar gyfer cyrff llywodraethol ysgolion ar sut ellir gwreiddio gofalwyr ifanc yng nghwricwlwm uchelgeisiol newydd Cymru, ac amlinellu sut allai dulliau cadarnhaol o gynnwys gofalwyr ifanc edrych
- Cefnogi gofalwyr ifanc: Canllaw ynglŷn â gofalwyr ifanc ar gyfer cyrff llywodraethu ysgolion a cholegau.
E-bostiwch wales@carers.org i gael mwy o wybodaeth.