Newyddion a Digwyddiadau

CymraegEnglish

Newyddion a gwybodaeth ddiweddaraf am y prosiect Ymwybodol o Ofalwyr

Gallwch hefyd gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr yma.

 Diweddariad Prosiect Ionawr 2022

Digwyddiadau

18 Gorffennaf 2024 – Cynhadledd Ymwybodol o Ofalwyr 
Wnaeth y Gynhadledd Ymwybodol o Ofalwyr grynhoi 4 blynedd o brosiect Ymwybodol o Ofalwyr, gan edrych ar wersi a ddysgwyd ac yn amlygu arfer da ar lefelau strategol a gweithredol, o Gymru a thu hwnt, mewn un lle cyfleus. Edrychodd y digwyddiad ar sut mae gweithwyr proffesiynol ar draws y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol yn gweithio gyda gofalwyr di-dâl i leddfu’r straen ar wasanaethau a helpu symud y gofal y mae pobl yn ei dderbyn i ffwrdd o’r rhannau drutaf o’n gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Roedd hefyd yn gyfle i archwilio sut all gweithlu mwy Ymwybodol o Ofalwyr adnabod a chefnogi gofalwyr di-dâl yn well, cyflawni gofynion Strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer gofalwyr di-dâl a chyflawni’r dyletswyddau a’r cyfrifoldebau a amlinellir yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. 
 
I ddysgu mwy am y prosiect Ymwybodol o Ofalwyr ac ein gwaith gyda gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol, neu i gael gafael ar gopïau o rai o'r cyflwyniadau a rennir yng nghynhadledd Ymwybodol o Ofalwyr, cysylltwch â ni: 
 
Gallwch gysylltu ag Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yn: wales@carers.org  
 
Gallwch gysylltu â Gofalwyr Cymru yn: info@carerswales.org 
 
6 Tachwedd 2024 – Cynhadledd ac Arddangosfa Flynyddol Conffederasiwn GIG Cymru 2024.  
Bydd gennym stondin Ymwybodol o Ofalwyr a byddwn yn cynnal sesiwn yn y digwyddiad eleni. 

Dilynwch y ddolen i gael gwybod mwy, neu i gofrestru ar gyfer Cynhadledd ac Arddangosfa Flynyddol Conffederasiwn GIG Cymru 2024