Hyfforddiant a Digwyddiadau

CymraegEnglish

Hyfforddiant

Hyfforddiant Hawliau Gofalwyr ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol: Gwahoddiad I weminar am ddim (1 awr)

Cofrestrwch ar gyfer ein gweminarau rhad ac am ddim:
Dydd Iau 29 Medi 10-11am (TEAMS)
Dydd Mawrth 25 Hydref 9-10am (ZOOM)

Mae gweithwyr gofal iechyd proffesiynol wedi dweud wrthym nad ydynt bob tro’n hyderus am adnabod pwy sydd a phwy sydd ddim yn cael eu cynnwys yn y diffiniad o ofalydd di-dâl, pa fathau o ofal sy’n cael eu cynnwys yn y diffiniad, pa hawliau sydd gan ofalwyr, pa gymorth sydd ar gael a sut i ddod o hyd iddo.

Rydym wedi creu rhai animeiddiadau sy’n esbonio hawliau gofalwyr a ble y gallwch gael mwy o wybodaeth am y gefnogaeth sydd ar gael i ofalwyr. Mae rhai taflenni hefyd y gallwch eu cadw i’ch atgoffa ar ôl gwylio’r animeiddiad neu eu hargraffu ar gyfer eich swyddfa neu hysbysfwrdd (mae gennym fersiynau lliw llawn a du & gwyn er mwyn eu hargraffu’n rhwydd).

Mae’r animeiddiadau a’r taflenni ar gael yma:
Adnoddau  Ymddiriedolaeth Gofalwyr

Rydym hefyd yn cynnal sesiynau hyfforddiant ar-lein rhad ac am ddim ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, mae croeso i unrhyw sy’n gweithio mewn unrhyw rôl gofal iechyd. Cofrestrwch ar y dolenni uchod.

Neu cysylltwch â  ni yn wales@carers.org os hoffech inni gynnal sesiwn rad ac am ddim ar gyfer eich mudiad.

Hyfforddiant

Cydgynhyrchu gyda Gofalwyr mewn Lleoliadau Iechyd: Gwahoddiad i weminar am ddim 


Diweddariad: Mae'r digwyddiad hyfforddi hwn eisoes wedi'i gynnal, ond mae gennym recordiadau / sleidiau ar gael ac rydym yn dal i allu derbyn datganiadau o ddiddordeb ar gyfer prosiectau peilot. Am ragor o fanylion cysylltwch â dzilkha@carers.org

Beth yw’r cefndir?

Mae cydgynhyrchu’n digwydd pan ddaw gweithwyr proffesiynol a defnyddwyr gwasanaethau ynghyd i gyfuno eu profiadau bywyd a phroffesiynol, i ddylunio atebion i heriau anhydrin yn ein gwasanaethau a’n cymunedau.  Dull o weithio strwythuredig yw i sicrhau gwelliant cynaliadwy trwy werthfawrogi llais y bobl  a gefnogir, ochr yn ochr â lleisiau ein timau proffesiynol.

Sylweddolwn fod cydgynhyrchu yn dal i deimlo fel ffordd aneglur a mentrus i lawer o bobl, ac nad oes digon o ddefnydd ohono yn enwedig o fewn y sector iechyd; fodd bynnag, mae angen i ni weithio i'r cyd-destun deddfwriaethol a strategol yng Nghymru, ac mae arfer cydgynhyrchu’n golygu buddion go iawn i ddefnyddwyr gwasanaethau a gweithwyr proffesiynol.

Trwy’r weminar ‘blasu’ hwn, bydd Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru’n eich helpu i ddatblygu eich dealltwriaeth o gydgynhyrchu, pryd mae’n berthnasol, a pha fuddion y mae’n eu cynnig. Dyluniwyd y weminar ar gyfer y sawl sydd ag ychydig iawn neu ddim gwybodaeth am gydgynhyrchu, er mwyn eu hysbysu ac i ymgysylltu â nhw, ac i helpu ateb y cwestiwn ‘a yw cydgynhyrchu’n addas inni?’.

Adnoddau 

Gweler  y cofnodion gweledol o’n hyfforddiant diweddar.

Gweler rhai enghreifftiau o gydgynhyrchu gyda gofalwyr mewn lleoliadau gofal iechyd.