Dysgwch am hawliau gofalwyr

CymraegEnglish

Prosiect ar y cyd yw Ymwybodol o Ofalwyr, wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, rhwng Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru a Gofalwyr Cymru i gydweithio gyda gofalwyr di-dâl, gweithwyr proffesiynol gofal cymdeithasol a iechyd i roi mwy o hawl i ofalwyr di-dâl ymwneud â phenderfyniadau a gwasanaethau ar gyfer y bobl y maent yn gofalu amdanynt a hwy eu hunain.

Edrychwch ar yr adnoddau fideo a gynlluniwyd ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol sy’n esbonio’r hawliau sydd gan ofalwyr. Mae taflenni hefyd ar gael i gyd-fynd â’r animeiddiadau.

Gwyliwch y fersiwn Iaith Arwyddion Prydain (BSL) o fideo Ymwybodol o Ofalwyr ar wybod beth yw eich hawliau fel gofalydd di-dâl.