Beth yw'r Prosiect Ymwybyddiaeth o Gofalwyr?

CymraegEnglish

Prosiect ar y cyd yw Ymwybodol o Ofalwyr, wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, rhwng Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru a Gofalwyr Cymru i gydweithio gyda gofalwyr di-dâl, gweithwyr proffesiynol gofal cymdeithasol a iechyd i roi mwy o hawl i ofalwyr di-dâl ymwneud â phenderfyniadau a gwasanaethau ar gyfer y bobl y maent yn gofalu amdanynt a hwy eu hunain.

Mae’r prosiect yn gweithio gyda Chonffederasiwn GIG CymruCymdeithas Gweithwyr Cymorth Prydain (BASW) a Gofal Cymdeithasol Cymru i gael gwybodaeth a chymeradwyaeth ar gyfer y rhaglenni hyfforddi.

Nod y prosiect yw gweithio gyda staff ar bob lefel o’n systemau gofal cymdeithasol a iechyd er mwyn creu newid meddylfryd arwyddocaol er budd gofalwyr di-dâl yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys y canlynol:

  • codi ymwybyddiaeth o’r hawliau sydd gan ofalwyr di-dâl, ar sail y fframwaith a nodwyd gan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a roddodd hawliau eu hunain i ofalwyr di-dâl,
  • canfod a lledaenu arferion da sydd eisoes yn digwydd ledled Cymru
  • cefnogi gofalwyr di-dâl yn frwd i ymwneud yn fwy cyd-gynhyrchiol, i wneud newidiadau ar lefel bersonol a chyfundrefnol.

Ein nod yw gwrando ar bryderon amrywiol randdeiliaid a dadlau o blaid newidiadau a fydd yn ei gwneud yn bosibl i arferion da gael eu hymgorffori i waith gweithwyr proffesiynol o ddydd i ddydd sy’n rhyngweithio gyda gofalwyr di-dâl yn feunyddiol. 

Bydd yr amrywiol gyfraniadau yn cael eu cyfuno i greu adnoddau hyfforddi newydd mewn mathau niferus o gyfryngau a fydd yn hwylus ac yn fuddiol. Yn ogystal, bydd canllawiau ychwanegol ar gael i ofalwyr di-dâl er mwyn cefnogi eu dealltwriaeth o’r amrywiol systemau ac i’w hannog i weithio mewn partneriaeth gyda gweithwyr proffesiynol.

Ein bwriad cyffredinol yw meithrin meddylfryd sy’n cydnabod pwysigrwydd gofalwyr di-dâl ym mhob maes o’n systemau cymdeithasol a gofal iechyd mewn modd fydd yn cefnogi arferion proffesiynol ac yn gwella canlyniadau i gleifion a gofalwyr.

Pwy sy’n ofalwr di-dâl?

Mae unrhyw un sy’n darparu gofal di-dâl i rywun sydd yn glaf, yn hŷn, gydag anabledd, gyda phryderon iechyd meddwl neu gyda phroblemau caethiwed yn ofalwr di-dâl. Gallant fod yn unrhyw oedran, rhywedd neu hil ac maent fel arfer yn aelod o’r teulu neu’n ffrind.

Mae’r math o ofal yn amrywio o gefnogaeth gorfforol, emosiynol ac ariannol i ddarparu anghenion sylfaenol megis coginio a glanhau i ymyriad meddygol cymhleth yn gyfnodol neu’n feunyddiol.

Cyflawnir y camau hyn gan na all y person sydd angen gofal gynnal ei hun heb ymyriad rheolaidd y gofalwr neu’r gofalwyr di-dâl.

Gall gofalwr di-dâl ddarparu’r gofal hwn ar ben ei hun neu yn rhan o rwydwaith o bobl sy’n darparu elfennau gwahanol o ofal ar gyfer y person sydd angen cefnogaeth. Gall gofalwr di-dâl hefyd gael swyddogaethau gofal i’w jyglo os ydynt yn darparu cefnogaeth, yn aml o fathau gwahanol, i nifer o bobl.

Gofalwyr Ifanc

Mae unrhyw un o dan 18 oed sy’n darparu gofal i rywun yn Ofalwr Ifanc.

Mae gofalwyr ifanc yn gorfod jyglo addysg a gofal. Mae ganddynt yr un hawliau â gofalwyr sy’n oedolion ond bod angen cefnogaeth ychwanegol arnynt oherwydd eu hoedran a’u bod yn agored i niwed.

Am fwy o wybodaeth am ofalwyr ifanc, cliciwch yma 

 

Gofalwyr sy’n Oedolion Ifanc

Mae unrhyw un sydd rhwng 18 a 25 oed sy’n darparu gofal i rywun yn Ofalwr sy’n Oedolyn Ifanc.

Gall gofalwyr sy’n oedolion ifanc fod mewn addysg bellach, prentisiaeth neu ar ddechrau eu gyrfa. Mae’n bosibl eu bod wedi gorfod gohirio gwneud y penderfyniadau hyn er mwyn darparu gofal. Mae ganddynt yr un hawliau â gofalwyr sy’n oedolion ond bod angen cefnogaeth ychwanegol arnynt oherwydd eu hoedran a’u bod yn agored i niwed.

Gofalwyr sy’n Gweithio

Mae gofalwr sy’n gweithio yn rhywun sy’n cyfuno gwaith am dâl â gofal di-dâl. Nid oes cysylltiad rhwng y gwaith am dâl a’r gofal a ddarperir.

Gofalwyr Rhyngosod

Mae rhywun sy’n gofalu am berson hŷn ac sydd â chyfrifoldebau gofal plant yn ofalwr rhyngosod. Mae’n bosibl fod gan y plentyn anabledd ei hun neu beidio.

Pwy yw Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru?

Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yn rhan o’r Carers Trust, elusen sylweddol ar gyfer gofalwyr, gyda gofalwyr ac ynghylch gofalwyr.

Rydym yn gweithio i wella cefnogaeth, gwasanaethau a chydnabyddiaeth i unrhyw un sy’n byw gyda heriau gofalu, yn ddi-dâl, am aelod o’r teulu neu ffrind sy’n glaf, yn eiddil, yn anabl neu sydd â phroblemau iechyd meddwl neu gaethiwed.

Rydym yn gwneud hyn gyda rhwydwaith o bartneriaid safonol ledled y DU a thrwy gynnig grantiau i helpu gofalwyr i gael y cymorth ychwanegol maent ei angen i allu byw eu bywydau eu hunain.

Gyda Phartneriaid Rhwydwaith lleol rydym yn gallu cefnogi gofalwyr yn eu cartrefi drwy ddarparu gofal amgen, ac yn y gymuned gyda gwybodaeth, cyngor, cefnogaeth emosiynol, cymorth ymarferol a chynnig cyfle i gael ambell seibiant y mae gwir angen.

Rydym yn cynnig gwasanaethau arbenigol i ofalwyr pobl o bob oed a chyflwr ac amrywiaeth o gefnogaeth unigol, bwrpasol a gweithgareddau grŵp.

Pwy yw Gofalwyr Cymru?

Mae Gofalwyr Cymru yn rhan o Carers UK. Rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd newydd i wella bywydau gofalwyr.

Ledled Cymru mae 458,000 o ofalwyr sydd, yn ddi-dâl, yn cefnogi anwyliaid sy’n hŷn, yn anabl neu’n ddifrifol wael.

Mae gofalwyr ledled Cymru yn darparu 96% o ofal ac wrth i’n hanwyliaid fyw yn hwy gyda salwch neu anabledd, bydd nifer gynyddol ohonom yn gofalu amdanynt.

Gall gofalu am rywun fod yn dalcen caled, ond nid ydych ar ben eich hun. Mae Gofalwyr Cymru yma:

  • i wrando
  • i roi gwybodaeth a chyngor arbenigol i chi sydd wedi’u haddasu ar gyfer eich sefyllfa
  • i ddadlau’n gryf o blaid eich hawliau
  • i’ch cefnogi i ddod o hyd i ddulliau newydd i ymdopi gartref, yn y gwaith, neu ble bynnag fyddwch chi.
Pam cymryd rhan?

Er mwyn creu newid arwyddocaol i ofalwyr di-dâl, mae’n hanfodol cydweithio gyda chi, y gweithwyr proffesiynol, sy’n creu ac sy’n gwneud penderfyniadau am y gwasanaethau ac yn eu darparu.

Chi yw’r bobl sy’n gwybod sut mae’r system yn gweithio, beth sydd angen ei newid a’r modd y gellir cyflawni hyn er gwelliant i bawb perthnasol. Eich gwybodaeth chi am rwystrau cynnig cefnogaeth i ofalwyr di-dâl sy’n llywio’r modd y gall y rhaglenni uwchsgilio gwybodaeth a hyfforddi gael eu hymgorffori yn sylwedd darparu’r gefnogaeth hanfodol hon.

Mae hefyd yn gyfle gwych i glywed gan ofalwyr di-dâl yn uniongyrchol. Gall eu gwybodaeth am brofiad ochr arall y sgwrs hon eich cefnogi i wneud newidiadau bychain, arwyddocaol a all wneud y prosesau’n haws i bawb perthnasol. Mae’r cyfle hwn i gyfathrebu mewn awyrgylch gefnogol yn chwalu unrhyw rwystrau ymosodol i gywain dull rhesymegol ac ymarferol bosibl i gefnogi gofalwyr di-dâl yn well.  

Bydd ein hadnoddau hyfforddi ar gael mewn sawl fformat. Cynhelir hyfforddiant uniongyrchol gan staff yn y ddau sefydliad yn rheolaidd yn ystod 2021 a 2022 a bydd adnoddau ysgrifenedig a fideo ar gael i’w gweld wrth eich pwysau.

Cefnogir ein gwaith yn frwd gan Gonffederasiwn GIG CymruBASW a Gofal Cymdeithasol Cymru.