Adnoddau
CymraegEnglish
Dysgwch am hawliau gofalwyr
Edrychwch ar yr adnoddau fideo a gynlluniwyd ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol sy’n esbonio’r hawliau sydd gan ofalwyr. Mae taflenni hefyd ar gael i gyd-fynd â’r animeiddiadau.
Yng ngeiriau gofalwyr eu hunain
Rydym wrthi'n gweithio ar gyfres o fideos a ffilmiwyd gan ofalwyr eu hunain, yn disgrifio eu bywydau bob dydd, yn ogystal â’u profiadau o weithio gyda gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol.
Mae Meredydd yn sôn am fywyd fel gofalwr di-dâl, yn ogystal â'r hyn yr hoffai ei gael o'i ymwneud â gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol.
Mae Isabella yn sôn am fywyd fel gofalydd di-dâl. (Saesneg yn unig)
Mae Isabella yn sôn am fywyd fel gofalydd di-dâl, yn ogystal â'r hyn yr hoffai ei chael o'i hymwneud â gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol. (Saesneg yn unig)
Cynnwys Gofalwyr yn y Broses Rhyddhau o’r Ysbyty
Weithiau mae person sydd yn derbyn gofal angen derbynaid i’r ysbyty. Mae angen i ofalwyr di-dâl sy’n darparu gofal gartref fod ynghlwm wrth y sefyllfa o adeg derbyn y claf i’r ysbyty ymlaen a dylent gael gwybodaeth reolaidd am gynlluniau rhyddhau.
Rydym wedi gweithio gyda gofalwyr a staff y GIG er mwyn datblygu dau gwahanol ganllaw:
- canllaw polisi ar gyfer cynllunwyr gwasanaeth y GIG
- canllaw ymarferol ar gyfer staff clinigol y llinell flaen
Adnoddau ar gyfer fferyllfeydd cymunedol
Mae fferyllwyr a staff fferyllfeydd mewn sefyllfa unigryw i adnabod gofalwyr. Maent yn ganolog i fywyd cymunedau ac maent yn aml yn datblygu perthnasoedd cefnogol gyda chwsmeriaid rheolaidd. Edrychwch ar ein hadnoddau ar gyfer fferyllfeydd sy’n cynnwys fideos, arweiniad a rhestr wirio i staff, a phoster i’w arddangos i’r cyhoedd.
Adnoddau ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol
Egwyddorion ac Awgrymiadau Arfer Da i Weithwyr Cymdeithasol (pdf)
Egwyddorion i ofalwyr: cael y gorau o'ch perthynas a'ch gweithiwr cymdeithasol
Gwasanaethau Cymdeithasol Egwyddorion Arfer Da (YouTube)
Gweithio gyda gofalwyr - Sgwrs gydag Allison Hulmes, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Cymru, BASW (YouTube)
Cyd-gynhyrchu gyda gofalwyr
Gweler y cofnodion gweledol o’n hyfforddiant diweddar.
Gweler rhai enghreifftiau o gydgynhyrchu gyda gofalwyr mewn lleoliadau gofal iechyd.