Polisi, Ymchwil ac Ymgysylltu
CymraegEnglish
Gydag arian gan y Shaw Foundation a’r Waterloo Foundation, mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru wedi datblygu rhaglen gyffrous o weithgareddau i ymgysylltu mewn ffordd ystyrlon a blaengar gyda gofalwyr a gweithwyr proffesiynol dros y 3 blynedd nesaf.
Rydym yn canolbwyntio ein gwaith ar greu rhwydweithiau o fudd-ddeiliaid allweddol, datblygu adnoddau defnyddiol a pherthnasol a gweithio gyda grwpiau amrywiol o ofalwyr i sicrhau y cawn effaith arwyddocaol ar y gefnogaeth a’r gydnabyddiaeth i ofalwyr ar draws Cymru.
Ymchwil: Archwilio'r berthynas rhwng gofalwyr di-dal a materion ariannol
Roedd yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr eisiau deall y berthynas rhwng gofalu di-dâl a lles ariannol. I wneud hyn, roedden ni eisiau crisialu profiadau bywyd gofalwyr, i gael dealltwriaeth lawnach o sut gallai’r berthynas hon gael effaith o ddydd i ddydd. Roeddem am ddysgu sut gallai ddylanwadu ar ansawdd bywyd yn gyffredinol ond hefyd sut mae gofalwyr yn ymdopi, yn gwneud penderfyniadau yn ogystal â chasglu eu hagweddau a'u safbwyntiau am wasanaethau a chymorth yn y maes hwn.
Mae'r adroddiad hwn yn amlinellu'r cafnyddiadau ac argymhellion sy'n deillio o'r ymchwil.
Gwrando ar ofalwyr
Rydym wedi ymrwymo i wreiddio lleisiau gofalwyr yn ein gwaith.
Eleni, rydym yn canolbwyntio ar ddeall anghenion tri grŵp penodol o ofalwyr:
- Gofalwyr pobl â dementia
- Gofalwyr o grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig
Bydd hyn yn caniatáu inni fyfyrio ar ein harfer a rhannu arfer nodedig ar draws Cymru er mwyn ysbrydoli a chyfrannu at wella gwasanaethau. Byddwn yn cyd-gynhyrchu adnoddau ac yn ymgyrchu ar yr hyn y mae gofalwyr yn ei ddweud wrthym sydd bwysicaf iddyn nhw.
Sesiynau Blasu a Dysgu
Yn 2020 byddwn yn cynnal pedair sesiwn Blasu a Dysgu thematig er mwyn ymgysylltu ac ysbrydoli gwneuthurwyr penderfyniadau a gwneuthurwyr polisi.
Byddwn yn datblygu polisi, ymchwil ac arfer sy’n gwneud inni feddwl ac yn arwain y sector trwy ddigwyddiadau deinamig, bywiog a blaengar.
Mae’r digwyddiadau a drefnwyd hyd yn hyn yn cynnwys:
- Ail-feddwl Seibeiannau (27 Ionawr 2021)
- Pam mae ymchwil yn bwysig mewn gofal cymdeithasol (12 Tachwedd 2020).
- Storïau o bob rhan o Gymru – beth yw profiadau gofalwyr o dderbyn gofal cymdeithasol (10 Rhagfyr 2020).
- Ymchwil i ofalwyr di-dâl yng Nghymru sydd o leiafrif ethnig (Haf 2021). Bydd cyfle i archebu lle yn fuan.
Gallwch gael y diweddaraf am ein rhaglen o ddigwyddiadau trwy ein dilyn ar Twitter @carerstrustwal neu trwy ebostio Faaiza yn fbashir@carers.org.
Sesiynau bord gron dementia ar gyfer gweithwyr proffesiynol
Eleni byddwn yn arwain tair sesiwn bord gron ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yng ngogledd, de a chanolbarth Cymru i eiriol dros hawliau, anghenion a lleisiau gofalwyr di-dâl sy’n cefnogi aelodau o’r teulu neu gyfeillion â dementia.
Byddwn yn datblygu adnodd newydd i gefnogi gofalwyr pobl â dementia fydd yn cynnwys gwybodaeth, cefnogaeth a gwaith cyfeirio ychwanegol ar gyfer gofalwyr sydd angen cyngor ar adeg sy’n gallu bod yn arbennig o heriol.
Byddwn hefyd yn parhau i eiriol yn gryf dros wella bywydau gofalwyr trwy wella Cynllun Gweithredu Dementia i Gymru Llywodraeth Cymru.
Sefydlu grŵp polisi, ymchwil a chynghori
Rydym wedi ymrwymo i eiriol dros rôl ymchwil o ansawdd uchel, yn seiliedig ar dystiolaeth wrth ddatblygu polisi ac arfer ar gyfer gofalwyr yng Nghymru.
Mae ein grŵp ymgynghorol, yn cynnwys ymchwilwyr profiadol ac uchel eu parch o brifysgolion yng Nghymru, y trydydd sector, llunwyr polisi a gwneuthurwyr penderfyniadau, yn cyfarfod yn rheolaidd i weithio gyda ni i lywio, arwain a chreu cyfleoedd ar gyfer gofalwyr yng Nghymru.