Gweledigaeth newydd ar gyfer seibiannau a gwyliau byr yng Nghymru

Heddiw mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yn cyhoeddi gweledigaeth ar gyfer dyfodol seibiannau i ofalwyr di-dâl yng Nghymru. Cafodd y map hwn ar gyfer newid, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, ei ddatblygu mewn partneriaeth gyda Diane Seddon, Canolfan ar gyfer Ymchwil Heneiddio a Dementia, Ysgol Gwyddorau Iechyd, Prifysgol Bangor a Nick Andrews, Rhaglen Datblygu Arfer a Gyfoethogir gan Dystiolaeth (DEEP), Prifysgol Abertawe. Fe’i defnyddir i helpu llywio camau nesaf Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau y gall pob gofalydd dderbyn gwasanaethau seibiant priodol.

Mae gofalwyr di-dâl wedi disgrifio dro ar ôl tro yr anawsterau a gânt wrth geisio cael seibiannau priodol gyda neu heb y person maen nhw’n gofalu amdanynt. Mae’n anorfod y cafodd hyn effaith andwyol ar iechyd emosiynol, corfforol a meddyliol gofalwyr di-dâl. Mae’r pandemig wedi amlygu fwy fyth y pwysau sy’n wynebu gofalwyr di-dâl ledled Cymru, sy’n golygu fod gallu mwynhau seibiannau a gwyliau byr yn bwysicach nac erioed.

Dywedodd Simon Hatch, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru:

“Bu llawer o ofalwyr di-dâl yn gofalu trwy gydol y pandemig heb unrhyw gyfleoedd i gael hoe o’u rôl ofalu.

“Cyn y pandemig, roedd yn amlwg fod gormod o ofalwyr wedi cyrraedd pen eu tennyn neu argyfwng cyn iddynt geisio trefnu seibiant.

“Wrth i gyfyngiadau ddechrau llacio gwyddom y bydd angen cymorth ar lawer o ofalwyr i drefnu seibiant ac mae’n bwysig ein bod yn cymryd y cyfle hwn i ddarparu’r seibiannau sy’n cwrdd â gofynion ac anghenion gofalwyr unigol yn y ffordd orau.

“Mae’r adroddiad hwn yn cynnig enghreifftiau cryf o seibiannau hyblyg sy’n rhoi’r person yn gyntaf sy’n cael eu darparu’n barod yng Nghymru. Gobeithiwn y bydd yr argymhellion yn yr adroddiad yn cyfrannu at Gynllun Cyflawni ar gyfer Strategaeth Ofalwyr Llywodraeth Cymru a gyhoeddir cyn bo hir.”

Mae’r adroddiad yn cyflwyno gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer seibiannau creadigol a gyd-gynhyrchir gyda gofalwyr di-dâl a’r bobl maen nhw’n eu cefnogi ac sy’n adlewyrchu’r deilliannau personol maen nhw’n dymuno eu cyflawni.

Yn seiliedig ar adborth gan ofalwyr, Partneriaid Rhwydwaith a mudiadau eraill yn y trydydd sector, mae’r adroddiad yn crynhoi deuddeg egwyddor allweddol a ddefnyddir wrth baratoi gwahanol fathau o seibiannau i’r dyfodol a sut allent edrych yn ymarferol.

Law yn llaw â hyn mae’r adroddiad yn galw am gymryd pedwar cam allweddol:

  • Datblygu Datganiadau Cenedlaethol a Rhanbarthol ar Seibiannau
  • Creu Hwb Gwybodaeth ac Arweiniad Cenedlaethol ar gyfer Seibiannau
  • Menter Seibiannaeth Genedlaethol i Gymru, a
  • Chronfa Seibiannau Genedlaethol

Nick Andrews, Rhaglen Datblygu Arfer a Gyfoethogir gan Dystiolaeth (DEEP), Prifysgol Abertawe

"Mae perthnasoedd gofal yn gymhleth ac unigryw ac nid yw dulliau un ateb i bawb yn addas o gwbl. Mae ein gwaith gyda gofalwyr a’r bobl maen nhw’n eu cefnogi yn awgrymu seibiannau mwy pwrpasol ac amrywiol, gan gynnwys cysylltiadau gyda lletygarwch a thwristiaeth."

Bydd Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru a Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar ofalwyr er mwyn adnabod cyfleoedd i weithredu’n ddi-oed ar argymhellion yr adroddiad.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan:

“ Mae effaith gorfforol ac emosiynol gofalu yn gallu bod yn llethol. Mae gofalwyr di-dâl ar draws Cymru yn cyflawni rôl allweddol, yn aml heb fawr ddim seibiant os o gwbl. Gall gwasanaethau seibiant helpu gofalwyr i ofalu am eu hiechyd a’u llesiant eu hunain, gan gynnig cyfle mawr ei angen i orffwys.

“ Eleni, rydym yn buddsoddi £3miliwn i wella ac amrywio seibiannau ar gyfer gofalwyr di-dâl ledled Cymru ac edrychaf ymlaen at weithio gydag Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru i weithredu argymhellion yr adroddiad i sicrhau y gall gofalwyr di-dâl fanteisio ar wasanaethau seibiant sy’n diwallu eu hanghenion ac anghenion y person maen nhw’n gofalu amdanynt.”

Darllen yr adroddiad