Cyfres Blasu a Dysgu

CymraegEnglish

Yn 2021 byddwn yn cynnal pedair sesiwn Blasu a Dysgu thematig er mwyn ymgysylltu ac ysbrydoli gwneuthurwyr penderfyniadau a gwneuthurwyr polisi. Byddwn yn datblygu polisi, ymchwil ac arfer sy’n gwneud inni feddwl ac yn arwain y sector trwy’r digwyddiadau deinamig, bywiog a blaengar hyn.

Bydd ein digwyddiadau’n golygu y bydd pobl sy’n gweithio ym meysydd polisi, gofal cymdeithasol, addysg, gofal iechyd, y trydydd sector a’r sector cyhoeddus yn gallu rhannu a dysgu gyda’i gilydd.

Digwyddiadau i ddod

Ymchwil i ofalwyr di-dâl yng Nghymru sydd o leiafrif ethnig (Haf 2021).

Bydd cyfle i archebu lle yn fuan.

Digwyddiadau'r gorffennol

Ail-feddwl seibiannau ar gyfer gofalwyr pobl â dementia (27 Ionawr 2021)

Ymunwch â’r siaradwr gwadd Nick Andrews (Prifysgol Abertawe) wrth iddo drin a thrafod canfyddiadau ymchwil diweddar i egwylion byrion, a rhannu’r hyn a ddysgwyd o brosiect a gyd-gynhyrchodd ffyrdd blaengar a chadarnhaol o ddarparu seibiannau gyda gofalwyr yng Ngorllewin Cymru.

Gwyliwch ef ar YouTube (Saesneg yn unig).

PowerPoint (Saesneg yn unig).

Llun (Saesneg yn unig).

Pam fod ymchwil yn bwysig mewn gofal cymdeithasol (Tachwedd 2020). 

Bydd yr Athro Chris Taylor, Cyfarwyddwr Academaidd Parc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol (SPARK) Prifysgol Caerdydd, yn myfyrio ynglŷn â’i brofiadau o sicrhau bod ymchwil yn dod yn rhan annatod o arfer a pham fod hyn yn bwysig.

Gwyliwch ef ar YouTube.

500 stori: gofal cymdeithasol yng Nghymru, Katie Cooke (Rhagfyr 2020). 

Bydd Katie Cooke, Rheolydd Prosiect Mesur y Mynydd, yn cyflwyno canfyddiadau o’u hadroddiad newydd Deall beth sy’n bwysig mewn gofal cymdeithasol: profiadau o wasanaethau gofal a chymorth a bod yn ofalydd di-dâl yng Nghymru.

Gwyliwch ef ar YouTube.

Gallwch gael y diweddaraf am ein rhaglen o ddigwyddiadau trwy ein dilyn ar Twitter @carerstrustwal neu trwy ebostio Tim Banks yn tbanks@carers.org