CymraegEnglish

Mae ein harolwg o oedolion sy’n ofalwyr di-dâl yn fyw yn awr

Ydych chi’n gofalu, yn ddi-dâl, am aelod o’r teulu, ffrind neu bartner na allant ymdopi heb eich cefnogaeth? Os felly, byddem yn falch iawn os gallech wneud ein harolwg.

Mae canfyddiadau arolygon yn cynnig tystiolaeth amhrisiadwy o’r pwysau a’r heriau y mae gofalwyr di-dâl yn eu profi a’r gefnogaeth maen nhw ei hangen i ddelio â’r heriau hyn.

Mae ein harolwg yn agored i oedolion sy’n ofalwyr di-dâl ac sy’n 18 oed a hŷn ac mae ar agor tan 23:59 ar ddydd Sul 11 Mehefin.

CYMERWCH YR AROLWG YMA.

Os ydych yn gofalu am rywun ond ddim yn uniaethu â statws ‘gofalydd’, mae croeso ichi wneud yr arolwg o hyd.

Pam rydym yn cynnal yr arolwg hwn

Rydym eisiau deall profiadau gofalwyr di-dâl o gefnogaeth.

Byddwn yn defnyddio canfyddiadau’r arolwg i godi lleisiau gofalwyr di-dâl mor gyhoeddus ag y gallwn a dylanwadu ar y Llywodraeth i wneud newidiadau cadarnhaol.

Gwneud yr arolwg

Bydd yr arolwg yn cymryd tua 15-20 munud i’w wneud, a bydd yn cau am 23:59 ar ddydd Sul 11 Mehefin.

Bydd ateb yr arolwg yn golygu fod gennych gyfle i ennill taleb £45 Love2Shop - y cyfan sydd rhaid ichi ei wneud yw rhoi eich cyfeiriad e-bost ar ddiwedd yr arolwg fel y gallwn eich cynnwys yn y gystadleuaeth.

Rhannu’r arolwg

Rydym yn eich annog i rannu’r arolwg ar gyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r graffeg a’r geiriad isod:

"Ydych chi’n gofalu, yn ddi-dâl, am aelod o’r teulu, ffrind neu bartner?

Os felly, byddem wrth ein boddau’n clywed gennych!

Mynnwch eich llais a llanwch ein harolwg blynyddol i oedolion sy’n ofalwyr #UnpaidCarer fel y gallwn ddeall yn well pa gymorth rydych ei angen i’ch helpu yn eich rôl ofalu.

https://forms.office.com/e/hMY5kxJQ8H"

Rydym yn gofyn ichi rannu a hyrwyddo’r arolwg mor eang ag y gallwch gydag unrhyw oedolion sy’n ofalwyr rydych yn eu hadnabod.

Beth sy’n wahanol eleni?

Rydym wedi ymateb i adborth fod arolygon yn y gorffennol wedi gofyn cwestiynau tebyg o flwyddyn i flwyddyn. Eleni, rydym wedi penderfynu canolbwyntio ar gwestiynau fydd yn ychwanegu at y corff tystiolaeth sydd ar gael ac edrych yn fanylach ar yr hyn sydd ar gael i ofalwyr di-dâl ar hyn o bryd, yn enwedig o ran derbyn cymorth.

Llawer o ddiolch i’r gofalwyr di-dâl sy’n Gynghorwyr Profiad Bywyd inni a helpodd lunio cwestiynau’r arolwg eleni. Bydd rolau ein Cynghorwyr Profiad Bywyd yn agored i geisiadau nes y bydd yr arolwg yn cau, felly os hoffech gyfrannu at gam nesaf dadansoddi’r arolwg cofiwch wneud cais.

Rydym yn gwerthfawrogi’n fawr yr amser gwerthfawr y mae gofalwyr di-dâl yn ei dreulio yn llenwi arolygon. I osgoi eich diflasu gyda gormod o arolygon, rydym wedi amseru ein harolwg ni fel ei fod yn digwydd ar amser gwahanol i arolwg Carers UK fydd yn cael ei gynnal yn hwyrach yn yr haf. Bydd ein harolwg yn agor ar ddydd Gwener 12 Mai ac yn para tan 23.59 ar ddydd Sul 11 Mehefin. Bydd arolwg Carers UK yn agor wedi i’n harolwg ni gau, a bydd yn edrych ar feysydd gwahanol i’n harolwg ni.

Gobeithiwn fod hynny’n osgoi eich gorflino gydag arolygon gymaint ag y gallwn gan na fydd gofyn i ofalwyr lenwi arolygon gwahanol ar yr un pryd. Mae’n golygu hefyd y bydd canfyddiadau’r ddau arolwg yn cael eu cyhoeddi ar adegau gwahanol o’r flwyddyn, gan sicrhau bod gofalwyr di-dâl yn cael mwy o sylw ar draws y calendr.

Pam mae’r arolwg mor bwysig i ofalwyr di-dâl a mudiadau gofalwyr lleol

Mae arolygon yn darparu data ar y materion sy’n effeithio gofalwyr di-dâl fwyaf – fel yr argyfwng costau byw a’r ffaith fod gofalwyr yn treulio mwy o amser yn gofalu oherwydd diflaniad cymaint o wasanaethau gofal cymdeithasol. Mae’r data hwnnw’n ein galluogi i greu gofynion polisi cryf ac onglau newyddion yr ydym yn eu defnyddio i sicrhau bod materion sy’n effeithio gofalwyr di-dâl a mudiadau gofalwyr lleol yn cael y sylw gwleidyddol ac ar y cyfryngau y maen nhw’n ei haeddu, ac all ddylanwadu ar newid go iawn.

Cafwyd tystiolaeth o hyn yn y gorffennol mewn cyfweliadau gyda gofalwyr a’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr ar raglenni newyddion poblogaidd fel BBC Breakfast a Sky News, yn ogystal â sylw ar draws cyfryngau print cenedlaethol a lleol.

Bydd yr arolwg yn cynhyrchu canfyddiadau pwysig ar farn gofalwyr am y gefnogaeth maen nhw ei hangen, a beth mae mudiadau gofalwyr lleol ei angen i ddarparu cymorth a chefnogaeth yn effeithiol.