Lansio cynllun Cerdyn Adnabod Cenedlaethol i gefnogi gofalwyr ifanc
CymraegEnglish
Heddiw, mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yn croesawu lansio, yng Ngheredigion, eu Cerdyn Adnabod Gofalwyr Ifanc cyntaf, rhan o gynllun cenedlaethol newydd i sicrhau bod gofalwyr ifanc yn cael y gydnabyddiaeth maen nhw’n ei haeddu a’r gefnogaeth maen nhw ei hangen.
Datblygwyd y cynllun Cerdyn Adnabod, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, ar ffurf partneriaeth rhwng Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru a phob awdurdod lleol ar draws Cymru, yn gweithio i brofi a datblygu trefn genedlaethol ar gyfer gwella profiadau gofalwyr ifanc mewn lleoliadau iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg.
Bydd y Cerdyn Adnabod Gofalwyr Ifanc yn darparu ffoto-adnabyddiaeth ar gyfer unrhyw ofalydd ifanc 18 oed neu iau a hoffai gael un. Bydd hyn yn eu galluogi i adnabod eu hunain yn rhwydd i weithwyr proffesiynol heb orfod rhannu manylion personol am eu rôl ofalu. Bydd y Cerdyn Adnabod yng Ngheredigion yn cynnwys gostyngiadau a buddion lleol i gydnabod y cyfraniadau arwyddocaol a wneir gan eu gofalwyr ifanc lleol.
Bydd pob cerdyn yn dangos y logo gofalwyr ifanc cenedlaethol, a ddyluniwyd gan y gofalwyr ifanc Ffion Harding o Bowys a Hannah Mushrow o Sir y Fflint. Enillodd y ddwy gystadleuaeth genedlaethol yn 2019, a farnwyd gan banel yn cynnwys Julie Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru, a gofalwyr ifanc.
Heddiw, Ceredigion yw’r awdurdod lleol cyntaf i lansio Cerdyn Adnabod yn ffurfiol fel rhan o’u dull rhagweithiol o sicrhau bod gofalwyr ifanc yn cael eu blaenoriaethu a’u cefnogi’n effeithiol.
Yn 2020-21, mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ariannu adnoddau dwyieithog a gyd-gynhyrchwyd gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru gyda gofalwyr ifanc a gweithwyr proffesiynol.
Bydd yr adnoddau, gan gynnwys animeiddiad a chyfres o ganllawiau ar gyfer gweithwyr proffesiynol a gofalwyr, yn helpu gwella dealltwriaeth a chydweithio rhwng gofalwyr ifanc a gweithwyr proffesiynol. Mae pob un ohonynt ar gael erbyn hyn yn
carers.org/YCID
Mae’r rhain yn ychwanegu at yr adnoddau addysg ac ysgolion i gefnogi gofalwyr ifanc ac a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, a lansiwyd ym mis Medi.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan:
“Cafodd y pandemig presennol – ac mae’n parhau i gael – effaith fawr ar bob un ohonom, gan gynnwys gofalwyr ifanc Cymru.
“O gydbwyso gwaith gofalu yn ystod cyfnod clo cenedlaethol tra’n gwneud gwaith ysgol gartref a chyflawni tasgau hanfodol fel siopa – rwyf yn ymwybodol iawn pa mor anodd fu eu sefyllfa. Dyna pam rwyf yn credu fod Cerdyn Adnabod Gofalwyr Ifanc mor bwysig, rydym am i ofalwyr ifanc gael eu cydnabod, eu helpu a’u cefnogi i allu derbyn gwasanaethau lle bynnag a phryd bynnag maen nhw eu hangen.
“Rwyf yn falch y gallwn, gyda chefnogaeth gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru a £200,000 o arian gan Lywodraeth Cymru i awdurdodau lleol gynllunio a phrofi syniadau newydd ar gyfer Cerdyn Adnabod, edrych ymlaen at weithredu model cenedlaethol ledled Cymru erbyn diwedd 2022 a dilyn arweiniad Cyngor Sir Ceredigion yn y lansiad heddiw.”
Dywedodd Kate Cubbage, Pennaeth Materion Allanol ar gyfer Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru:
“Mae gofalwyr ifanc wedi hen ofyn am Gerdyn Adnabod i’w cefnogi yn eu rôl ofalu ac i ofyn am help pan maen nhw ei angen.
“Rydym yn falch iawn fod Cyngor Sir Ceredigion heddiw wedi lansio’r Cerdyn Adnabod cyntaf oll o dan y model cenedlaethol newydd ac edrychaf ymlaen at weld pob rhan o Gymru yn cael Cerdyn Adnabod erbyn 2022.
“Bydd y cerdyn a’r adnoddau ategol yn helpu ymrymuso gofalwyr ifanc i siarad yn agored gyda gweithwyr iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg am eu hanghenion. Hefyd, bydd yr adnoddau yn rhoi’r arfau sydd eu hangen ar weithwyr proffesiynol i adnabod gofalwyr ifanc a rhoi iddyn nhw’r parch, y wybodaeth a’r gefnogaeth maen nhw eu hangen a’u haeddu.”
Wrth gyfeirio at y lansiad, dywedodd Judy Thomas o Fferyllfa Gymunedol Cymru:
“Mae’r rhwydwaith fferyllfeydd cymunedol cyfan yng Nghymru yn falch iawn fod y cynllun Cerdyn Adnabod Gofalwyr Ifanc wedi dechrau cael ei gyflwyno ar draws Cymru, gan ddechrau yng Ngheredigion. Mae hwn yn ateb blaengar a synhwyrol i broblem fawr sy’n wynebu fferyllwyr cymunedol yn ogystal â phobl ifanc a’r bobl maen nhw’n gofalu amdanynt, ac mae Fferyllfa Gymunedol Cymru wrth ei fodd ein bod wedi helpu cyd-gynhyrchu cerdyn ddylai gael ei ddefnyddio gan bawb sydd ei angen.”
Ychwanegodd Catherine Hughes, Eiriolydd Gofalwyr, Cyngor Sir Ceredigion:
“Wrth i Geredigion lansio’r Cerdyn Adnabod Gofalwyr Ifanc Cenedlaethol cyntaf, rydym yn croesawu’n fawr yr adnoddau a deunyddiau ategol gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru fydd yn cael eu defnyddio gyda’r cynllun Cerdyn Adnabod Gofalwyr Ifanc.
“Datblygwyd y fenter hon mewn partneriaeth â gofalwyr ifanc, Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, Llywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol. Rydym yn falch iawn o allu defnyddio’r adnoddau ategol hyn gyda’r Cerdyn Adnabod Gofalwyr Ifanc er mwyn hyrwyddo a galluogi gofalwyr ifanc i gael y gydnabyddiaeth, y wybodaeth a’r gefnogaeth y gallent fod eu hangen.”
Ychwanegodd Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru:
"Rwyf yn croesawu’r Cerdyn Adnabod yn fawr, gan fod gofalwyr ifanc wedi dweud wrtha i y bydd yn eu helpu gyda’u bywydau bob dydd, o ysgol i siopa. Mae llawer o ofalwyr ifanc yn falch o’u rôl ofalu, ond yn aml mae angen dealltwriaeth a chefnogaeth ychwanegol arnynt gan wasanaethau a’r gymuned ehangach. Gall y cerdyn hwn chwarae rhan yn helpu gyda hyn ac roeddwn wrth fy modd o fod yn rhan o ddewis y logo buddugol llachar, llawn hwyl, a ddyluniwyd gan 2 ofalydd ifanc.”