Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yn cefnogi Llywodraeth Cymru i ddosbarthu gwerth £1m o grantiau i helpu gofalwyr di-dâl sy’n dioddef caledi
Heddiw, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y bydd yn darparu buddsoddiad o £1m mewn cynllun ar gyfer Cymru gyfan er mwyn ceisio lleddfu’r caledi y mae miloedd o ofalwyr ledled Cymru yn ei wynebu ar hyn o bryd.
Pwrpas y gronfa newydd yw sicrhau y gall gofalwyr di-dâl yng Nghymru dderbyn cymorth ariannol ychwanegol ar gyfer eu rôl ofalu trwy fanteisio ar grantiau lleol gwerth hyd at £300 y gofalydd. Bydd y gronfa yn gweithio’n unol â thair Blaenoriaeth Weinidogol Llywodraeth Cymru ar gyfer Gofalwyr:
- Cefnogi bywyd law yn llaw â gofalu
- Adnabod a chydnabod gofalwyr
- Darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth
Caiff y cynllun grantiau newydd ei ddarparu trwy Bartneriaid Rhwydwaith yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr er mwyn sicrhau y gall gofalwyr ymhob rhan o Gymru dderbyn grantiau a gwasanaethau argyfwng i sicrhau eu bod yn cadw’n ddiogel, cynnes ac wedi’u cysylltu dros y gaeaf.
Dywedodd Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru , Simon Hatch:
“Mae cyhoeddiad cyllido heddiw yn gam pwysig tuag at gydnabod a mynd i’r afael â’r pwysau gwirioneddol a chynyddol sy’n wynebu miloedd o ofalwyr di-dâl ledled Cymru.
“I lawer o ofalwyr, cafodd y pandemig hwn effaith amlwg a negyddol ar eu hiechyd, llesiant a sicrwydd ariannol. Wrth inni nesu at yr hyn sy’n debygol o fod yn aeaf heriol iawn i’r gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, ein cymunedau a phobl ledled Cymru rydym yn falch iawn y gall Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru a’n Partneriaid Rhwydwaith weithredu’n gyflym i gael y grantiau hanfodol hyn i’r bobl sydd fwyaf eu hangen.
“Rydym yn croesawu buddsoddiad Llywodraeth Cymru i gefnogi gofalwyr sy’n wynebu caledi ariannol ac edrychwn ymlaen at weithio gyda nhw i sicrhau bod pob gofalydd yn cael y gydnabyddiaeth maen nhw’n ei haeddu a’r gefnogaeth maen nhw ei hangen.”
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan:
“Rydym yn ddiolchgar iawn i’r fyddin enfawr, ymroddedig o ofalwyr di-dâl yng Nghymru sydd wedi gwneud cymaint i ofalu am eraill yn ystod y pandemig.
“Rydym wedi gweld gofalwyr di-dâl yn gweithio oriau hirach ac mae’r pandemig wedi ei gwneud yn anoddach i ofalwyr ymdopi gyda’u swyddogaeth ofalu ochr yn ochr â byw eu bywyd nhw eu hunain. Mae rhai yn ei chael yn anodd ymdopi gyda chostau ychwanegol COVID-19 a nod y Gronfa Gymorth i Ofalwyr yw helpu i liniaru peth o’r pwysau ychwanegol, diangen hwn.
“Rwy’n edrych ymlaen at siarad gyda gofalwyr a’u cynrychiolwyr fel rhan o’n hymgynghoriad ar gynllun cenedlaethol newydd. Rwy’n annog unrhyw un sy’n gofalu i gyflwyno eu barn.”
Bydd mwy o fanylion am sut all gofalwyr fanteisio ar y cynllun hwn ar gael ar wefan yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr yn gynnar ym mis Tachwedd 2020