Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru’n lansio canllaw newydd i gefnogi’r rheini sy’n gofalu am bobl â dementia
Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru heddiw wedi cyhoeddi Gofalu am rywun â dementia: Canllaw i deuluoedd a ffrindiau, sef adnodd newydd y mae mawr angen amdano i helpu miloedd o bobl ledled Cymru sy’n gofalu am rywun â dementia ar hyn o bryd.
Mae gan 1 ym mhob 14 o bobl dros 65 oed dementia¹ ar hyn o bryd. Gyda phoblogaeth pobl hŷn Cymru ar y trywydd i gynyddu i bron miliwn erbyn 2050, mae yna angen cynyddol i sicrhau bod y gofalwyr di-dâl y maen nhw’n dibynnu arnyn nhw’n cael y gefnogaeth iawn ar yr adeg iawn.
Mae dros 60%² o bobl â dementia yn byw yn y gymuned ac maen nhw’n dibynnu ar aelodau’r teulu neu ffrindiau i’w helpu nhw â thasgau o ddydd i ddydd, fel coginio, gwisgo a chymryd meddyginiaeth.
Mae’r coronafeirws a’r cyfyngiadau ar symud wedi effeithio’n fawr ar y gefnogaeth sydd ar gael i bobl â dementia a’r rheini sy’n gofalu amdanyn nhw. Mae cau canolfannau gofal dydd a chefnogaeth wyneb yn wyneb gyfyngedig, mewn llawer o achosion, wedi gwaethygu’r teimladau o unigrwydd ac o fod ar eich pen eich hun. I ormod o ofalwyr, mae’r pandemig wedi golygu gofalu am rywun y mae ei iechyd yn gwaethygu gyda llai o gefnogaeth nag erioed o’r blaen.
Meddai Dai, o ganolbarth Cymru, sy’n goflau am ei nain:
“Fel gofalwr, dwi’n treulio’r rhan fwyaf o’m hamser yn y tŷ, gyda fy nain, gan y gallai hi fod angen fy help yn ystod y dydd neu’r nos. Mae ganddi larwm i’w bwyso sy’n rhoi gwybod i mi bod angen cymorth arni, felly dydw i ddim yn gallu mynd yn bell. Yn ddiweddar, gwnaeth hi fy ngalw 39 gwaith dros gyfnod o 60 awr – mi fethais i â chael unrhyw orffwys o gwbl.
Mae’r pandemig wedi gwneud i mi deimlo fy mod i ar fy mhen fy hun mwy fyth; dydw i ddim yn gallu codi allan i wneud y pethau dwi’n eu mwynhau na chael y seibiannau byr dwi'n eu gwerthfawrogi, ac sydd eu hangen i gadw iechyd meddwl da. Dwi’n ymuno â grwpiau gofalwyr ar-lein bob wythnos fel fy mod i’n gallu siarad â phobl eraill ar-lein yn lle.”
Mae Dai yn cael cefnogaeth gwasanaeth gofalwyr sy’n rhoi cyngor a chymorth i helpu gofalwyr di-dâl i ofalu am eu llesiant nhw eu hunain ac i wneud y pethau sy’n bwysig iddyn nhw, fel parhau ag addysg, cyflogaeth neu hobïau, neu ddechrau’r rhain.
Mae Partneriaid Rhwydwaith Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru’n cynnig ystod eang o wasanaethau, sy’n amrywio o gefnogaeth emosiynol trwy gyfrwng therapïau siarad neu sesiynau galw heibio wythnosol i help ymarferol fel cael gafael ar grantiau brys neu gludiant i fynychu apwyntiadau meddygol. Gofalwyr sy’n gofalu am rywun â dementia ydy’r cohort mwyaf o bobl y mae’r Partneriaid Rhwydwaith yng Nghymru’n eu cefnogi³.
Meddai Gwenno Davies, Ymddiriedolaeth Gofalwyr Gogledd Cymru:
“Mae’r pandemig wedi bod yn ddistrywiol i deuluoedd, gan gynnwys y rheini sydd wedi colli eu hanwyliaid i’r coronafeirws. Er nad ydyn ni’n gallu cynnig rhai gwasanaethau ar hyn o bryd, fel clybiau i’n haelodau yn ein canolfannau, rydyn ni wedi addasu’n gyflym ac rydyn ni dal yno i ofalwyr.
Dwi wedi bod yn rhoi cyngor dros y ffôn ynglŷn â phryderon gofalwyr, fel sut i ymdopi pan mae eu priod yn gwrthod bwyta prydau bwyd y maen nhw wedi’u paratoi, eu helpu nhw i gwblhau gwaith papur yn ddigidol, neu roi cysur a help ymarferol os ydy’r person y maen nhw’n gofalu amdano wedi mynd i mewn i’r ysbyty.”
Mae’r canllaw newydd yn adnodd hynod werthfawr i ofalwyr pobl â phob math o dementia, gan gynnwys dementia cynnar, lle bynnag y maen nhw ar eu siwrnai ofalu. Mae’r canllaw yn llawn gwybodaeth ddefnyddiol, gan gynnwys pethau ymarferol fel beth i’w ddisgwyl yn y cyfnodau cynnar o gael diagnosis, cyngor ar reoli meddyginiaethau ac ymbaratoi ar gyfer materion ariannol a chyfreithiol. Mae’r canllaw hefyd yn rhoi sylw i rai o heriau emosiynol gofalu, gan gynnwys ambell air i gall oddi wrth ofalwyr eraill a gwybodaeth am y lleoedd i fynd i gael help a chefnogaeth.
Mae Age Cymru ac Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru’n gweithio mewn partneriaeth i ddatblygu modelau gwasanaeth sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i nodi gofalwyr hŷn a gofalwyr pobl sy’n byw â dementia ac i ddiwallu eu hanghenion yn well, wedi’i ariannu gan Grant i’r Trydydd Sector ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy Llywodraeth Cymru. Bydd y canllaw hwn yn cael ei ddosbarthu fel rhan o’r prosiect hwn a bydd adnoddau ychwanegol yn cael eu datblygu i gefnogi ei ddefnyddio trwy gydol y prosiect.
Mae’n hanfodol bod gofalwyr yn gallu cael gafael ar wybodaeth a chefnogaeth ddibynadwy ac amserol a bydd y canllaw newydd yn helpu i wneud yn siŵr bod cynifer o ofalwyr â phosibl yn gallu cael y wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw ar yr adeg y maen nhw ei hangen.
Yn ôl Ian, sy’n mynychu grŵp Taith Ni Ymddiriedolaeth Gofalwyr Gogledd Cymru fu’n gweithio ag Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru i helpu i lunio'r canllaw:
“Fel gofalwyr, y ni sy’n arbenigo mewn gofalu. Yn y clybiau gofalwyr, ’dyn ni’n chwerthin ac yn sgwrsio, ond ’dyn ni hefyd yn rhannu gwybodaeth sydd weithiau’n gallu bod mor anodd dod o hyd iddi, yn enwedig pan ’dych chi wedi blino’n lân. Y cyngor oddi wrth ofalwyr eraill yn Nghornel y Gofalwyr oedd yr help mwyaf i mi. Gwnaeth i mi sylweddoli doeddwn i ddim ar fy mhen fy hun. Mi helpodd fi i lunio cynlluniau positif ac ymarferol a pheidio â suddo i deimlo’n hollol anobeithiol.
Mae gallu cyfrannu fy mhrofiadau at y canllaw newydd gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru’n golygu llawer iawn i mi. Pan gafodd fy ngwraig ddiagnosis o dementia gyntaf roeddwn i ar goll ac yn bryderus, a dydw i ddim eisiau i bobl eraill deimlo hynny. Felly dwi’n annog pawb sy’n ofalwr neu sy’n gweithio gyda gofalwyr i gael gafael yn y canllaw hwn – mae’n llawn dop o berlau cyngor.”
Meddai Simon Hatch, Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru::
“Rydyn ni’n ddiolchgar i Sefydliad Shaw am ariannu’r canllaw hanfodol hwn a fydd yn galluogi gofalwyr pobl â dementia i gael gafael ar wybodaeth am ofalu, a gwybodaeth am y gefnogaeth sydd ar gael i wneud yn siŵr eu bod nhw’n gofalu amdanyn nhw eu hunain hefyd.
“Mae’r pandemig yn golygu bod pobl yn gofalu am fwy o lawer o oriau yr wythnos nag roedden nhw o’r blaen, yn aml am unigolion y mae eu hiechyd wedi gwaethygu ac y mae eu hanghenion gofalu wedi cynyddu. Dydy gofalwyr ddim yn cael y seibiannau sydd eu hangen arnyn nhw, ac mae pethau wedi dod i’r pen i lawer ohonyn nhw cyn eu bod nhw’n cael eu dynodi ac yn cael cynnig cefnogaeth.
“Gyda phartneriaethau cryf â sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru, rydyn ni’n edrych ymlaen at rannu’r adnoddau gwerthfawr hyn yn eang fel bod gofalwyr yn gwybod pa gefnogaeth y mae ganddyn nhw hawl iddi, a sut i gael gafael ynddi.”
- Diwedd –
Nodiadau i’r Golygydd
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Kate Cubbage, Pennaeth Materion Allanol ar 07842 581 935 neu yn kcubbage@carers.org
Gofalu am rywun â dementia ar gael i’w lawrlwytho o: www.carers.org/wales/dementia-carers
Mae Sefydliad Shaw yn partneru â sefydliadau newydd a rhai sydd wedi’u hen sefydlu i hybu arloesi wrth wella ansawdd y gwasanaethau gofal sydd ar gael i bobl hŷn, i gefnogi datblygiad gweithwyr proffesiynol ym meysydd meddygaeth a gofal ac i gynghori pobl ar sut i gaffael ac ariannu eu gofal.
Age Cymru iydy’r elusen fwyaf sy’n gweithio gyda phobl hŷn yng Nghymru ac ar eu cyfer. Mae partneriaid Age Cymru’n darparu gwasanaethau hanfodol yn uniongyrchol i bobl hŷn yn y gymuned i wella bywydau. Gweledigaeth Age Cymru ydy creu Cymru sydd o blaid pobl hŷn. Gallwch chi ddysgu mwy amdanyn nhw yn www.agecymru.org.uk neu yn www.twitter.com/AgeCymru.
Ynglŷn ag Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru
Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yn rhan o’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr, sef elusen genedlaethol uchelgeisiol sydd wedi ymrwymo i wella’r gefnogaeth a’r gwasanaethau i ofalwyr di-dâl trwy:
- Gydnabod a dathlu’r cyfraniadau hanfodol y mae gofalwyr yn eu gwneud
- Cynyddu ymwybyddiaeth o’r rhwystrau y mae gofalwyr o bob oedran yn eu hwynebu
- Gweithio gyda’r rheini sy’n gwneud penderfyniadau i sicrhau bod cefnogaeth briodol ar gael i rymuso gofalwyr i fyw bywydau hapus a boddhaus
Rydyn ni’n gweithio gyda Phartneriaid Rhwydwaith – gwasanaethau lleol sy’n darparu cefnogaeth yn uniongyrchol i ofalwyr – gan wneud yn fawr o’n cyd-brofiad, ein cyd-arbenigedd a’n cyd-arloesi.
¹www.nhs.uk
²www.alzheimers.org.uk
³Arolwg Partneriaid Rhwydwaith yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr (2020)