Gwneud beth sy’n wirioneddol bwysig mewn gofal cymdeithasol yng Nghymru – sut allwn ni wneud iddo ddigwydd gyda’n gilydd?
Pan gafodd gwraig Dafydd* ddiagnosis dementia dair blynedd yn ôl, trodd at ei wasanaeth gofalwyr lleol ac fe’i cyflwynwyd i weithiwr cymorth dementia a’i helpodd i gael gafael ar grantiau ac egwylion byr, ei groesawu i sesiynau cymorth cymheiriaid a’i helpu gyda chynllunio cyfreithiol ac ariannol ar gyfer y dyfodol.
“Wn i ddim sut fyddwn i wedi ymdopi oni bai am y gweithiwr cymorth”
(Dafydd, Gofalydd gwraig â dementia)
Mae Dafydd a gofalwyr di-dâl eraill ledled Cymru yn cael eu cefnogi gan Bartneriaid Rhwydwaith sy’n darparu cefnogaeth ar gyfer yr heriau emosiynol, ymarferol ac iechyd y gall gofalu am aelod o’r teulu eu creu, ond nid yw gormod o ofalwyr:
- yn ymwybodol o’u hawliau
- yn gallu dod o hyd i’r wybodaeth iawn ar yr adeg iawn
- yn gallu dod o hyd i’r cymorth sydd ei angen arnynt i gynnal eu hiechyd a’u llesiant eu hunain.
Os ydych yn ofalydd, cewch fanylion eich Partner Rhwydwaith lleol yma.
Yn 2014, pasiodd Cymru ddeddfwriaeth sydd erbyn hyn yn sail i hawliau gofalwyr, ond gwyddom fod llawer o ofalwyr yn aml yn ei chael yn anodd ymdopi a dywedant wrthym yn aml eu bod:
- wedi ymlâdd o beidio cael seibiant
- yn ei chael yn anodd cadw swydd a gwneud gwaith gofalu, neu’n
- dioddef iechyd meddwl gwael.
Gellid dadlau mai clywed gan bobl am eu profiad o geisio cael gafael ar y gofal a’r gefnogaeth sydd ar gael yng Nghymru yw’r unig ffordd o asesu a ydym yn cyflawni’r hyn yr oeddem yn gobeithio ei gyflawni yn y Ddeddf. Ni allwn ond barnu cymdeithas yn ôl y ffordd mae’n trin aelodau mwyaf bregus y gymuned.
O Fedi 21 i 24, bydd pymtheg aelod o’r cyhoedd yn cymryd rhan yn Rheithgor y Bobl Mesur y Mynydd. Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yn aelod balch o’r grŵp llywio ar gyfer y prosiect hwn sy’n casglu storïau gofalwyr di-dâl a phobl sy’n derbyn gofal a chefnogaeth a gwasanaethau yng Nghymru.
Yn ystod y digwyddiad digidol wythnos o hyd bydd Rheithgor y Bobl yn derbyn tystiolaeth gan ‘dystion’ fydd yn cynnwys ein Partner Rhwydwaith Gwasanaeth Gwybodaeth Gofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru (NEWCIS), fydd yn siarad am eu gwasanaeth egwylion byr llwyddiannus a hyblyg ar gyfer gofalwyr, ynghyd â Credu, fydd yn rhannu eu harferion arloesol ym Mhowys.
Yn ogystal â gwrando bydd rheithwyr hefyd yn herio, a diau y byddant yn gofyn cwestiynau anodd i bobl sy’n chwarae rôl yn cynllunio a darparu’r gwasanaethau yr ydym yn dibynnu arnynt er mwyn gallu gofalu am ein rhiant sydd â dementia efallai, neu ein plant sydd angen cymorth gyda symudedd, neu hyd yn oed ni’n hunain fel gofalwyr.
Mae Mesur y Mynydd yn gyfle unigryw inni ddathlu sut mae gofalwyr fel Dafydd yn cael eu cefnogi yng Nghymru, a chael sgyrsiau agored a gonest am weithio gyda’n gilydd i wneud yn siŵr fod pob gofalydd yn cael eu cefnogi i gyflawni’r pethau sydd bwysicaf iddyn nhw.
Lawr lwythwch y rhaglen a gwyliwch y sesiynau yn fyw ar-lein trwy fynd i www.mtm.wales. Ymunwch â’r sgwrs ar Facebook a Twitter gan ddefnyddio’r hashnod, a chofiwch dagio @CarersTrustWal hefyd.
*Newidiwyd yr enw er mwyn gwarchod preifatrwydd.