Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yn helpu gofalwyr ifanc i ail-afael wedi COVID-19 trwy lansio adnoddau newydd ar gyfer ysgolion
Heddiw cyhoeddodd Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru Cefnogi Dysgwyr a chanddynt Gyfrifoldebau Gofalu, casgliad o adnoddau i gefnogi’r gwaith o adnabod dysgwyr ifanc yn ysgolion cynradd ac uwchradd Cymru a’u cefnogi gyda’u cyrhaeddiad a’u llesiant.
Mae un ar bymtheg y cant o ddisgyblion yn ysgolion uwchradd Cymru yn cydbwyso eu rôl ofalu gyda gwaith ysgol, ac mae hyn yn codi i fwy nac un disgybl o bob pump o’r cefndiroedd lleiaf cefnog. Dangosodd ein harolwg diweddar o ofalwyr ifanc yng Nghymru, a gynhaliwyd yn ystod pandemig Covid-19, fod plant a phobl ifanc mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yn ei chael yn anodd i gyflawni gofynion eu haddysg tra’n gofalu gartref. Nid oedd pedwar deg pump y cant o ofalwyr ifanc yn gallu treulio digon o amser ar eu gwaith ysgol, ac roedd 58% yn teimlo fod eu haddysg yn dioddef. Mae’n bwysig y gall ysgolion a cholegau adnabod a chefnogi gofalwyr ifanc yn effeithiol wrth iddynt fynd yn ôl i’r ysgol yr wythnos yma.
Dywedodd un gofalydd ifanc 14 oed o Gymru:
“Rwyf wedi bod yn gofalu llawer mwy nac arfer ac roeddwn yn disgwyl treulio mwy o amser gyda’r person rwyf yn gofalu amdanynt, sy’n golygu nad oes gennyf lawer o amser imi a dydw i ddim wedi gwneud unrhyw waith ysgol [oherwydd] y gofalu a phethau eraill ac rydw i ar ei hôl hi’n ddifrifol”.
O ystyried fod llawer yn ei chael yn anodd yn barod, mae’n bwysig fod popeth yn cael ei wneud i gau’r bwlch cyrhaeddiad cynyddol a grëwyd gan y pandemig”[i].Mae ymchwil yng Nghymru yn dangos yn gyson fod gofalu’n effeithio ar brofiad gofalwyr ifanc mewn ysgolion, gan gynnwys eu llesiant, prydlondeb, presenoldeb, cyrhaeddiad addysgol a’u gobeithion mewn bywyd.
Gall ysgolion chwarae rôl allweddol yn cyfeirio pobl ifanc at gefnogaeth yn ogystal â chymryd camau i gefnogi eu haddysg yn yr ysgol, ond er yr amlygwyd rhai arferion effeithiol yn adolygiad thematig Estyn o ofalwyr ifanc (2019), gwelsant fod y ddarpariaeth ar gyfer gofalwyr mewn ysgolion ledled Cymru yn anghyson.
Mae rhaglen addysg Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, wedi gweithio gyda’r holl arweinyddion dysgwyr bregus yng Nghymru, ac mae’r adnoddau hyfforddiant cynhwysfawr ar gyfer disgyblion ac addysgwyr proffesiynol ar gael i bob ysgol yng Nghymru erbyn hyn. Lluniwyd yr adnoddau i gyflawni deilliannau dysgu o fewn Maes Dysgu ‘Iechyd a Llesiant’ y Cwricwlwm i Gymru (Llywodraeth Cymru, 2020).
Oherwydd y rhaglen gwelwyd fod sgiliau athrawon i adnabod a chefnogi gofalwyr ifanc mewn ysgolion wedi cynyddu’n sylweddol:
- Cynyddodd nifer yr athrawon a chanddynt wybodaeth ragorol o beth mae bod yn ofalydd ifanc yn ei olygu bedair gwaith drosodd yn ystod y rhaglen, gan godi o 13% i 61%.
- Cyn y rhaglen, dim ond 5% o athrawon ddywedodd eu bod yn gwybod pa addasiadau rhesymol mae gofalwyr ifanc eu hangen i gefnogi eu haddysg, iechyd a llesiant yn yr ystafell ddosbarth. Ar ôl yr hyfforddiant, roedd gan 94% wybodaeth dda o sut i gefnogi disgyblion.
Rhoddodd y rhaglen y wybodaeth, y sgiliau a’r arfau i athrawon yn yr ysgolion peilot i sicrhau bod eu hysgol yn darparu amgylchedd cefnogol ar gyfer adnabod gofalwyr ifanc a sicrhau eu bod yn cael cynnig y gefnogaeth maen nhw ei hangen. Bu’r peilot yn llwyddiant digamsyniol, ac mewn un ysgol daeth disgybl pump oed o hyd i’r hyder i siarad am ei rôl ofalu yn dilyn gwasanaeth yr ysgol am ofalwyr ifanc. O’r herwydd mae eu teulu yn cael y gefnogaeth erbyn hyn ac mae’r athro wedi trefnu sesiwn bob pythefnos sydd ar gael i bob gofalydd ifanc yn yr ysgol.
Dywedodd un o’r prif bartneriaid fu’n datblygu’r adnoddau, Siriol Burford, yr arweinydd dysgwyr bregus yng Nghonsortiwm De Canol:
“Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yn helpu cynnig eglurder i ysgolion am y dulliau holistaidd, ysgol gyfan sydd eu hangen i sicrhau bod gofalwyr ifanc yn cael yr addysg maen nhw’n ei haeddu. Mae’r bartneriaeth gydweithredol rhwng Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru a chonsortia wedi datblygu’r strategaethau a’r adnoddau sydd eu hangen i weithredu hyn.”
Dywedodd Simon Hatch, Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru:
“Rydym yn falch o fod wedi arwain partneriaeth gref sydd eisoes wedi arwain at welliannau ym mhrofiadau gofalwyr ifanc mewn addysg ar draws Cymru.
Mae gormod o ofalwyr ifanc yn ei chael yn anodd i gael y gydnabyddiaeth maen nhw’n ei haeddu a’r gefnogaeth maen nhw ei hangen mewn amgylcheddau addysg.
I lawer, mae hyn yn creu canlyniadau negyddol sy’n parhau. Dangosodd ein peilot werth dulliau ysgol-gyfan o sicrhau bod gofalwyr ifanc yn cael yr help a’r ddealltwriaeth maen nhw ei hangen”.
Dywedodd y Gweinidog Addysg Kirsty Williams:
“Mae gan bob plentyn yng Nghymru, gan gynnwys y rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu gartref, yr hawl i ddisgwyl addysg ragorol waeth beth yw eu hamgylchiadau.
“Gall cyrhaeddiad addysgol da agor y drysau i sefydlogrwydd, sicrwydd a bywyd annibynnol, boddhaus i’r dyfodol, ac rwyf wrth fy modd ein bod wedi gallu darparu cyllid i Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru i gynhyrchu adnoddau addysgol i gefnogi gofalwyr ifanc mewn addysg.”
- Diwedd -
Nodiadau i’r Golygydd
- Er mwyn cael mwy o wybodaeth cysylltwch â, Kate Cubbage, Pennaeth Materion Allanol ar 07842581935 neu kcubbage@carers.org
- Mae’r datganiad i’r wasg Saesneg ar gael yma.
- Mae’r adnoddau addysg dwyieithog ar gael yn: https://carers.org/resources/all-resources/115-adnoddau-ar-gyfer-gweithwyr-addysg-proffesiynol-i-gefnogi-gofalwyr-ifanc-mewn-ysgolion
- Roedd grŵp llywio’r rhaglen beilot yn cynnwys Arolygiaeth Ei Mawrhydi Estyn, gwasanaethau gofalwyr, awdurdodau lleol, athrawon ac academyddion o Brifysgol Caerdydd, ac fe’i cynhaliwyd mewn partneriaeth â chonsortia addysg rhanbarthol Cymru (ERW, EAS, GwE a CSC).
[ii] Support not sympathy - A call to action from Wales’ young and young adult carers (Carers Trust Wales, 2020).
[iii] Lyttleton-Smith, J (2016), “Young Carers Speak Out!”, Children's Social Care Research and Development Centre (CASCADE).