Cefnogi gofalwyr i gyflawni eu huchelgeisiau mewn addysg uwch
Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru mewn partneriaeth â phob partneriaeth Estyn yn Ehangach yng Nghymru wedi cyhoeddi Mynd yn Ymhellach: Arweiniad i ofalwyr i brifysgolion yng Nghymru, cyhoeddiad gwerthfawr a defnyddiol ar gyfer gofalwyr o bob oed sy’n ystyried addysg uwch.
Dangosodd astudiaeth a gynhaliwyd gan yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr a Phrifysgol Nottingham yn 2013 fod gofalwyr 4 gwaith yn fwy tebygol o adael y brifysgol na myfyrwyr heb gyfrifoldebau gofalu. Yn fwy diweddar, yn ystod yr haf eleni, dangosodd arolwg Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru ar brofiadau gofalwyr ifanc ac oedolion ifanc sy’n ofalwyr yn ystod y gwarchae fod 36% o oedolion ifanc sy’n ofalwyr yn dweud fod eu haddysg yn dioddef, a’i fod wedi effeithio ar eu gobeithion a’u cyfleoedd i’r dyfodol. Mae’r dystiolaeth hon yn dangos fod gofalwyr o bob oed angen gallu manteisio ar gefnogaeth ychwanegol er mwyn iddynt allu gwireddu eu nodau haddysgol.
Fel rhan o’n prosiect Mynd Ymhellach, a ariannwyd gan Sefydliad Waterloo, gweithiodd Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru gyda phob un o’r 9 prifysgol yng Nghymru a’r 3 partneriaeth Estyn yn Ehangach i roi systemau a pholisÏau syml ar waith sydd wedi gwneud argraff gadarnhaol, gynaliadwy ar ddeilliannau a phrofiadau gofalwyr mewn addysg uwch yng Nghymru. Cafodd y gwaith hwn effaith wych ar ofalwyr sy’n mynd i’r brifysgol ac sy’n cael cefnogaeth. Dywedodd myfyriwr sy’n mynd i Brifysgol Bangor:
“Mae bod yn ofalydd llawn-amser ac yn fyfyriwr llawn-amser yn anodd ac mae’n cymryd math arbennig o berson, ond mae staff prifysgolion yn gefnogol iawn ac fe wnânt bopeth allant i wneud pethau ychydig yn haws.”
Penllanw ein gwaith mewn partneriaeth â phob sefydliad addysg uwch yng Nghymru yw cyhoeddi ein cyhoeddiad pwysig “Mynd yn Ymhellach: Arweiniad i ofalwyr i brifysgolion yng Nghymru” sy’n rhoi i ofalwyr di-dâl o bob oed y wybodaeth sydd ei hangen arnynt i ystyried gwneud cais i astudio yn y brifysgol. Mae Simon Hatch, cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, yn pwysleisio pwysigrwydd yr adnodd hwn:
‘Mae llawer o bobl ifanc yn parhau i ofalu am aelod o’r teulu neu gyfaill tra’u bod i ffwrdd yn y brifysgol, ond mae llawer yn ail-feddwl ac yn poeni am adael cartref a gadael eu rôl ofalu. Mae’r arweiniad hwn yn rhoi gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth sy’n helpu gofalwyr i adnabod y cyfleoedd a’r gefnogaeth sydd ar gael iddynt os ydynt yn penderfynu symud ymlaen at addysg uwch.”
Yr adnodd hwn yw’r cyntaf o’i fath i gynnig gwybodaeth holistaidd am y gefnogaeth sydd ar gael i ofalwyr sy’n gwneud cais i astudio yn y brifysgol, cyn cael eu derbyn ac yn ystod eu cyfnod mewn addysg uwch. Gobeithiwn y bydd yr arweiniad yn offeryn hynod ddefnyddiol i unrhyw sefydliad sy’n gweithio gyda gofalwyr, gan gynnwys ysgolion, colegau ac elusennau sy’n cefnogi pobl gyda’u dyheadau addysgol.
Trwy’r arweiniad hwn gobeithiwn roi gwybod i ac annog llawer mwy o ofalwyr i ehangu eu gorwelion a theimlo’n hyderus y gallant, gyda chefnogaeth, lwyddo yn y brifysgol.
-diwedd-
Mae datganiad i'r wasg Saesneg ar gael yma.