An Inspiring Day at BBC Wales
Young and young adult carers from across south and west Wales took part in an unforgettable careers day at BBC Wales that gave them a valuable insight into what their futures could hold.
Employability Insight Day
For many young carers, thinking about future careers can be challenging. Their caring responsibilities often mean missed opportunities, but they also build incredible transferable skills: resilience, empathy, organisation and problem-solving. This Employability Insight Day was all about celebrating those strengths and helping young carers see the value in their lived experiences.
The group from Bridgend Carers, Carers Trust Crossroads West Wales, Swansea Carers, and Brecon Carers Credu were welcomed with warmth and enthusiasm by the BBC Wales team. They toured the studios, explored behind-the-scenes roles in TV and radio, and discovered the many exciting career paths in media - from sound engineering and audio drama to camera operation and journalism.
From First Takes to First Trains
A stand-out moment was visiting the Audio Drama Department, where carers learned how stories are brought to life through sound, collaboration and creativity. They heard from current BBC apprentices, who shared their inspiring journeys into media. They also met Clare, a member of the BBC’s Carers Network which supports employees who also have caring roles, who spoke about balancing work and caring responsibilities.
And for some, the day included another first: their first-ever train journey to Cardiff! It was not only a career-focused experience but also a chance to build confidence through travel training and enjoy a well-deserved break.
The future is brighter
It was a day filled with learning, laughter and inspiration and highlights how young carers have everything it takes to build bright, exciting futures. The group left feeling motivated, valued, and seen - with possible ideas about futures careers.
A huge thank you to Hannah Bevan, Portfolio Manager, Inclusion and the BBC Wales team for recognising the talents of our young carers and making them feel truly welcome.
*************************************
Diwrnod Ysbrydoledig yn BBC Cymru Wales
Cafodd gofalwyr ifanc o bob rhan o dde a gorllewin Cymru gyfle i gymryd rhan mewn diwrnod gyrfaoedd bythgofiadwy yn BBC Cymru a roddodd gipolwg gwerthfawr iddynt ar yr hyn allan nhw ei wneud yn y dyfodol.
Mae meddwl am y dyfodol a gyrfaoedd posibl yn gallu bod yn heriol i nifer o ofalwyr ifanc. Er bod eu cyfrifoldebau gofalu yn aml wedi golygu eu bod yn colli cyfleoedd, mae’n bwysig cofio hefyd bod y cyfrifoldebau hyn wedi eu gorfodi i feithrin sgiliau trosglwyddadwy gwerthfawr: gan gynnwys gwydnwch, empathi, trefnu a datrys problemau. Nod y Diwrnod Gwybodaeth am Gyflogadwyedd yw dathlu’r cryfderau hynny a helpu gofalwyr ifanc i sylweddoli mor werthfawr yw eu profiadau bywyd.
Roedd y grŵp, oedd yn cynnwys Gofalwyr o Ben-y-bont ar Ogwr, Ymddiriedolaeth Gofalwyr Croesffyrdd Gorllewin Cymru, Gofalwyr Abertawe, a Gofalwyr Grŵp Credu Aberhonddu, wedi cael croeso cynnes gan dîm brwdfrydig BBC Cymru. Cafodd y grŵp daith o'r stiwdio a chyfle i ddysgu rhagor am yr holl swyddi sydd i’w cael y tu ôl i’r llen ym myd radio a theledu a’r holl yrfaoedd cyffrous sydd yn bodoli yn y cyfryngau - gan gynnwys peiriannydd sain, gweithio ar ddramâu sain, gweithredu camera a newyddiadura.
Un o’r uchafbwyntiau oedd ymweld â'r Adran Dramâu Sain, lle cafodd y gofalwyr gyfle i weld straeon yn dod yn fyw gyda sain, creadigrwydd a chyd-weithio. Cafodd y gofalwyr gyfle i sgwrsio â rhai o brentisiaid presennol y BBC wrth iddynt rannu eu taith nhw at swydd yn y cyfryngau. Cawsant gyfle hefyd i gwrdd â Clare, aelod o Rwydwaith Gofalwyr y BBC, sef rhwydwaith sy’n cefnogi staff sydd hefyd yn ofalwyr. Daeth hi draw i drafod cydbwyso gwaith â chyfrifoldebau gofalu.
Roedd y grŵp yn llawn cymhelliant wrth adael, ac yn teimlo eu bod wedi cael eu gwerthfawrogi a’u gweld - ac roedd gan rai ohonynt syniadau newydd am yrfaoedd posibl.
Roedd hi’n ddiwrnod mawr i rai ohonynt am reswm arall hefyd - dyma’r tro cyntaf iddynt fentro ar y trên i Gaerdydd! Yn ogystal â meddwl am yrfaoedd posibl, cafodd y gofalwyr ddiwrnod gwerth chweil yn magu hyder drwy deithio a mwynhau seibiant haeddiannol.
Cafwyd diwrnod ysbrydoledig yn dysgu a chwerthin, a braf oedd gallu dangos i’r gofalwyr bod ganddynt bopeth sydd ei angen arnynt i greu dyfodol disglair a chyffrous.
Diolch yn fawr i Hannah Bevan a holl dîm BBC Cymru am gydnabod doniau ein gofalwyr ifanc ac am fod mor barod i’w croesawu.