Dau gynllun gofalwyr hanfodol yng Nghymru i’w hariannu am flwyddyn ychwanegol
Mae’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yn croesawu’r newyddion heddiw bod Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £5.25 miliwn pellach i barhau â’r Cynllun Seibiannau Byr a’r Gronfa Cymorth Gofalwyr am ddeuddeng mis ychwanegol, tan ddiwedd mis Mawrth 2026.
Wrth ymateb i’r cyhoeddiad, dywedodd Kate Cubbage, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru:
“Rydym wedi clywed gan filoedd o ofalwyr di-dâl fod y Cynllun Seibiannau Byr wedi rhoi’r cyfle cyntaf iddynt gael seibiant o ofalu a bod grantiau drwy’r Gronfa Cymorth Gofalwyr wedi bod yn hanfodol i gadw bwyd ar y bwrdd a gwres yn eu cartrefi. Mae'r rhaglenni hyn yn helpu i gynnal gofalwyr trwy rai o'r cyfnodau anoddaf.
“Dyna pam rwy’n hynod falch bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddiogelu’r rhaglenni hanfodol hyn gyda sicrwydd o gyllid am flwyddyn arall. Bydd y cyllid hwn yn galluogi sefydliadau gofalwyr lleol a phartneriaid cyflawni i gyrraedd miloedd yn fwy o ofalwyr di-dâl gyda seibiant o ofalu y mae mawr ei angen a’u hamddiffyn rhag pen pellaf tlodi hyd at 2026.
“Mae angen y rhaglenni hyn nawr yn fwy nag erioed, wrth i gostau godi ac wrth i’n partneriaid ym maes iechyd a gofal cymdeithasol wynebu pwysau cynyddol. Mae buddsoddiad mewn cymorth i ofalwyr di-dâl yn fuddsoddiad y gwyddom sy’n gwneud gwahaniaeth i les unigolion a theuluoedd. Mae ein cydweithwyr yn y gwasanaethau statudol yn dweud wrthym fod y buddsoddiadau cymedrol hyn yn gwneud gwahaniaeth i gynnal gofalwyr yn eu rôl ofalu hanfodol ac yn atal yr angen am ymyrraeth bellach gan wasanaethau acíwt.
“Fel y corff trydydd sector sy’n arwain y Cynllun Seibiannau Byr a’r Gronfa Cymorth Gofalwyr, mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yn edrych ymlaen at sefyll ochr yn ochr â’n gofalwr lleol a sefydliadau trydydd sector. Byddwn yn cefnogi ein partneriaid statudol i gyflawni yn erbyn uchelgeisiau’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant drwy’r rhaglenni trawsnewidiol hyn.”
Dywedodd Liz Wallis, Arweinydd Rhaglen y Gronfa Cymorth Gofalwyr a’r Cynllun Seibiannau Byr:
“Rydyn ni’n falch o’r hyn rydyn ni wedi’i gyflawni hyd yma gyda’r rhaglenni hyn ond rydyn ni’n gwybod bod gormod o ofalwyr di-dâl ledled Cymru yn dal i wynebu’r dewis i ‘gynhesu neu fwyta’ ac mae llawer yn cael eu gwthio i’r dibyn heb fawr o gyfle, os o gwbl, i gael seibiant o ofalu.
“Bydd y cyllid newydd hwn gan Lywodraeth Cymru yn sicrhau y bydd hyd yn oed mwy o ofalwyr yn cael mynediad at y cymorth hanfodol hwn. Bydd yn caniatáu i’n partneriaid cyflenwi ledled Cymru barhau i ddarparu capasiti ychwanegol ar gyfer seibiannau hanfodol, gan gynnwys drwy gyrraedd gofalwyr o gymunedau sy’n aml yn cael eu tanwasanaethu gan wasanaethau ffurfiol.”
Gan gyflawni ochr yn ochr â’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr, croesawodd partneriaid mewn byrddau iechyd, awdurdodau lleol a Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol y newyddion. Dywedodd Naheed Ashraf, Arweinydd Trawsnewid Gofalwyr Rhanbarthol Gwent:
“Rydym yn falch bod y rhaglenni cenedlaethol hyn wedi’u hymestyn, gan ganiatáu inni barhau i ddarparu cymorth hanfodol i ofalwyr di-dâl mewn cymunedau ledled Gwent. Mae’r rhaglenni hyn yn ein galluogi i weithio mewn partneriaeth â’n cydweithwyr yn y trydydd sector i wella mynediad at wasanaethau sy’n rhoi llais a rheolaeth i ofalwyr er mwyn cyflawni’r hyn sy’n bwysig iddyn nhw.”
Dywedodd y Cyng. Elen Heaton, Aelod Arweiniol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cyngor Sir Ddinbych:
“Mae’r Cynllun Seibiannau Byr wedi galluogi Cyngor Sir Ddinbych i weithio gyda’n partneriaid yn y trydydd sector i gyflawni ein cyfrifoldebau ar y cyd i ddiwallu anghenion llesiant gofalwyr di-dâl yn Sir Ddinbych. Mae’r cynllun yn gwella ein harlwy lleol yn ogystal â bod yn rhan o’r dull rhanbarthol a rennir i gefnogi gofalwyr di-dâl ar draws Gogledd Cymru. Mae gweld y rhaglen hon yn cael ei chyflawni yn 2026 yn golygu bod gwasanaethau hanfodol i ofalwyr di-dâl yn cael eu diogelu.”