Carers Trust calls for action on unpaid carers in Welsh Government's Draft Budget
This Draft Budget is an opportunity for Welsh Government to recognise the vital contribution of unpaid carers to our health and care economy.
Through appropriately investing in support that prioritises carers’ health and wellbeing, protects them from poverty, and ensures local carer organisations are there when they need them, Welsh Government can demonstrate how it values and appreciates the 310,000 people in Wales who provide care, unpaid, for family, friends and neighbours. Each year, unpaid carers in Wales contribute the equivalent of more than £10bn worth of care to the economy – a figure comparable to the entire health and social care budget.
Kate Cubbage, Carers Trust Director for Wales, says:
“Too many carers in Wales are bearing the brunt of pressures in our health and care system, and often doing so with only the limited protection of welfare benefits to keep them from the sharpest end of poverty.
“We lean on unpaid carers to keep people safe at home and prevent avoidable admissions to hospital, and we lean on them again to support people discharged back into the community. This is despite more than half of carers balancing their caring with their own health needs, many of whom will be on waiting lists for treatment themselves.
“Carers need regular, reliable breaks from caring and they need support through small grants and income maximisation to keep food in the fridge and warmth in their homes. Carers Trust is proud to have been a partner of Welsh Government in delivering on the Short Breaks Scheme and the Carers Support Fund to help meet these basic needs for tens of thousands of carers each year since 2022.
“The Draft Budget must make provision for refunding the Short Breaks Scheme and the Carers Support Fund, as well as investing in the local support services carers rely on. These programmes are no longer ‘nice to haves’ but are ‘must haves’ if we are to sustain our unpaid carers, who are themselves plugging gaps in the social care system and protecting our NHS.”
Datganiad cyn Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2025-26
Mae’r Gyllideb Ddrafft hon yn gyfle i Lywodraeth Cymru gydnabod cyfraniad hanfodol gofalwyr di-dâl i’n heconomi iechyd a gofal.
Drwy fuddsoddi’n briodol mewn cymorth sy’n blaenoriaethu iechyd a lles gofalwyr, yn eu hamddiffyn rhag tlodi, ac yn sicrhau bod sefydliadau gofalwyr lleol yno pan fydd eu hangen arnynt, gall Llywodraeth Cymru ddangos sut y mae’n gwerthfawrogi’r 310,000 o bobl yng Nghymru sy’n darparu gofal, yn ddi-dâl, ar gyfer teulu, ffrindiau a chymdogion. Bob blwyddyn, mae gofalwyr di-dâl yng Nghymru yn cyfrannu cyfwerth â mwy na £10bn o ofal i’r economi – ffigwr tebyg i’r gyllideb iechyd a gofal cymdeithasol gyfan.
Meddai Kate Cubage, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru:
“Mae gormod o ofalwyr yng Nghymru yn ysgwyddo baich ein system iechyd a gofal, ac yn aml yn gwneud hynny gyda dim ond amddiffyniad cyfyngedig o fudd-daliadau lles i’w cadw rhag pen pellaf tlodi.
“Rydym yn pwyso ar ofalwyr di-dâl i gadw pobl yn ddiogel gartref ac atal derbyniadau i'r ysbyty y gellir eu hosgoi, ac rydym yn pwyso arnynt eto i gefnogi pobl sy'n cael eu rhyddhau yn ôl i'r gymuned. Mae hyn er gwaetha’r ffaith fod mwy na hanner o ofalwyr yn gorfod cydbwyso eu gofal â'u hanghenion iechyd eu hunain, gyda llawer ohonynt hefyd ar restrau aros am driniaeth.
“Mae gofalwyr angen seibiannau rheolaidd a dibynadwy rhag gofalu ac mae angen cymorth arnynt trwy grantiau bach a gwasanaethau cynyddu incwm i gadw bwyd yn yr oergell a chynhesrwydd yn eu cartrefi. Mae’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr yn falch o fod wedi bod yn bartner i Lywodraeth Cymru wrth gyflawni’r Cynllun Seibiannau Byr a’r Gronfa Cymorth Gofalwyr i helpu i ddiwallu’r anghenion sylfaenol hyn ar gyfer degau o filoedd o ofalwyr bob blwyddyn ers 2022.
“Rhaid i’r Gyllideb Ddrafft wneud darpariaeth ar gyfer ail-gyllido'r Cynllun Seibiannau Byr a’r Gronfa Cymorth Gofalwyr, yn ogystal â buddsoddi yn y gwasanaethau cymorth lleol y mae gofalwyr yn dibynnu arnynt. Nid yw’r rhaglenni hyn bellach yn ‘braf eu cael’ ond maent yn rhai ‘hanfodol’ os ydym am gynnal ein gofalwyr di-dâl, sydd eu hunain yn llenwi bylchau yn y system gofal cymdeithasol ac yn amddiffyn ein GIG.”