Ei Huchelder y Dywysoges Frenhinol yn cwrdd â gofalwyr di-dâl yng Nghynhadledd yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr
Cyfarfu Llywydd yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr, Ei Huchelder y Dywysoges Frenhinol, â gofalwyr di-dâl o bob cwr o Gymru yn y Gynhadledd Seibiannau Byr ddydd Iau 3 Hydref.
Roedd sefydliadau gofalu a gofalwyr di-dâl eraill yn bresennol yn y gynhadledd yng Nghlwb Criced Sir Morgannwg yng Nghaerdydd, a drefnwyd gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru. Tynnodd y gynhadledd sylw at effaith y Cynllun Seibiannau Byr, sydd wedi rhoi cyfle i dros 13,000 o ofalwyr di-dâl gymryd seibiant byr o’u rôl gofalu.
Dywed Kate Cubbage, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, “Mae gofalwyr di-dâl yn chwarae rôl hollbwysig yn cefnogi aelodau o’r teulu, ffrindiau a chymdogion. Mae ein system iechyd a gofal cymdeithasol fregus yn aml yn dibynnu ar gyfraniad anhunanol gofalwyr. Rwy’n falch iawn bod ein Llywydd, Ei Huchelder y Dywysoges Frenhinol, wedi siarad a chwrdd â llawer o’r sefydliadau sy’n darparu’r Cynllun Seibiannau Byr, cynllun sy’n hanfodol i gynnal gofalwyr yn y rôl hollbwysig maen nhw’n ei chwarae mewn cymunedau ledled Cymru. Roedd gofalwyr a oedd wedi elwa ar seibiant byr hefyd wedi cael cyfle i gwrdd â’i Huchelder Brenhinol i rannu’r gwahaniaeth roedd cymryd seibiant byr wedi’i wneud iddyn nhw a’r rheini maen nhw’n gofalu amdanyn nhw.”
Mae Kate yn parhau, "Mae dros 310,000 o ofalwyr di-dâl yng Nghymru. Mae eu hymrwymiad yn aml yn anweledig ac nid yw’n cael ei werthfawrogi. Roeddem yn croesawu’r cyfle i Ei Huchelder y Dywysoges Frenhinol glywed sut mae’r Cynllun Seibiannau Byr wedi sicrhau cychwyn cadarn i helpu i drawsnewid eu bywydau.”
Mae’r Cynllun Seibiannau Byr yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i gydlynu gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru. Ei nod yw cefnogi 30,000 o ofalwyr di-dâl o bob oed yng Nghymru i gymryd seibiant o’u rôl gofalu, drwy wyliau dros nos, gweithgareddau grŵp a grantiau bach erbyn 2025.
Dywedodd Dawn Boden, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol: “Roedd yn anrhydedd cael siarad yng nghynhadledd Seibiannau Byr yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr a chlywed gan ofalwyr di-dâl sydd wedi elwa o’n cynllun Seibiannau Byr. Rydym yn gwerthfawrogi’n fawr y rôl hanfodol y mae gofalwyr di-dâl yn ei chwarae yn ein cymunedau. Mae ein buddsoddiad o £9m yn adlewyrchu ein hymrwymiad i sicrhau cyfleoedd ychwanegol i ofalwyr di-dâl ledled Cymru gael seibiant o’u rolau gofalu er mwyn cynnal eu lles corfforol a meddyliol.”
Llywydd yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr, Ei Huchelder y Dywysoges Frenhinol, yn cyfarch gofalwyr di-dâl a sefydliadau gofalu o bob cwr o Gymru yn y Gynhadledd Seibiannau Byr yng Nghaerdydd.
DIWEDD
Nodiadau i Olygyddion
Gwybodaeth am Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru
Nod Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, sy’n rhan o’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr, yw creu dyfodol gwell gyda gofalwyr yng Nghymru ac ar eu cyfer, drwy godi ymwybyddiaeth, grymuso gofalwyr a dylanwadu ar newid. Mae wedi ymrwymo i sicrhau bod pob gofalwr yn cael y gydnabyddiaeth a’r gefnogaeth y mae'n eu haeddu. Mae’n gweithio’n agos ac ar y cyd â Phartneriaid Rhwydweithio – elusennau annibynnol lleol a rhanbarthol sy’n darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth ymarferol i ofalwyr di-dâl yng Nghymru.
Gwefan yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr: www.carers.org
Gwybodaeth am y Cynllun Seibiant Byr
Mae’r Cynllun Seibiant Byr yn fenter newydd a lansiwyd yn 2022 i gefnogi 30,000 o ofalwyr di-dâl o bob cwr o Gymru i gael seibiant angenrheidiol o’u cyfrifoldebau gofalu. Mae’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, ac mae’n rhedeg rhwng 2022-2025. Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yw corff cydlynu cenedlaethol y cynllun, sy’n dosbarthu grantiau i elusennau ledled Cymru.
Gyda chyllideb gyffredinol o £9 miliwn, mae rheolaeth y cynllun yn cael ei rhannu rhwng Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru a saith Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol. Mae sefydliadau yn gwneud cais am y cyllid i gyflawni’r gweithgareddau.
Gwefan y Cynllun Seibiannau Byr: https://www.shortbreaksscheme.wales/cymraeg/hafan
Trawsnewid Bywydau: Cynhadledd Seibiannau Byr
Trawsnewid Bywydau yw’r gynhadledd seibiannau byr gyntaf a gynhaliwyd gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru fel rhan o’r Cynllun Seibiannau Byr. Mae gofalwyr di-dâl, sefydliadau gofalwyr lleol, y trydydd sector a phartneriaid statudol ymhlith y 200 o gynrychiolwyr a fydd yn mynd i’r gynhadledd ar 3 Hydref yng Nghanolfan Criced Morgannwg, Gerddi Sophia, Caerdydd.
Llefarwyr ar gael ar gyfer cyfweliad
Kate Cubbage, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru
Gofalwyr di-dâl sydd wedi cael seibiant byr drwy’r Cynllun Seibiannau Byr (recordio ymlaen llaw yn unig)
Cysylltwch â: Jude Wood: jwood@carers.org; Catrin Edwards: cedwards@carers.org, 07791667005 i gael rhagor o wybodaeth ac i drefnu cyfweliadau.