Sefydliadau’n cydweithio i’w gwneud hi’n haws i ofalwyr di-dâl gael gafael ar feddyginiaethau ledled Cymru yn ystod y pandemig COVID-19
Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, mewn partneriaeth â’r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol, Fferylliaeth Gymunedol Cymru, Gofalwyr Cymru a Llywodraeth Cymru, wedi datblygu cyfres o adnoddau i gefnogi gofalwyr di-dâl – y rheini sy’n cefnogi ffrind neu aelod o’r teulu sydd, oherwydd salwch, anabledd, problem iechyd meddwl neu gaethiwed i sylwedd, yn methu ag ymdopi heb eu cefnogaeth – i allu cael gafael ar feddyginiaethau hanfodol yn haws yn ystod y pandemig COVID-19.
Yn ystod wythnosau diweddar, mae gofalwyr di-dâl wedi disgrifio sefyllfa lle y maen nhw’n wynebu amrywiaeth gynyddol o bwysau, gan gynnwys ei chael hi’n anodd trefnu slotiau danfon meddyginiaethau ac ymdopi â chiwiau hir yn y fferyllfa o ganlyniad i’r mesurau cadw pellter cymdeithasol angenrheidiol. Mae hyn wedi achosi i rai gofalwyr deimlo’n bryderus ac yn rhwystredig ynglŷn â’u gallu i gael gafael ar feddyginiaethau pan fo’u hangen arnyn nhw.
Hefyd, mae nifer gynyddol o ofalwyr ifanc wedi dweud eu bod nhw’n cael gwrthod mynediad i fferyllfeydd, sy’n achosi gofid i deuluoedd os mai gofalwr ifanc yw’r unig un sy’n gallu casglu presgripsiwn.
Meddai Simon Hatch, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru:
“Mae Partneriaid Rhwydwaith Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, sef elusennau lleol sy’n gweithio’n uniongyrchol â gofalwyr di-dâl, wedi dweud wrthym ni bod cael gafael ar feddyginiaethau wedi achosi straen a phryder penodol i lawer o ofalwyr di-dâl dros yr ychydig wythnosau diwethaf.
“Ar adeg pan y mae gofalwyr di-dâl dan bwysau emosiynol, corfforol ac ariannol ychwanegol, mae’n bwysig nad ydyn nhw’n wynebu rhwystrau ychwanegol rhag cael gafael ar feddyginiaethau y maen nhw neu eu hanwyliaid yn dibynnu arnyn nhw.
“Mae’n bleser gennym ni ddweud ein bod ni wedi arwain partneriaeth sydd wedi datblygu offerynnau i helpu gofalwyr a fferyllwyr i gydweithio i wneud yn siŵr bod pawb sydd angen cael gafael ar feddyginiaethau’n gallu gwneud hynny mor rhwydd â phosibl.”
Mae Claire Morgan, Cyfarwyddwr Gofalwyr Cymru, yn ychwanegu:
“Mae Gofalwyr Cymru wedi clywed dro ar ôl tro oddi wrth ofalwyr di-dâl am yr anawsterau y mae’r pandemig presennol yn eu creu iddyn nhw wrth ofalu am aelodau o’u teulu a ffrindiau.
“Mae’n bleser gennym ni weithio mewn partneriaeth i gefnogi gofalwyr i gael gafael ar feddyginiaethau yn yr amser heriol hwn.”
Mae timau fferyllol wedi gorfod addasu’n gyflym i sicrhau bod pobl yn gallu parhau i gael budd o fferylliaeth gymunedol yn ystod y pandemig. Mae’r newidiadau angenrheidiol sydd wedi’u gwneud wedi effeithio ar bawb sy’n mynychu fferyllfeydd cymunedol, gan gynnwys gofalwyr di-dâl.
Yr wythnos hon, mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol, Fferylliaeth Gymunedol Cymru a Gofalwyr Cymru wedi ysgrifennu at fferyllwyr ledled Cymru i fanylu ar bethau syml y gellir eu rhoi ar waith i wella profiadau gofalwyr a’u gallu i gael gafael ar y meddyginiaethau sydd eu hangen arnyn nhw. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Rhoi cefnogaeth a gwybodaeth benodol i gynorthwyo gofalwyr di-dâl yn y siop
- Caniatáu i ddau o bobl fod yn y siop pan nad oes gan y gofalwr unrhyw ddewis ond mynd â’r person y mae’n gofalu amdano/amdani gyda nhw i mewn i’r fferyllfa
- Ystyried blaenoriaethu gofalwyr di-dâl pobl agored i niwed / sy’n cael eu gwarchod i gael slotiau danfon meddyginiaethau
- Cydnabod mai gofalwyr ifanc, i rai teuluoedd, yw’r unig bobl ar yr aelwyd sy’n gallu casglu meddyginiaethau
Meddai Elen Jones, Cyfarwyddwr y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol yng Nghymru:
“Rydyn ni’n cydnabod cyfraniad sylweddol gofalwyr di-dâl at iechyd a gofal cymdeithasol ac rydyn ni’n gwerthfawrogi eu cefnogaeth bwysig i bobl sydd angen meddyginiaeth reolaidd.
“Rydyn ni felly’n falch iawn o fod yn rhan o’r dull hwn o weithredu mewn partneriaeth i annog gwell dealltwriaeth o’r galw presennol, na welwyd mo’i fath o’r blaen, sy’n wynebu gofalwyr a fferyllwyr.
“Rydyn ni’n gobeithio y bydd hyn yn cefnogi parhad gofal i bobl y mae gofalwyr di-dâl yn gofalu amdanyn nhw ledled Cymru.”
Meddai Judy Thomas, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Contractwyr, Fferylliaeth Gymunedol Cymru:
“Mae Fferylliaeth Gymunedol Cymru wedi cydnabod ers tro yr angen i weithio’n sensitif ac yn rhagweithiol â gofalwyr i helpu i ddosbarthu meddyginiaethau i gleifion sydd, yn aml, yn agored i niwed.
“Mae’r gyfres hon o adnoddau yn gam mawr ymlaen ac rydyn ni’n falch o fod yn rhan o’u datblygu i gefnogi gofalwyr i ddeall fferylliaeth gymunedol yn well a chefnogi timau fferylliaeth gymunedol i ddeall gofalwyr yn well.”
Mae canllaw hefyd wedi’i gyhoeddi i gefnogi gofalwyr di-dâl i wneud yn fawr o’u tîm fferyllol. Mae’n cynnig awgrymiadau defnyddiol ar gyfer gofalwyr, gan gynnwys:
- Archebu presgripsiynau o leiaf saith diwrnod cyn bo’u hangen
- Peidio ag archebu mwy o feddyginiaeth nag sydd ei hangen
- Gwirio oriau dosbarthu cyn mynd i’r fferyllfa
- Gofyn i’r teulu, ffrindiau neu grŵp gweithredu lleol helpu os nad ydych chi’n gallu casglu presgripsiwn ar eich rhan eich hun
- Bod â chynllun wrth gefn rhag ofn y byddwch chi’n dod yn sâl ac yn methu â chasglu meddyginiaeth
- Gofyn i’ch fferyllfa am gefnogaeth. Mae’n bosibl y byddan nhw’n awgrymu grŵp gwirfoddol lleol sy’n gallu helpu neu, mewn rhai achosion, drefnu i ddanfon meddyginiaeth
- Gwneud yn siŵr eich bod chi’n gwybod enw llawn, cyfeiriad a dyddiad geni unrhyw un rydych chi’n casglu presgripsiwn ar eu rhan, a dod ag ID gyda chi i’r fferyllfa
Mae’n gallu bod yn anodd i weithwyr proffesiynol adnabod gofalwyr. Er mwyn brwydro yn erbyn hyn, mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, Gofalwyr Cymru a Llywodraeth Cymru wedi datblygu llythyr ar gyfer gofalwyr o bob oedran sy’n esbonio pam y gallai fod angen cefnogaeth a dealltwriaeth ychwanegol arnyn nhw. Bydd y llythyr safonol hwn ar gael i awdurdodau lleol a gwasanaethau gofalwyr ledled Cymru i helpu mewn amgylchiadau lle nad oes yna unrhyw fodd arall o adnabod rhywun.
Meddai Julie Morgan AC, y Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:
“Mae gofalwyr di-dâl yn gwneud gwaith hanfodol yn ystod yr amser anodd hwn. Trwy weithio mewn partneriaeth, rydyn ni’n nodi’r gefnogaeth sydd ei hangen ar ofalwyr ifanc i’w helpu nhw i barhau i ddarparu’r gefnogaeth sydd ei gwir angen nawr ac yn y dyfodol.”
Mae rhagor o wybodaeth i’w gweld ar-lein am yr ymgyrch hon i godi ymwybyddiaeth, yn carers.org/cymru/COVID19.
-diwedd-
Mae datganiad i'r wasg Saesneg ar gael yma.