Briff: Gofalwyr Ifanc a Covid-19
Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru’n galw ar gyrff priodol i wneud mwy i ddiogelu iechyd a llesiant gofalwyr ifanc.
Mae’r briff hwn yn manylu ar y meysydd pryder cychwynnol ynglŷn â llesiant gofalwyr ifanc, fel y mae gofalwyr ifanc eu hunain a’r gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda nhw’n eu disgrifio.