Mae’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr wedi penodi Carly Gray yn Arweinydd Rhaglenni Cymru
Mae’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr yn falch iawn o gyhoeddi y penodwyd Carly Gray i rôl Arweinydd Rhaglenni Cymru.
Gan ddechrau ym mis Rhagfyr, bydd Carly yn gweithio gyda chydweithwyr i gynllunio a darparu rhaglenni sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ofalwyr di-dâl yng Nghymru.
Mae gan Carly brofiad helaeth o arwain a rheoli ar draws mudiadau yn y sector cyhoeddus a’r trydydd sector ynghyd â chefndir mewn cynllunio, datblygu ac asesu cwricwlwm.
Mae hi’n ymuno â’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr o BookTrust Cymru lle y bu’n Rheolydd Rhaglenni Ysgolion ac Ymgysylltu er 2019, yn gweithio i gynllunio, datblygu a monitro rhaglenni addysg uchelgeisiol. Cyn hynny, roedd Carly yn athrawes a chanddi 14 blynedd o brofiad mewn rolau rheoli ac arwain gwahanol.
Yn ogystal â’i rolau profesiynol, bu Carly yn Ymddiriedolydd i’r Mudiad Meithrin, mudiad gwirfoddol sy’n gweithio ym maes addysg blynyddoedd cynnar. Mae wedi gweithio hefyd gydag elusennau amrywiol yn wirfoddolydd yn datblygu rhaglenni a gweithgareddau i gefnogi plant a theuluoedd bregus yn yr India a Nigeria.
Gan edrych ymlaen at ei rôl newydd, dywedodd Carly:
“Rwyf wrth fy modd fy mod yn ymuno â’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr ac yn cychwyn ar daith sy’n anelu at gefnogi gofalwyr di-dâl ar draws ein cymunedau. Mae ymuno ag elusen sydd wedi ymrwymo i eiriol dros waith amhrisiadwy gofalwyr di-dâl yn adlewyrchu mewn ffordd ddofn iawn fy nyheadau personol a phroffesiynol.
“Mae gofalwyr di-dâl yn cyflawni rôl anhepgor yn ein cymdeithas ac mae eu cyfraniad yn haeddu cydnabyddiaeth ond hefyd systemau cefnogi cynhwysfawr ar waith. Gan gydnabod yr heriau y mae gofalwyr di-dâl yn eu wynebu’n ddyddiol, rwyf yn ymrwymo fy hun yn llwyr i gydweithio’n effeithiol â nhw a’n rhwydwaith helaeth o fudiadau gofalwyr lleol i greu newid cadarnhaol.
“Rwyf yn gynhyrfus iawn am daflu fy hun i mewn i’r rôl hollbwysig hon, a gweithio’n ddiwyd gydag unigolion a phartneriaid angerddol i wneud argraff wirioneddol ar fywydau gofalwyr di-dâl.”
Meddai Kate Cubbage, Cyfarwyddydd Cymru yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr:
“Rwyf wrth fy modd y bydd Carly yn ymuno â’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr mewn rôl allweddol i’r mudiad. Roedd ei hagwedd ddiwyro a’i huchelgais i wneud gwahaniaeth i fywydau gofalwyr di-dâl yn amlwg iawn trwy gydol proses benodi hynod gystadleuol.
“Mae gan Carly gymaint o brofiad o ddatblygu ac arwain ar gyflawni rhaglenni cenedlaethol sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ac ystyrlon. Yn ddiau, bydd ei sgiliau a’i phrofiad yn ein cefnogi i adeiladu ymhellach ar y rhaglenni cryfion sydd gennym yn barod.
“Fel aelod annatod o dîm Cymru bydd yn arwain ar drawsnewid ein cynlluniau rhaglenni er mwyn diwallu anghenion mudiadau gofalwyr lleol a gofalwyr di-dâl, gan weithio’n agos gyda chydweithwyr ar draws gwledydd Prydain, ein rhwydwaith o fudiadau gofalwyr lleol a’n Bwrdd Ymgynghorol i Gymru.”