Mae Mark Llewellyn yn ymuno â’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr yn Ymddiriedolydd Cymru a Chadeirydd Bwrdd Ymgynghorol Cymru
Mae’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr yn falch iawn o gyhoeddi y penodwyd yr Athro Mark Llewellyn yn Ymddiriedolydd Cymru a Chadeirydd Bwrdd Ymgynghorol Cymru.
Ag yntau’n Athro Polisi Iechyd a Gofal ym Mhrifysgol De Cymru, mae materion gofalwyr a’r trydydd sector yng Nghymru wedi bod yn ganolbwynt gwaith Mark ers blynyddoedd lawer. Mae ei waith yn edrych ar sut y gellir gwella perthnasoedd rhwng pobl, eu gofalwyr, a’r mudiadau lleol a chenedlaethol sy’n eu cefnogi.
Mae Mark yn edrych yn arbennig ar y ffyrdd y mae lleisiau gofalwyr yn cael eu clywed, ac ar faint o reolaeth sydd ganddynt ar y pethau sydd bwysicaf iddyn nhw. Ei brif nod yw gwneud yn fawr o’r cyfraniad cadarnhaol y gall data ymchwil a gwerthuso annibynnol ei wneud i brofiad bob dydd gofalwyr di-dâl ledled Cymru.
Mae’n byw yn Ne Orllewin Cymru gyda’i wraig a’i dri mab, ac mae’n gwirfoddoli yn y clwb criced lleol.
Mae’r rôl ddeuol yn yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr yn golygu y bydd Mark yn ymuno â’r Bwrdd Ymddiriedolwyr ac yn arwain Bwrdd Ymgynghorol Cymru, sy’n cynnwys gofalwyr, cydweithwyr ac aelodau rhwydwaith yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr o fudiadau gofalwyr lleol. Mae’n ceisio sicrhau bod yr elusen yn cael ei rheoli’n dda a’i bod yn sicrhau canlyniadau ardderchog i ofalwyr di-dâl ledled Cymru.
Meddai Mark Llewellyn:
“Cefais fy nenu at wneud cais i’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr yn y rôl hon yn Ymddiriedolydd Cymru a Chadeirydd Bwrdd Ymgynghorol Cymru oherwydd yr ymchwil a wneuthum ar faterion gofalwyr, a’r effaith gadarnhaol yr wyf yn gobeithio y gallaf ei chael ar waith y mudiad. Yn bennaf oll, byddaf yn gweithio i sicrhau bod Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yn dechrau a gorffen ei waith yn canolbwyntio ar wella bywydau gofalwyr, oherwydd hebddynt byddai ein system ofal a chefnogaeth yn dymchwel.”
DIWEDD
Er mwyn cael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Mark Chandler, Swyddog Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr yn mchandler@carers.org a 07712 427808.
Mwy am yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr
Yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr yw’r elusen sy’n gweithredu yng ngwledydd Prydain i drawsnewid bywydau gofalwyr di-dâl ar draws gwledydd Prydain. Mae’n partneru gyda’i rwydwaith o fudiadau gofalwyr lleol i ddarparu cyllid a chefnogaeth, cyflwyno rhaglenni blaengar yn seiliedig ar dystiolaeth a chodi ymwybyddiaeth & dylanwadu ar bolisi. Gweledigaeth yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr yw bod gofalwyr di-dâl yn cael eu clywed a’u gwerthfawrogi, ac y gallant dderbyn cefnogaeth, cyngor ac adnoddau i’w galluogi i fyw bywydau boddhaus.
I ddod o hyd i’ch mudiad gofalwyr lleol agosaf i gael cyngor a chefnogaeth, ewch i carers.org