'Amser' yn darparu seibiannau byr i ofalwyr di-dâl
Bu Julie Morgan AS, Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, yn ymuno â gofalwyr di-dâl o Gaerdydd ar daith gerdded llesiant yn ystod Wythnos Gofalwyr i nodi lansiad cronfa ‘Amser’ gan yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr a Llywodraeth Cymru.
Amser yw'r gronfa grant ar gyfer sefydliadau'r trydydd sector sy'n darparu seibiannau byr personol, hyblyg a chreadigol i ofalwyr di-dâl yng Nghymru. Bydd dros 14,000 o ofalwyr di-dâl yng Nghymru yn elwa o seibiannau byr sydd mawr eu hangen a ariennir drwy'r rhaglen Amser erbyn 2025.
Dan arweiniad Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru drwy Gronfa Seibiannau Byr £9m Llywodraeth Cymru, mae Amser wedi ariannu 23 o sefydliadau lleol ar draws pob rhan o Gymru i ddarparu seibiannau byr i ofalwyr di-dâl. Dros y ddwy flynedd nesaf, bydd Amser yn ehangu i gynyddu argaeledd seibiannau byr hanfodol i ddiwallu anghenion amrywiol poblogaeth Cymru.
Dywedodd Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol:
“Mae’n bleser mawr gen i lansio ein menter newydd Amser gydag Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru i ddarparu mwy o seibiannau byr i ofalwyr di-dâl ledled Cymru, yr Wythnos Gofalwyr hon.
“Mae’n hanfodol bod gofalwyr yn cymryd hoe o’u cyfrifoldebau gofalu ac yn cael eu hadfywio drwy wneud rhywbeth y maent yn ei fwynhau, gan gefnogi eu hiechyd meddwl a’u lles eu hunain yn y broses.
“Rwy’n rhoi fy niolch personol a diffuant i’r holl ofalwyr di-dâl yng Nghymru a hoffwn roi gwybod iddynt ein bod wedi ymrwymo i’w cefnogi ac y byddwn yn parhau i wneud hynny.”
Dywedodd gofalydd di-dâl o Gaerdydd a nododd lansiad Amser ar daith gerdded llesiant gyda’r Dirprwy Weinidog a gofalwyr di-dâl eraill:
“Mae mynd allan a chael ychydig o awyr iach a chwmni gyda phobl sy'n deall yr hyn rydw i'n mynd drwyddo yn gwneud cymaint o wahaniaeth. Rwy’n falch iawn ein bod yn mynd i gael mwy o gyfleoedd i gymryd seibiannau fel hyn.”
Dywedodd Kate Cubage, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru:
“Mae gofalwyr di-dâl yn dweud wrthym dro ar ôl tro bod gallu cymryd amser i wneud y pethau sy’n bwysig iddyn nhw yn gwneud byd o wahaniaeth. Rydyn ni’n falch iawn o fod yn arwain ar Amser ac i fod yn hwyluso cyfleoedd newydd i ofalwyr di-dâl yng Nghymru gael mynediad i’r seibiannau hyblyg a phersonol sydd eu hangen mor ddirfawr.
“Rydym yn gweithio’n galed i sicrhau bod Amser yn cyflawni ar gyfer y cymunedau gofal amrywiol ledled Cymru ac yn cynnig yr hyblygrwydd sydd ei angen ar ofalwyr di-dâl i fyw bywyd bodlon ochr yn ochr â’u gofal.”