Gofalwyr Ifanc yn Cwrdd ag Aelodau o’r Senedd i Farcio Wythnos Gofalwyr
Fel rhan o’n cyfres o ddigwyddiadau sy’n nodi Wythnos Gofalwyr, gwahoddwyd, aelodau o Gyngor Ieuenctid Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru i dreulio’r diwrnod yn y Senedd, gan gyfarfod ag Aelodau o’r Senedd i drafod eu profiadau o ofalu, a rhannu eu straeon.
Noddwyd y digwyddiad gan Jayne Bryant, aelod Llafur Cymru dros Orllewin Casnewydd, a nododd yn ei haraith ragarweiniol bwysigrwydd codi lleisiau gofalwyr di-dâl. Wrth siarad â’r gofalwyr ifanc oedd yn bresennol, dywedodd mai “chi yw’r arbenigwyr” a bod yr Aelodau “yno i wrando.”
Roedd Kate Cubbage, Cyfarwyddwr newydd Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, hefyd yn croesawu’r mynychwyr ac ein hatgoffa o werth lleisiau gofalwyr di-dâl, a’r angen am newid effeithiol i gynyddu’r gefnogaeth mewn lleoliadau addysg. “Nawr yw’r amser i weithredu. Mae gofalwyr ifanc wedi bod yn dweud wrthym, er dros ddegawd, nad yw’r gefnogaeth y maen yn ei dderbyn mewn ysgolion yn caniatáu iddynt ffynnu a chyflawni ei photensial. Ni allwn fforddio peidio â gweithredu ar hyn yn genedlaethol.”
Nododd cynrychiolydd Senedd Ieuenctid Cymru dros Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, Oliver Mallin, fod cyfrifoldebau gofalu yn aml yn effeithio ar ei allu i berfformio’n dda yn yr ysgol; “Mae’r ysgol wastad wedi bod yn anodd i mi, dydy athrawon ddim wastad wedi bod yn ddealladwy nac yn barod i ddeall fy mhrofiad i.” Siaradodd gofalwyr ifanc eraill hefyd yn helaeth gydag Aelodau’r Senedd am eu trafferthion i gael cymorth yn yr ysgol. Fel pwnc allweddol i’w drafod ar Ddiwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc, mae cefnogaeth i ofalwyr ifanc mewn ysgolion wedi parhau i mewn i Wythnos Gofalwyr, gyda llawer o ofalwyr ifanc yn gweld yr wythnos fel amser addas i godi ymwybyddiaeth ymhlith arweinyddiaeth.
Mynychwyd y sesiwn gan nifer o Aelodau’r Senedd gyda diddordeb mewn gwella bywydau gofalwyr ifanc, gan gynnwys aelodau o Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a Gweinidog Cysgodol y Ceidwadwyr dros Addysg, Laura Anne Jones, a llefarydd Plaid Cymru dros Blant a Phobl Ifanc, Heledd Fychan. Gyda chynrychiolaeth ar draws y pleidiau, roedd gofalwyr ifanc yn gallu cwrdd ag aelodau o bob ochr i’r sbectrwm gwleidyddol.
Roedd y rhai oedd yn bresennol hefyd wedi gwylio ffilm fer a ryddhawyd gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru ar Ddiwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc ym mis Mawrth. Mae’n cynnwys straeon a phrofiadau gofalwyr ifanc o bob rhan o Gymru, yn ogystal â’r newidiadau yr hoffent eu gweld er mwyn derbyn mwy o gefnogaeth yn eu rolau gofalu, yn enwedig mewn lleoliadau addysg. Gwyliwch y ffilm fer yn Gymraeg a Saesneg yma.
Mae Wythnos Gofalwyr yn parhau tan 11 Mehefin, gydag ystod eang o weithgareddau a chyhoeddiadau’n cael eu darparu drwy gydol yr wythnos. Darganfyddwch sut i fod yn rhan o Wythnos Gofalwyr yma.