Lansio adnoddau newydd ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i nodi a chefnogi gofalwyr di-dâl adeg rhyddhau o'r ysbyty
Mae Ymwybodol o Ofalwyr, sef partneriaeth rhwng Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru a Gofalwyr Cymru a ariennir gan Lywodraeth Cymru, wedi lansio adnoddau sydd wedi’u hanelu at weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n ymwneud â’r broses rhyddhau o’r ysbyty gyda’r nod o wella cymorth i ofalwyr di-dâl.
Mae’r rhain yn cynnwys:
- Canllaw byr i staff rheng flaen
- Canllaw datblygu polisi a gwasanaeth ar gyfer uwch staff wardiau a chynllunwyr gwasanaeth
Mae’r canllaw byr yn cynnwys canllawiau ar nodi a chyfathrebu â gofalwyr di-dâl, yn rhoi awgrymiadau ac yn amlinellu rhai camau gweithredu cyflym i ddod yn fwy Ymwybodol o Ofalwyr fel rhan o'r broses rhyddhau neu drosglwyddo o'r ysbyty.
Amlyga’r canllaw gwasanaeth hirach y gorgyffwrdd rhwng bod yn Ymwybodol o Ofalwyr fel rhan o ryddhau o’r ysbyty a chanllawiau cyfredol Llywodraeth Cymru a GIG Cymru, megis D2RA a SAFER. Mae’n nodi hawliau gofalwyr a sut y gall byrddau iechyd a chynllunwyr gwasanaethau ddatblygu gwasanaethau integredig sy’n galluogi gofalwyr di-dâl i wireddu eu hawliau.
Mae’r ddau ganllaw wedi’u cyd-gynhyrchu gyda gofalwyr di-dâl, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol o bob rhan o Gymru a gwasanaethau gofalwyr lleol o Rwydwaith Ymddiriedolaeth y Gofalwyr sydd ag arbenigedd mewn cefnogi gofalwyr di-dâl mewn ysbytai.