Our cookies

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website.
You can allow or reject non essential cookies or manage them individually.

Reject allAllow all

More options  •  Cookie policy

Our cookies

Allow all

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website. You can allow all or manage them individually.

You can find out more on our cookie page at any time.

EssentialThese cookies are needed for essential functions such as logging in and making payments. Standard cookies can’t be switched off and they don’t store any of your information.
AnalyticsThese cookies help us collect information such as how many people are using our site or which pages are popular to help us improve customer experience. Switching off these cookies will reduce our ability to gather information to improve the experience.
FunctionalThese cookies are related to features that make your experience better. They enable basic functions such as social media sharing. Switching off these cookies will mean that areas of our website can’t work properly.
AdvertisingThese cookies help us to learn what you’re interested in so we can show you relevant adverts on other websites and track the effectiveness of our advertising.

Save preferences

 

Mae Kate Cubbage yn ymuno â'r Ymddiriedolaeth Gofalwyr mewn triawd o benodiadau newydd

Mae’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr yn falch iawn o gyhoeddi penodiad Kate Cubbage yn Gyfarwyddydd newydd i Gymru, y diweddaraf mewn cyfres o uwch benodiadau fydd yn helpu cyflawni strategaeth newydd yr elusen.

Mae gan Kate, fydd yn dechrau ar 9 Mai, ystod eang o brofiad uwch yn y sector elusennol, ac mae ganddi hanes cryf o ddatblygu perthnasoedd effeithiol gyda gwneuthurwyr penderfyniadau lefel-uchel ar draws Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, sefydliadau addysg a byrddau iechyd lleol.

Er 2021 gweithiodd yn BookTrust lle y mae’n Bennaeth Materion Allanol (DG) ac yn Gyfarwyddydd Cenedlaethol Cymru, gan ddylanwadu ar y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn mynd ati i gynnig gwell cyfleoedd i blant bregus fwynhau llyfrau. Cyn hynny gweithiodd yn yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr yn Bennaeth Materion Allanol (Cymru).

Ynghyd â’i rolau proffesiynol, mae Kate yn aelod o’r Sefydliad Cysylltiadau Cyhoeddus Siartredig, yn aelod o Fwrdd Ymgynghorol Cymru ar gyfer y Gymdeithas Plant Dall Genedlaethol ac yn ymddiriedolydd Canolfan Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr.

Bydd yn cymryd lle Simon Hatch sy’n gadael yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr i ymuno â Chyngor ar Bopeth Cymru yn Gyfarwyddwr. Catrin Edwards, sef Pennaeth Materion Allanol (Cymru) ar hyn o bryd, fydd Cyfarwyddydd Cymru Dros Dro hyd nes y bydd Kate yn cyrraedd.

Meddai Kate:

“Mae’n fraint enfawr cael fy mhenodi’n Gyfarwyddydd Cymru newydd yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr, mudiad sy’n gweithio i wella bywydau gofalwyr di-dâl ledled gwledydd Prydain. Heb gyfraniad arwyddocaol gofalwyr di-dâl, byddai’r system iechyd a gofal cymdeithasol yn dymchwel. Er gwaethaf hyn, yn rhy aml nid yw gofalwyr di-dâl yn derbyn y gydnabyddiaeth maen nhw’n ei haeddu, na’r gefnogaeth maen nhw ei hangen i fyw bywydau ariannol ddiogel, iach a boddhaus.

“Rwyf yn uchelgeisiol yn fy ymrwymiad i sicrhau bod gofalwyr di-dâl yn cael gwell gwrandawiad a gwerthfawrogiad a bod gwasanaethau gofalwyr lleol yn cael y buddsoddiad maen nhw ei angen. Fel elusen o bwys ar gyfer, gydag ac am ofalwyr, mae gan yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr, mewn partneriaeth â mudiadau gofalwyr lleol, botensial diguro i drawsnewid bywydau gofalwyr di-dâl. Rwyf wrth fy modd i gael y cyfle i fod yn rhan o wneud i hynny ddigwydd.”

Mae penodiad Kate yn dilyn nifer o benodiadau eraill yn yr elusen, wrth i Alex Roberts ymuno yn rôl newydd Cyfarwyddydd Rhwydwaith & Arloesi.

Mae gan Alex brofiad helaeth o wneud i newid cymdeithasol ddigwydd trwy waith cyllidwyr ac elusennau. Daw atom o Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol lle’r oedd yn Bennaeth Arloesi a Gwaith Newydd. Cyn hynny, bu yn Mind am dros ddegawd yn gyrru a llywio esblygiad rhwydwaith yr elusen yn Rheolydd Datblygu’r Rhwydwaith ac yna’n Bennaeth Datblygu Busnes.

Meddai:

“Rwyf yn gyffrous iawn am ymuno â’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr ac rwyf yn edrych ymlaen at weithio gyda’n rhwydwaith o fudiadau gofalwyr lleol i gefnogi, datblygu a hyrwyddo effaith y gwaith a wnawn gyda’n gilydd ar gyfer gofalwyr di-dâl. Rwyf yn deall fod gofalwyr di-dâl a’r mudiadau lleol hollbwysig sy’n eu cefnogi yn wynebu heriau sylweddol oherwydd yr amgylchedd gweithredu ehangach. Mae fy nghefndir ym maes tyfu trwy genhadu ar draws mudiadau a sefydliadau cyllido, seilwaith ac aelodaeth, ac rwyf wedi ymrwymo i weithio gydag a dysgu gan y rhwydwaith sydd rhyngddynt yn darparu gwasanaethau allweddol ar gyfer gofalwyr di-dâl mewn cymunedau lleol ledled gwledydd Prydain.”

Fel y cyhoeddwyd y mis diwethaf, mae Becky Duff hefyd yn ymuno â’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr ar 27 Mawrth yn Gyfarwyddydd newydd Yr Alban. Mae Becky yn dod atom o elusen iechyd meddwl pobl ifanc U-evolve yng Nghaeredin lle y bu’n Brif Weithredydd er 2020.

Mae’r tri phenodiad ar lefel Cyfarwyddydd yn dilyn lansiad Adeiladu Cymdeithas Ofalgar gan yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr, sef strategaeth uchelgeisiol newydd i greu newid parhaol i ofalwyr di-dâl a’r rhwydwaith o fudiadau cefnogi maen nhw’n dibynnu arnynt.

Dywedodd Prif Weithredydd yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr, Kirsty McHugh:

“Rydym wrth ein boddau yn croesawu Kate Cubbage yn ôl i’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr lle y bydd yn arwain ein tîm gwych yng Nghymru. Trwy gydol y broses recriwtio roedd ei hymrwymiad i ofalwyr di-dâl a’r mudiadau gofalwyr lleol sy’n eu cefnogi yn gwbl amlwg i bawb.

“Ynghyd â Kate, rydym yn falch iawn hefyd o groesawu dwy Gyfarwyddydd newydd i’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr. Bydd Alex Roberts yn defnyddio ei phrofiad i yrru ein gwaith gyda mudiadau gofalwyr lleol yn ei flaen, a bydd mewnwelediad Becky yn allweddol wrth iddi arwain ein tîm yn Yr Alban. Bydd y tair yn chwarae rhan enfawr yn gweithredu ein strategaeth newydd a chreu newid trawsnewidiol i ofalwyr teuluol di-dâl.”

 

Related news