Ymddiriedolaeth Gofalwyr yn croesawu Gwasanaeth Gofalwyr Castell-nedd Port Talbot i'w rwydwaith
CymraegEnglish
Mae'n bleser gan yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr gyhoeddi bod Gwasanaeth Gofalwyr Castell-nedd Port Talbot wedi ymuno â Rhwydwaith yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr, yn dilyn cymeradwyaeth gan Fwrdd Cynghori Cymru. Mae hyn yn mynd â’n rhwydwaith yng Nghymru i fyny at naw sefydliad gofalwyr lleol a 125 ledled y DU.
Mae Gwasanaeth Gofalwyr Castell-nedd Port Talbot yn cefnogi ac yn helpu i wella bywydau gofalwyr ar draws yr ardal trwy ddarparu gwybodaeth a chyngor, gwasanaeth eistedd, cefnogaeth allgymorth a gweithgareddau.
Ers 2021, mae Gwasanaeth Gofalwyr Castell-nedd Port Talbot wedi gweithio mewn partneriaeth â Phartner Rhwydwaith Ymddiriedolaeth Gofalwyr sefydledig, Canolfan Gofalwyr Abertawe, i ddarparu Cronfa Cymorth Gofalwyr Cymru. Yn sgil y dull partneriaeth hwn, cyrhaeddodd y rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru, dan arweiniad yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr, ofalwyr yr effeithiwyd arnynt gan galedi ariannol yn dilyn y pandemig a’r argyfwng costau byw ar draws pob ardal yn y rhanbarth.
Dywedodd Margaret Lake, Cadeirydd Gwasanaeth Gofalwyr Castell-nedd Port Talbot: “Rydym yn ymdrechu i ddarparu'r wybodaeth a'r gefnogaeth gywir ar yr amser cywir i ofalwyr di-dâl yng Nghastell-nedd Port Talbot.
“Rydym yn gwneud hynny drwy weithio mewn partneriaeth â meddygon teulu, ein bwrdd iechyd lleol a’r gwasanaethau statudol a ddarperir gan yr awdurdod lleol, yn ogystal â thrwy fod yn chwaraewr allweddol yn y rhwydwaith o sefydliadau trydydd sector sy’n cofleidio pobl sydd angen gofal a chymorth.
“Mae ymuno â’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr yn ein galluogi i fod yn rhan o rwydwaith ehangach a fydd yn galluogi gofalwyr di-dâl yng Nghastell-nedd Port Talbot i gael mynediad at arian a chymorth y mae mawr eu hangen.”
Dywedodd Chris Koehli, Cadeirydd Bwrdd Cynghori Cymru: “Mae’n fraint croesawu Canolfan Gofalwyr Castell-nedd Port Talbot i Rwydwaith Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru. Rydym wrth ein bodd bod yr hyn a ddechreuodd fel partneriaeth â’n Rhwydwaith i ddarparu’r Gronfa Cymorth Gofalwyr wedi datblygu’n aelodaeth lawn.
“Mae hyn yn dyst i’r effaith y mae’r Rhwydwaith ledled Cymru yn ei chael ar ofalwyr di-dâl a’r sefydliadau gofalwyr lleol sy’n eu cefnogi.”