Ymddiriedolaeth Gofalwyr yn ymateb i Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2023-24
CymraegEnglish
Wrth ymateb i Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2023-24 a’r hyn y mae’n ei olygu i ofalwyr di-dâl, dywedodd Dr Catrin Edwards, Pennaeth Materion Allanol:
“Er bod llawer yn y Gyllideb Ddrafft hon sy’n dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ofalwyr di-dâl, mae hwn serch hynny yn gyfle a gollwyd i fabwysiadu dull mwy cynaliadwy o gefnogi gofalwyr di-dâl, sef conglfaen ein system iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
“Rydym yn croesawu’r buddsoddiad cyfunol yn y Gronfa Cymorth Gofalwyr a’r Gronfa Seibiannau Byr yn 2023-24, a fydd yn caniatáu i filoedd yn fwy o ofalwyr di-dâl gymryd yr egwyl sydd ei angen arnynt o ofalu a chael mynediad at eitemau bob dydd hanfodol.
“Fodd bynnag, mae gofalwyr di-dâl yn dweud wrthym yn gyson eu bod angen mwy o arian a mwy o gefnogaeth ar gyfer y person y maent yn gofalu amdano.
“Mae cymorth i ofalwyr di-dâl yn ataliol ac yn gofyn am ddull gweithredu mwy hirdymor nag a nodir yn y Gyllideb Ddrafft hon. Mae hyn yn golygu buddsoddiad y mae mawr ei angen yn y system gofal cymdeithasol, yr ydym yn ei groesawu ar ffurf darparu’r Cyflog Byw Gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol, ond mae hefyd yn golygu defnydd creadigol o’r pwerau datganoledig presennol i hybu incwm yr un o bob saith gofalydd di-dâl sy'n dweud wrthym eu bod yn defnyddio banciau bwyd [gweler y nodiadau].
“Yn 2022 gwelsom Lywodraeth Cymru yn cyflwyno atodiad i’r rhai sy’n derbyn Lwfans Gofalwr. Ychwanegodd hyn i bob pwrpas at fframwaith budd-daliadau presennol Cymru a diogelwyd y gofalwyr di-dâl hynny ar fudd-daliadau’r wladwriaeth dros sydd fwyaf agored i’r argyfwng costau byw o ganlyniad i’r ffaith bod gwir angen diwygio’r system les a redir gan yn ganolog dros y DU.
“Er gwaethaf y dull blaengar yng Nghymru o gefnogi gofalwyr di-dâl yn ariannol yn 2022, nid yw’n ymddangos bod yr un cymorth rhagweithiol yn nodwedd o’r cymorth cyllid cyfiawnder cymdeithasol yn y Gyllideb Ddrafft ar gyfer y flwyddyn i ddod. Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â hyn cyn y Gyllideb Derfynol y flwyddyn nesaf.”
Nodiadau
- Yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr yw’r elusen sy'n gweithio i drawsnewid bywydau gofalwyr di-dâl ledled y DU.
- Yng Nghymru mae'n partneru â'i rhwydwaith o sefydliadau gofalwyr lleol i ddarparu cyllid a chymorth, darparu rhaglenni arloesol sy'n seiliedig ar dystiolaeth a chodi ymwybyddiaeth a dylanwadu ar bolisi.
- Gweledigaeth yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr yw bod gofalwyr yn cael eu clywed a’u gwerthfawrogi, gyda mynediad at gymorth, cyngor ac adnoddau i’w galluogi i fyw bywydau bodlon.
- Yng Nghyfrifiad 2011, roedd tua 370,000 o ofalwyr di-dâl yng Nghymru. Disgwylir i’r ffigur hwn fod yn uwch pan gyhoeddir data Cyfrifiad 2021 ar ofal di-dâl ym mis Ionawr 2023.
- Canfu arolwg yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr ledled y DU o 2,675 o ofalwyr di-dâl yn hydref 2022 fod 1 o bob 7 gofalydd di-dâl wedi defnyddio banc bwyd. Mae'r ffigwr hwn yn codi i 1 o bob 5 ar gyfer gofalwyr di-dâl sy'n derbyn budd-dal y wladwriaeth, Lwfans Gofalwr. Darllenwch yr adroddiad yn Gymraeg ac yn Saesneg.
- Darparodd Llywodraeth Cymru daliad untro o £500 i ofalwyr di-dâl a oedd yn derbyn Lwfans Gofalwr yn 2022. Roedd 57,000 o ofalwyr di-dâl yn gymwys ar gyfer y taliad hwn.
Ar gyfer ymholiadau gan y cyfryngau cysylltwch â Dr Catrin Edwards, Pennaeth Materion Allanol Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, cedwards@carers.org a 07791667005.