Cyn-ofalydd ifanc yn arwain tîm codi arian ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd

CymraegEnglish

Mae Jo Galazka, a ddaeth yn ofalydd ifanc yn 8 oed, yn aelod o Fwrdd Ymgynghorol Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru.  Fe fydd hi’n arwain y tȋm i godi arian hanfodol i'r elusen gan redeg Hanner marathon Caerdydd ar ddydd Sul 3 Hydref.
 

"Newidiodd fy mywyd yn llythrennol dros nos pan ddes i'n brif ofalydd i fy mam, brawd bach a dau frawd a chwaer iau. Roedd gan Mam iselder ôl-enedigol difrifol, a ddatblygodd yn ddiweddarach yn iselder manig ac anhwylder deubegynol.

"Fel yr hynaf ar aelwyd un rhiant, roeddwn i'n teimlo'r cyfrifoldeb i'n cadw ni gyda'n gilydd. Cefnogais fy mam gyda phopeth o feddyginiaeth, cefnogaeth emosiynol, talu’r biliau a chael fy mrodyr a chwiorydd i'r ysgol. Y cyfan tra'n jyglo ysgol fy hun ac yn eiriol dros fy mam i gael y gefnogaeth oedd ei hangen arni.

"Yr unig gefnogaeth gyson drwy fy nhaith oedd Ymddiriedolaeth Gofalwyr ac mae fy nyled yn fawr iddynt.

"Rwyf bellach yn aelod balch o fwrdd ymgynghorol Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru. Un o'm llwyddiannau mwyaf balch yw gallu helpu a chynghori'r elusen yng Nghymru ar y gwaith maen nhw'n ei wneud yn cefnogi gofalwyr ledled Cymru."

Wrth i Jo gychwyn ar yr hanner marathon i gefnogi Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, dywedodd Simon Hatch, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru:

"Mae'n bleser cael llysgennad a model rôl mor gryf i ofalwyr ifanc yn Jo. Fel aelod o'n Bwrdd Cynghori mae hi'n sicrhau bod problemau gofalwyr ifanc yn flaenllaw yn ein meddyliau.

"Wrth redeg yr hanner marathon mae hi nid yn unig yn codi arian ond yn codi ymwybyddiaeth hefyd. Rydyn ni'n hynod ddiolchgar iddi ac yn dymuno'r gorau iddi ar ddiwrnod yr hanner marathon."

 

Related news

Our cookies

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website.
You can allow or reject non essential cookies or manage them individually.

Reject allAllow all

More options  •  Cookie policy

Our cookies

Allow all

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website. You can allow all or manage them individually.

You can find out more on our cookie page at any time.

EssentialThese cookies are needed for essential functions such as logging in and making payments. Standard cookies can't be switched off and they don't store any of your information.
AnalyticsThese cookies help us collect information such as how many people are using our site or which pages are popular to help us improve customer experience. Switching off these cookies will reduce our ability to gather information to improve the experience.
FunctionalThese cookies are related to features that make your experience better. They enable basic functions such as social media sharing. Switching off these cookies will mean that areas of our website can't work properly.
AdvertisingThese cookies help us to learn what you're interested in so we can show you relevant adverts on other websites and track the effectiveness of our advertising.

Save preferences