Cadarnhad y bydd Cronfa Cymorth i Ofalwyr Cymru yn parhau tan 2025
I gyd-fynd ag Wythnos Gofalwyr 2022, mae Llywodraeth Cymru heddiw, 6 Mehefin, wedi cyhoeddi bod y cyllid ar gyfer y Gronfa Cymorth i Ofalwyr wedi'i ymestyn tan fis Mawrth 2025.
Cyrhaeddodd y gronfa hon, a weinyddir gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru a'n partneriaid rhwydwaith lleol yn 2020-21 ac eto yn 2021-22, fwy na 10,000 o ofalwyr di-dâl yng Nghymru. Darparodd dalebau i brynu eitemau bob dydd hanfodol a fe ariannodd wasanaethau i helpu gofalwyr i reoli pwysau ychwanegol gofalu yn ystod y pandemig.
Gwerth £4.5m dros y tair blynedd nesaf, bydd Cronfa Cymorth i Ofalwyr 2022-25 yn helpu i liniaru rhai o effeithiau'r argyfwng costau byw presennol ar ofalwyr di-dâl.
Pan fydd y gronfa'n agor yn ystod y misoedd nesaf, bydd gofalwyr yn gallu cael gafael ar gymorth ymarferol y mae mawr ei angen gan wasanaethau cymorth gofalwyr lleol.
Wrth groesawu'r gronfa, dywedodd Simon Hatch, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru:
"Rydym wrth ein bodd bod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod pwysigrwydd y gronfa hollbwysig hon ac wedi ehangu ei darpariaeth dros y tair blynedd nesaf.
"Gyda'r gost gynyddol o fyw yn taro gofalwyr yn galed, bydd y gronfa estynedig yn ein galluogi i gefnogi miloedd yn fwy o ofalwyr gyda'r cymorth ymarferol ac ariannol sydd ei angen arnynt."